Cyflogadwyedd

Dyn yn edrych ar CV ac yn cymryd nodiadau

Dydy hi byth yn rhy gynnar (nac yn rhy hwyr) i ddechrau cynllunio eich gyrfa ac yma yn Aber rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw eich dyfodol chi.

Mae ein cyrsiau gradd wedi eu cynllunio i sicrhau bod eich doniau’n cael eu meithrin a’u hyrwyddo trwy gydol eich cyfnod yn Aber ac ar ôl hynny. Yn ogystal â chyflwyno addysg o ansawdd eithriadol yn ein pynciau rydym hefyd yn gweithio gyda’n myfyrwyr i sicrhau bod y sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder ganddynt i lwyddo yn y byd gwaith ar ôl graddio.

Gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol yw’r ‘safon aur’ yn unrhyw fan gwaith lle rhoddir gwerth ar gyfathrebu. Mae ein cynlluniau gradd cyffrous yn berthnasol i’r gweithle ac mae cyflogwyr yn eu parchu’n fawr. Bydd yr addysg yn rhoi’r sgiliau allweddol i chi allu creu CV cynhwysfawr sy’n disgrifio eich cymwyseddau amrywiol – y cyfan gyda chefnogaeth ac arbenigedd ein Gwasanaethau Gyrfa. Ar ben hynny, rydym yn gweithio gyda’n myfyrwyr i sicrhau eu bod yn trosglwyddo’n esmwyth o’r campws i yrfa – mae 96% o’n graddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach o fewn 6 mis ar ôl graddio – 2% yn fwy na chyfartaledd cenedlaethol y pwnc (HESA 2018), a does dim yn well gennym ni na chlywed am eu llwyddiant.

Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd mewn pob math o feysydd sydd â galw mawr amdanynt.  Yn ddiweddar aeth graddedigion yn eu blaen i gael eu cynrychioli gan rai o brif asiantau llenyddol Prydain a chafodd eu gwaith ei gyhoeddi gan rai o’r cyhoeddwyr uchaf eu bri yn y byd, gan gynnwys Faber & Faber a Penguin. Nid bod yn awdur clodfawr yw eich unig opsiwn gyda gradd yn un o’n pynciau. Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i bron bob sector, o lywodraeth leol i gyllid, o addysg i newyddiaduriaeth ar gyfer y cyfryngau newydd – does dim terfyn i ble gall gradd mewn Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol fynd â chi.

Beth am i ni weld beth mae graddedigion Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Aber yn ei wneud nawr, sut y bu iddynt gyrraedd yno, a pham fod eu graddau wedi bod yn rhan mor bwysig o’r daith honno.

Wedi Graddio'n Ddiweddar

“Fel un sydd wedi graddio mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, mae ehangder ysgubol o gyfleoedd ar gael i mi. Rwyf wedi dewis mynd yn Athro Ysgol Gynradd ac wedi cael cynnig nifer o wahanol lwybrau ar sail fy sgiliau eang. Mae’r radd wedi rhoi hyder i mi, nid oherwydd fy sgiliau academaidd yn unig, ond oherwydd fy ngallu i gyfathrebu ac ymchwilio, rhywbeth nad yw pob gradd yn ei gynnig. Mae’r galluoedd wedi fy helpu gyda fy ngheisiadau am swyddi dysgu a’r cyfweliadau, a bydd yr holl nodweddion hyn mae’r radd wedi eu rhoi i mi yn gymorth trwy gydol fy mywyd proffesiynol.”

Megan Gillett (BA Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol)

Y Rheolwr Marchnata

“Mae fy ngradd o Aberystwyth wedi cyfrannu at fy ngallu i sicrhau swydd ddiddorol a pharhaol yn sector y celfyddydau, ond yn fwy na hynny, mae’r radd yn golygu fy mod yn gallu siapio a datblygu’r swydd a mynd i’r afael â’r gwaith a’i gyd-destun yn feirniadol. Nid yw pob swydd yn gofyn nac yn annog meddwl yn feirniadol nac yn gofyn am hunanbenderfyniaeth, ond teg dweud bod cwrs gradd diddorol a heriol, fel y rhai a gynigir yn Aberystwyth, yn gadael i chi adnabod cyfleoedd o’r fath ac yn rhoi’r hyder i chi fanteisio arnynt. Bydd gennych, fel graddedigion Saesneg, arfogaeth o sgiliau beirniadu, dadansoddi a chyfathrebu i’w cynnig i gyflogwyr goleuedig, yn ogystal â meistrolaeth ar arddulliau a chyweiriau a fydd yn destun cenfigen i’ch cydweithwyr o ddisgyblaethau eraill.”

Claudine Conway (BA Saesneg, MA Saesneg)

Y Rheolwr Prosiect

"Mae angen lefel uchel o greadigrwydd i’r elfen o ysgrifennu yn fy swydd, er mwyn meddwl am syniadau newydd ar gyfer erthyglau. Yn ystod fy astudiaethau Saesneg, datblygais sgiliau ysgrifennu ac ymchwilio a fu’n gymorth i mi ddod o hyd i swydd ym maes newyddiaduraeth ac yna addasu hefyd yn eithaf rhwydd i alwadau fy swydd bresennol. Rhoddodd astudio Saesneg yr hunanddisgyblaeth sydd ei hangen hefyd i reoli fy llwyth gwaith yn effeithiol ac i arwain pobl eraill yn llwyddiannus.”

Daniela Evans (BA Saesneg)

Yr Academydd

“Cefais brofiadau amhrisiadwy yn addysgu ar gyrsiau Ysgrifennu Creadigol, yn gweithio’n gynrychiolydd myfyrwyr ar y Pwyllgor Materion Uwchraddedig, ac yn cwblhau fy mhrosiect gyda chymorth Grant Teithio ac Ymchwil yr adran i’r un pentref syrffio anghysbell yng Nghosta Rica lle gosodir ail hanner fy nofel. Roedd y profiadau hyn yn golygu fy mod mewn sefyllfa dda i lwyddo mewn marchnad waith hynod gystadleuol. Mae Lleoliad PA hefyd yn atyniad mawr. Alla i ddim dychmygu lleoliad sy’n ysbrydoli mwy. Y Llyfrgell Genedlaethol, y dref ddarluniaidd, yr arfordir garw – y dirwedd gyfan mewn gwirionedd yn addas i fyfyrdod, meddwl yn ddwys a gwaith deallusol ystyrlon."

Seth Clabough (PhD Ysgrifennu Creadigol)

Y Cyfarwyddwr Gweithredol

“Mae fy astudiaethau Saesneg yn gymorth enfawr yn fy swydd bresennol. Oherwydd swm yr wybodaeth a all wynebu myfyrwyr llên, dysgais sut i ddarllen ac amgyffred ar gyflymder yn ogystal â chynllunio a gwneud ymchwil manwl. Wrth wneud penderfyniadau, ar y llaw arall, mae’n hanfodol canolbwyntio ar ddim ond rhai meysydd pwnc, dysgu rheoli eich amser, a hunanddisgyblaeth. Mae ymwneud â phwnc sy’n seiliedig ar iaith yn amlygu pwysigrwydd cyfathrebu’n glir ac yn gryno, er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd sydd â barn amrywiol”

Simon Lee (BA Saesneg)

Yr Ysgrifennwr Copi

“Fel myfyriwr Saesneg, rydw i wedi ennill sgiliau trosglwyddadwy amhrisiadwy yn ystod fy ngyrfa addysgol. Gallaf ddweud, â’m llaw ar fy nghalon, bod ennill gradd Saesneg wedi bod yn un o’r pethau mwyaf gwerthfawr a buddiol a ddigwyddodd i mi erioed – yn anad dim am fod elfennau’r radd yn dod ynghyd yn rhan o bob swydd rydw i wedi ei gwneud erioed. Mae astudio Saesneg yn golygu mwy na mecaneg gramadeg, atalnodi a sillafu – mae’n ymwneud â chyfathrebu. Y dyddiau hyn yn enwedig, â’r economi fyd-eang wedi symud yn fwy penodol ac uniongyrchol tuag at y diwydiant gwasanaethau, mae cyfathrebu yn fater allweddol ac o’r herwydd, bydd Saesneg fel pwnc yn aros yn un o ffeithiau economaidd bywyd.”

Miles Vrahimis (BA Saesneg)

Yr Awdur

“Bu fy nghyfnod yn Aberystwyth yn ysbrydoliaeth. Agorodd ffenestr i weddill y byd. Roedd cwrdd â phobl o bob cefndir ac o bob rhan o Brydain a thu hwnt yn dda am iddo ehangu fy ngorwelion a gwneud i mi sylweddoli bod modd i mi wneud pa beth bynnag y penderfynaf ymroi i’w wneud. Mae Saesneg yn amlwg wedi bod yn bwysig i mi gan fy mod wrth fy modd gyda llyfrau – eu darllen, eu dysgu a’u hysgrifennu.”

Hayley Long (BA Saesneg)