Cyfoethogi'r Cwricwlwm

Disgyblion ysgol yn cael blas ar ddarlith

Mae ein staff yn hapus i’ch helpu i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau cyfoethogi cwricwlwm.

Rydym yn cynnig gweithdai, darlithoedd a sesiynau trafod i ddisgyblion TGAU a Safon Uwch ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.

Gallwn ddod atoch chi i’r ysgol neu’r coleg, neu gallwn drefnu ymweliad â’r campws ar gyfer sesiynau rhagflas Saesneg y Brifysgol. Wrth gwrs, sylweddolwn fod cyflawni blaenoriaethau adfer wedi Covid yn dasg sylweddol; os gallwn eich cynorthwyo yn hyn o beth, byddai’n bleser clywed gennych. I weld sut y gall yr adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gefnogi eich addysg, anfonwch e-bost at engstaff@aber.ac.uk.

Mae gan y Brifysgol Ganolfan Adnoddau Ar-lein hefyd, lle cewch adnoddau penodol ar gyfer pynciau ac adnoddau cyffredinol. I gael mwy o wybodaeth am weithgareddau Ymestyn Allan canolog Aberystwyth, cysylltwch â’r Tîm Ehangu Cyfranogiad.

Ymunwch â ni

Trwy gydol y flwyddyn academaidd, cynhelir rhaglen fywiog o seminarau ymchwil, digwyddiadau gydag awduron, a darlithoedd cyhoeddus. Os ydych chi’n athro neu athrawes Saesneg ac yn awyddus i ymuno â ni (wyneb yn wyneb neu ar-lein) yn unrhyw rai o’n digwyddiadau, byddai’n bleser eich croesawu. I ymuno â’n rhestr bostio er mwyn clywed am ddigwyddiadau cysylltwch ag engstaff@aber.ac.uk neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Prosiect Arwr o Athro

Mae ein prosiect  blynyddol Arwr o Athro yn annog myfyrwyr y flwyddyn gyntaf i gydnabod cyfraniad unigryw eu hathrawon Saesneg i’w datblygiad academaidd, yn gyfle i ddiolch iddynt am yr holl gymorth a chefnogaeth, a dathlu eu pennod nesaf fel myfyrwyr ein pwnc. Rydyn ni o’r farn bod pob athro Saesneg yn arwr, ond mae’n debyg nad oes gennym ddigon o fygiau arwr o athro i bawb!