Prifysgol Aberystwyth

Chwilio am Gwrs

Astudio gyda Ni

Mae ymchwil arloesol y Brifysgol yn bwydo’n syth i’n gwaith dysgu, gan gyfoethogi ein cyrsiau a chreu profiad dysgu heb ei ail, gan eich helpu i feithrin sgiliau a datrys problemau go iawn.

Astudiaethau Israddedig:

Ymchwil yn Aberystwyth

Mae ymchwil Aberystwyth yn helpu i newid y byd er gwell, drwy wneud gwahaniaeth i fywydau go iawn. Rydym yn ymdrin â rhai o heriau mwyaf taer cymdeithas, gan gynnwys newid hinsawdd, iechyd byd-eang, newidiadau cymdeithasol, ac archwilio’r gofod.

Darganfyddwch Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar arfordir y gorllewin, rhwng Mynyddoedd y Cambria a Bae Ceredigion. Mae’r gymuned yn amrywiol a chroesawgar o fewn tref farchnad hanesyddol ar lan y môr sydd â diwylliant Cymreig cosmopolitan. Gyda chymaint i’w gynnig, bydd gennych ddigonedd o ddewis.

Newyddion

Gweld y newyddion yn llawn

Agoriad clinig anifeiliaid newydd yn Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth

Mae ffug-glinig milfeddygol newydd wedi agor yn swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth i’r unig ysgol filfeddygaeth yng Nghymru ehangu.

Plant yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth yn Aberystwyth

Gwnaeth dros 1,500 o ddisgyblion gymryd ran mewn gweithgareddau ymarferol bywiog yn arddangosfa wyddoniaeth ryngweithiol flynyddol y Brifysgol.

Geifr yn glyfrach na defaid ac alpacaod – astudiaeth

Mae geifr yn gallu prosesu gwybodaeth a datrys profion cof yn well na defaid ac alpacaod, yn ôl ymchwil gan wyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Gosod y lechen olaf ar dyredau De Seddon

Mae’r gwaith o adnewyddu’r tyredau nodedig ar ben deheuol yr Hen Goleg bron wedi ei gwblhau wrth i waith ar y prosiect uchelgeisiol i roi bywyd newydd i’r adeilad rhestredig gradd 1 gymryd cam sylweddol ymlaen.