Amdanom ni

Eich pennod nesaf: Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth

Croeso gan Lousie Marshall, Pennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Yma yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn cynnig cyrsiau hyblyg sy’n cyfuno elfennau gorau astudiaethau llenyddol traddodiadol ag ymagweddau arloesol tuag at ein pynciau. O Chaucer i Twitter, mae gan ysgrifennu'r grym i hysbysu, herio a newid ein canfyddiadau. Yn Aberystwyth, cewch sianelu eich angerdd tuag at ddarllen ac ysgrifennu er mwyn cyfrannu yn eich ffordd eich hun i’n hetifeddiaeth lenyddol ac i lenyddiaeth y dyfodol.

Rydym yn rhoi'r cyfle i'n myfyrwyr archwilio testunau ac awduron sy'n tanio'u dychymyg, i arbrofi gyda ffurf yn eu hysgrifennu eu hunain, ac i ddatblygu sgiliau a werthfawrogir yn y gweithle. Byddwch yn ymuno â chymuned o ymchwilwyr a myfyrwyr sy'n gweithio ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth, sy'n creu gwybodaeth newydd, ac yn archwilio'r datblygiadau cyffrous ym myd ymarfer creadigol a beirniadol. Rydym wedi ymrwymo i feithrin gallu ein myfyrwyr i feddwl mewn modd beirniadol a chreadigol, ac fel un o'n myfyrwyr bydd cyfle i chi dderbyn cefnogaeth academaidd a bugeiliol bersonol a fydd yn sicrhau eich bod yn ffynnu, yn datblygu, ac yn rhagori yn eich dewis bynciau.

Cynlluniwyd ein cwricwlwm yn ofalus i'ch galluogi i symud ymlaen o'ch profiadau cyntaf gyda thestunau llenyddol a'ch cynigion cynnar ar gyfansoddi i ddod yn ddarllenwyr, ymchwilwyr, ac ysgrifenwyr medrus. Ym mha bynnag gyfnod o'r siwrne academaidd yr ydych ar hyn o bryd, gall Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Aber eich helpu i wireddu eich amcanion ar gyfer y dyfodol.

Dechreuwch eich pennod nesaf yma

Dyma pam y dylech chi ddechrau eich pennod nesaf gyda ni yma yn Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth:

  • Mae ein myfyrwyr yn werthfawrogol iawn o'n safonau di-fai o ran dysgu ac addysgu, a'n rhwydwaith gadarn o gefnogaeth academaidd a bugeilio, ac yn disgrifio eu "catref oddi cartre" fel "teulu mawr hapus". Mae'r ymdeimlad o gymuned rydym yn ei greu o fewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth yn cael effaith go iawn ar gynnydd academaidd a lles ein myfyrwyr ac rydym yn falch iawn ein bod wedi ein dyfarnu yn Adran y Flwyddyn yn 2021 yn y gwobrwyon blynyddol a arweinir gan fyfyrwyr.
  • Fel prif ddinas ddiwylliannol Cymru ag iddi enw da’n rhyngwladol, mae Aberystwyth (neu Aber fel y'i gelwir gan y trigolion lleol) yn lle arbennig iawn i astudio ynddo. Nid yn unig y mae’r Brifysgol wedi’i lleoli yn un o ardaloedd harddaf y DU, ond byddwch hefyd yn astudio mewn prifysgol sy'n cynnig adnoddau academaidd a chyfleoedd dysgu rhagorol.
  • Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022, cawsom ein hethol ar y brig yng Nghymru ac yn 3ydd yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd myfyrwyr ym maes Ysgrifennu Creadigol, ac ar y brig yng Nghymru ac yn y 5 Uchaf yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd myfyrwyr ym maes Llenyddiaeth Saesneg.
  • Cawsom ein hethol ar y brig yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym mhwnc Saesneg gan Ganllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times, ac ar y brig yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd â’r addysgu ym mhwnc Ysgrifennu Creadigol gan Dabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024. Mae hyn yn dangos nid yn unig bod ein myfyrwyr ymhlith yr hapusaf yn y wlad ond maent hefyd yn elwa o'r addysgu mwyaf effeithiol yn ein meysydd pwnc yn y Deyrnas Unedig.
  • Rydym yn cynnig casgliad amrywiol a bywiog o weithgareddau allgyrsiol i gyfoethogi'ch amser yn fyfyrwyr yn Aber. Yn ogystal â grwpiau darllen, yr encil ysgrifennu blynyddol i fyfyrwyr y flwyddyn olaf, a'n taith boblogaidd 'Dulyn Lenyddol', rydym hefyd yn trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, darlleniadau, a gweithdai, sy'n gyfle ichi ymgysylltu â llenorion, ysgolheigion, a phobl proffesiynol o'r diwydiant ledled y byd. Ymysg y rhai sydd wedi ymweld yn ddiweddar mae: y colofnydd a beirniad Caitlin Moran; y bardd llawryfog Andrew McMillan; y nofelwyr Niall Griffiths, Gareth L Powell, D K Fields, a Sarah Hall; a’r blogiwr poblogaidd a rheolwr y cyfryngau cymdeithasol i Vintage, Leena Normington.
  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o noddwyr swyddogol Gŵyl y Gelli, a bob blwyddyn mae myfyrwyr yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn mwynhau mynediad am ddim i'r ŵyl lenyddol fwyaf yn y byd lle maent yn cwrdd ag awduron sy'n adnabyddus yn rhyngwladol (gweler ein cyfrif Trydar i weld rhai o'n israddedigion yn cwrdd â Margaret Atwood).
  • Mae ein hadran yn gartref i'r New Welsh Review - prif gylchgrawn llenyddol Cymru - a'r International Journal of Welsh Writing in English. I lawr y coridor o'r Adran, cewch hyd i swyddfeydd Honno - gwasg menywod Cymru. Trwy’r cysylltiadau hyn, rydym yn cynnig cyfleoedd cyffrous ichi i fod yn rhan o amrywiaeth o weithgareddau ysgrifennu a chyhoeddi, cyfleoedd interniaeth, prosiectau a hyfforddi.
  • Mae gennym lyfrgell rhagorol yn y brifysgol ac, ar ben y casgliad arferol o gyhoeddiadau ysgolheigaidd a beirniadol, mae’n gartref i gasgliad hynod ddiddorol o lyfrau prin a fydd yn rhoi pleser i unrhyw un sydd â diddordeb mewn darllen a’r grefft o greu testun. Yn ogystal, mae gennym un o’r llyfrgelloedd mwyaf yn y byd ar garreg ein drws – Llyfrgell Genedlaethol Cymru – sy’n un o ddim ond pum sefydliad hawlfraint yn y Deyrnas Unedig ac sy'n gaffaeliad mawr iawn i'n myfyrwyr. Nid yw'n syndod, felly, ein bod yn cael ein dyfarnu'n gyntaf yn y DU am ein hadnoddau addysgu yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn gyson.
  • Fe'n lleolir o fewn Athrofa'r Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Oherwydd hynny, cewch fanteisio ar fod yn rhan o amgylchedd amlddisgyblaethol sy'n gyfoeth o ddiwylliant ac yn gartref i arbenigwyr ym meysydd Addysg; Ieithoedd Modern; Celfyddyd Gain, Hanes Celf, a Ffotograffiaeth; Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; y Gyfraith a Throseddeg; Gwleidyddiaeth Ryngwladol; ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
  • A phan fyddwch chi'n dymuno cael gorffwys rhag yr astudio, cewch fwynhau hwrlibwrli campws y brifysgol - y cyfleusterau chwaraeon a Chanolfan y Celfyddydau, sawl caffi (sy'n gwerthu cacennau gwych), a golygfeydd bendigedig o fae Ceredigion. Cewch yma bopeth a fydd ei angen arnoch i ymestyn ac ysbrydoli'ch creadigrwydd.

Eich camau nesaf

Gobeithio y bydd y tudalennau gwe hyn yn rhoi blas ichi o’r bywyd a geir yn ein Hadran. Cymerwch amser i ddarllen a chanfod mwy am ein cyrsiau, ein hymchwil, a'n cymuned ddysgu. Os oes genych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni. Cewch hyd i'r manylion cyswllt yn yr adran 'Cysylltwch â ni'. Ac os nad ydych wedi bod i Aberystwyth o'r blaen, dewch ar un o'n Diwrnodau Agored, Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr neu cofrestrwch ar un o'n Teithiau Campws. Dewch i ymuno â rhai o'r staff a myfyrwyr sy'n cyfrannu at greu man mor wych i fyw ac astudio ynddo, ac fe gewch weld drosoch eich hun pam yr ystyrir ni'n un o adrannau Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol orau'r DU.