Cymorth a Chefnogaeth
Cymorth a Chefnogaeth
- Tiwtor Personol
- Tiwtor Academaidd
- Tiwtor Ail Iaith
Fel rhan o’r gefnogaeth a gewch yn ystod eich amser gyda ni, byddwch yn cael cymorth gan Diwtor Personol. Bydd y tiwtor yn eich cefnogi o ddechrau i ddiwedd eich cwrs gradd, ac yn eich helpu â materion academaidd a phersonol. Bydd croeso ichi gysylltu â'ch tiwtor pan fydd angen cymorth arnoch.
Byddwch hefyd yn cael cefnogaeth Tiwtor Academaidd i'ch helpu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym yn darparu Tiwtor Ail Iaith penodedig, cynllun mentora gan gymheiriaid, ac amser paned anffurfiol rheolaidd. At hynny, mae UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) yn dod â siaradwyr Cymraeg at ei gilydd mewn ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol, cerddorol, elusennol a chwaraeon ar draws y flwyddyn academaidd.
Dyma’r cyfuniad sy’n sicrhau bod gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd enw da fel lle cyfeillgar a chefnogol i astudio ynddo.