Lliwiau a Ffontiau Corfforaethol
Lliwiau Corfforaethol
Mae palet lliwiau sylfaenol Prifysgol Aberystwyth yn cadw at ethos hanesyddol Aberystwyth, sy'n elfen bwysig o'r brand.
Mae'r lliwiau'n rhai hyderus a chryf ac yn cynorthwyo Aberystwyth i gynnal ei delwedd fel prifysgol o fri a gydnabyddir yn rhyngwladol a lle rhoddir pwys ar waith ymchwil.
Lliw | Côd CMYK | Pantone | RGB | HEX |
---|---|---|---|---|
Melyn |
0%, 20%, 100%, 0%
|
123C | 255 205 00 | #ffcc00 |
Glas tywyll | 100% 95% 35% 30% | 2766C | 36 39 83 | #242753 |
Gwyn | 0% 0% 0% 0% | Amherthnasol | 255 255 255 | #ffffff |
Llwyd tywyll | 63% 56% 56% 31% | 425C | 87 87 86 | #575756 |
Ffont Corfforaethol
Dylai dogfennau ac adroddiadau a argreffir ddefnyddio ffurfdeip brand y Brifysgol, sef HK Grotesk, fel y prif ffurfdeip (Corff y Testun). Mae sawl gwahanol drwch ar gael er mwyn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd.
Os nad yw HK Grotesk ar gael i'r defnyddiwr, mae Arial yn ddewis amgen addas.
Mae'r ffontiau hyn ar gael i'w lawrlwytho trwy wneud cais i'r Swyddfa Marchnata a Chyfryngau Creadigol ar pubstaff@aber.ac.uk.