Prifysgol Aberystwyth
Chwilio am Gwrs
Digwyddiadau i ddod
Astudio gyda Ni
Mae ymchwil arloesol y Brifysgol yn bwydo’n syth i’n gwaith dysgu, gan gyfoethogi ein cyrsiau a chreu profiad dysgu heb ei ail, gan eich helpu i feithrin sgiliau a datrys problemau go iawn.
Astudiaethau Israddedig:
Astudiaethau
Ôl-raddedig:
Opsiynau Astudio Eraill
Ymchwil yn Aberystwyth
Mae ymchwil Aberystwyth yn helpu i newid y byd er gwell, drwy wneud gwahaniaeth i fywydau go iawn. Rydym yn ymdrin â rhai o heriau mwyaf taer cymdeithas, gan gynnwys newid hinsawdd, iechyd byd-eang, newidiadau cymdeithasol, ac archwilio’r gofod.
Darganfyddwch Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar arfordir y gorllewin, rhwng Mynyddoedd y Cambria a Bae Ceredigion. Mae’r gymuned yn amrywiol a chroesawgar o fewn tref farchnad hanesyddol ar lan y môr sydd â diwylliant Cymreig cosmopolitan. Gyda chymaint i’w gynnig, bydd gennych ddigonedd o ddewis.
Newyddion
Gweld y newyddion yn llawnGwyddonwyr Aberystwyth yn croesawu carreg filltir o ran Telesgop Solar Ewrop
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi croesawu'r newyddion bod Telesgop Solar Ewrop, prosiect rhyngwladol mawr i astudio'r Haul, wedi derbyn statws Tirnod gan y Fforwm Strategaeth Ewropeaidd ar Seilwaith Ymchwil.
Cymorth ynni arbenigwyr Prydain i Wcráin gyda gorsaf bŵer geothermol newydd
Mae academyddion o Brydain yn cynorthwyo Wcráiniaid i ailadeiladu eu systemau ynni gyda gorsaf bŵer geothermol newydd yng ngorllewin y wlad sy’n dioddef o achos y rhyfel.
Trafod Ieithoedd Prydain Rufeinig mewn cynhadledd yn Aberystwyth
Bydd ymchwilwyr o bob rhan o Ewrop yn dod ynghyd yn Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn i drafod sut y defnyddiwyd ieithoedd Celtaidd a Lladin ym Mhrydain Rufeinig.
Cyhoeddi enillydd Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Beca Lois Keen wedi ennill ysgoloriaeth Coleg Cymraeg 'Defi Fet' i astudio Milfeddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
