Astudio dramor

Ottawa, Canada

Canfod diwylliannau eraill

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau. Bachwch ar y cyfle i ganfod diwylliannau eraill, i herio eich hun a chasglu profiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa.

Gall astudio yn un o'n prifysgolion partner gynnig persbectif newydd i chi ar eich pwnc a'r cyfle i ddyfnhau ac ategu'ch astudiaethau yn Aberystwyth. Gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol.

Canfod ble gallwch chi fynd yn fyfyriwr yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Rydym hefyd yn cynnig ein cynllun gradd English Studies and TESOL gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor neu mewn diwydiant, i roi cyfle i chi gael profiad o Ddysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, neu fyw ac astudio dramor am flwyddyn academaidd gyfan.

Beth am ddysgu mwy am y profiad o astudio dramor a sut mae ein myfyrwyr wedi elwa o’r rhaglen drwy glicio ar y tabiau:

Chloe Deltufo

"Astudiais i ym Mhrifysgol Guelph yn Ontario, Canada am un semester. Roedd Guelph yn lle gwych i astudio. Mae'n dref bach tlws gyda digon o siopau, caffis, parciau, ac mae'n fywiog gyda'r nos. Dim ond awr o Toronto yw hi ac roedd yn hawdd ei chyrraedd ar y bws.

Mae gan y brifysgol adran myfyrwyr rhyngwladol wych sy'n trefnu digwyddiadau a theithiau. Drwy hynny roeddwn i'n gallu gwneud ffrindiau gyda chyd-fyfyrwyr o bedwar ban byd, a dw i dal mewn cysylltiad â nhw heddiw. Cefais y cyfle i fynd ar daith i Niagra Falls ac Efrog Newydd, ac roedd hynny'n anhygoel.

Roeddwn i ychydig bach yn nerfus am fynd dramor i astudio, ond roedd un o benderfyniadau gorau fy mywyd. Drwy'r profiad hwn, wnes i fagu hyder, hunan-barch ac ymagwedd dda at fywyd, a baswn i'n argymell i fyfyrwyr eraill i fachu'r cyfle i astudio dramor."

Abbey Pepper

"Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael treulio fy mlwyddyn dramor yn Ohio ym Mhrifysgol Talaith Bowling Green (BGSU). Roedd fy nghyfnod yno yn hynod o ddifyr a rhoddodd gyfle i mi gyfarfod grŵp hollol newydd o bobl a’m cyflwynodd i ddiwylliant newydd nad oeddwn wedi ei brofi o’r blaen. Uchafbwynt fy nghyfnod dramor oedd y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai gyda llenorion o amrywiaeth o gefndiroedd hollol wahanol i’m cefndir i fy hun. Roedd hyn yn rhoi safbwyntiau a syniadau newydd ar fy ngwaith oedd yn fy helpu i wella’n sylweddol. Ar ben hyn, roedd y cyfle i fyw bywyd bob dydd mewn diwylliant newydd yn fy ysbrydoli i ddefnyddio fy mhrofiadau fy hun wrth ysgrifennu. Golygai hyn fy mod yn ysgrifennu straeon oedd yn newydd ac yn gyffrous ac yn hollol wahanol i fy ngwaith blaenorol. Cefais y cyfle hefyd i sefydlu cysylltiadau â llenorion o bedwar ban byd, sydd wedi bod yn fodd i ehangu fy nghymuned fy hun o lenorion tu allan i Aberystwyth. Ar lefel bersonol, daeth llawer o’r bobl y cyfarfûm â hwy yn ystod fy nghyfnod yn BGSU yn gyfeillion oes yr wyf wedi cael y pleser o fod mewn cyswllt â hwy ar ôl gorffen fy mlwyddyn dramor. Rwyf yn fythol ddiolchgar am y cyfle hwn!"

Abbey Pepper, Ysgrifennu Creadigol (UDA, 2019-20)