Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu
Enw: |
|
Adam Jones | |
Cartref: |
|
Yn wreiddiol o Lanaman, Dyffryn Aman ond bellach yng Ngors-las, Cwm Gwendraeth | |
Teitl Swydd: |
|
Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu | |
Sefydliad: |
|
Mentrau Iaith Cymru |
Disgrifiad: |
Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn ieithoedd ac yn enwedig yn sefyllfa’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae cael dy fagu mewn ardal lle yr oedd 80% o’r boblogaeth yn siarad yr iaith pan oeddet yn blentyn, ond sydd bellach wedi gostwng yn sylweddol, yn sicr o adael ei hoel ar y ffordd y mae dyn yn meddwl am bethau ac yn poeni am y Gymraeg. Pan oeddwn yn fyfyriwr yn Aberystwyth, yn astudio BA mewn Cymraeg ac Almaeneg i ddechrau, cefais fy nenu’n syth i fwrlwm y gymdeithas Gyrmaeg yno. Fel aelod o UMCA, y Geltaidd, Y Gymdeithas Gristnogol, Cymdeithas Taliesin a Chôr yr Aelwyd, roedd bod yn fyfyriwr yn Aberystwyth yn newid byd. Mae Aberystwyth yn lle arbennig iawn. Fel myfyriwr Cymraeg, bron iawn rwyt ti’n teimlo fel aelod o’r gymdeithas ehangach, ac roedd Adran y Gymraeg yn sicr yn gwneud hyn yn rhan annatod o’n hastudiaethau hefyd. Caswom gyfleoedd di-ri i astudio llenyddiaeth yr ardal; rwy’n siŵr bod cerdded traeth y De wrth ddarllen un o gerddi mwyaf nodedig Bobi Jones yn un o’r atgofion arbennig hynny a fydd yn aros gyda fi am byth. Roedd cyfoeth y modiwlau a oedd ar gael yn yr Adran hefyd yn atynfa fawr. Cefais y fraint o astudio’r ieithoedd celtaidd, tafodieitheg, llenyddiaeth y Mabinogi, rheolau gramadeg a chystrawennol y Gymraeg, sgiliau cyfieithu a theorïau llenyddol, a dyma nodi ond cnewyllyn o’r amrywiaeth sydd ar gael. Yn ddios, roedd y gefnogaeth broffesiynol a phersonol a gefais yn Aberystwyth yn gaffaeliad mawr imi wrth fentro i’r byd gwaith. Hon yw fy ail swydd ers graddio oherwydd roeddwn i'n gweithio fel Swyddog Cyfathrebu i Gyrfa Cymru gynt. Dichon na fyddwn wedi bod mor ffodus i weithio ym maes hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg heb gefnogaeth ddigamsyniol yr Adran hon. |
Diwrnod arferol: |
Nid yw’r un diwrnod yr un peth ym myd y Mentrau Iaith! Fel arfer byddaf yn cyrraedd y swyddfa tua 8:30 yn y bore ac yna’n gweithio tan tua 16:30 yn y prynhawn. Mae’r swydd hon yn un genedlaethol, ac felly, yn amlach na pheidio byddaf hefyd ar grwydr o amgylch Cymru yn ymweld â swyddfeydd y Mentrau Iaith, yn cwrdd â phartneriaid ac yn ymweld â’r gweithgareddau dirifedi a drefnir gan y Mentrau Iaith ym mhob cwr o Gymru. Fel ym mhob swydd, mae i’r flwyddyn ei chyfnodau prysur a’i chyfnodau tawelach. Mae’r haf yn dueddol o fod yn brysur iawn gyda phresenoldeb i’w gydlynu yn yr Eisteddfodau a digwyddiadau’r haf fel y Sioe Fawr. Prif ddyletswydd y rôl wrth gwrs yw codi proffil gwaith y Mentrau Iaith ar lefel leol a chenedlaethol yn ogystal â hyrwyddo ymgyrchoedd sy’n ceisio codi proffil y Gymraeg. Mae’r Mentrau Iaith yn gyrff amrywiol o ran eu maint a chylch eu gwaith, ac felly mae sicrhau ein bod yn eu cynorthwyo ym mhob ffordd bosibl wrth wraidd ein gwaith. I’r perwyl hwn byddaf yn llunio strategaethau cyfathrebu a marchnata, yn datblygu ymgyrchoedd hyrwyddo, yn creu cynnwys ar gyfer ein gwefan, y cyfryngau cymdeithasol a llenyddiaeth yn ogystal â chydweithio â chyrff fel yr Urdd, S4C, Ffermwyr Ifanc a Llywodraeth Cymru. |
Fy hoff beth!: |
Ymweld â’r Mentrau Iaith Unigol – rwyf wrth fy modd yn cael ymweld â’r Mentrau Iaith a chlywed am y gwaith sydd yn cael ei wneud ar lawr gwlad i hyrwyddo defnydd y Gymraeg. Chewch chi ddim byd gwell na siarad â phobl yn eu cymunedau! |
Cymwysterau: |
BA Cymraeg. |
Sgiliau Allweddol: |
Sgiliau cyfathrebu da, sgiliau ysgrifenedig, sgiliau ieithyddol a gramadegol yn y Gymraeg a’r Saesneg, sgiliau datrys problemau, creadigrwydd, dealltwriaeth gadarn o ddemograffeg iaith a’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg yn ei chymunedau. |