Cyflogadwyedd

O sicrhau sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg ynghýd â dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru, gallwch ddisgwyl mwynhau amrywiaeth eang o swyddi.

Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg a sefyldu Llywodraeth Cynulliad Cymru mae galw mawr am weision sifil, gweinyddwyr, cyfieithwyr, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion marchnata, yn ogystal ag athrawon, ysgrifenwyr, cysodwyr, golygyddion, darllenwyr proflenni, cyhoeddwyr, newyddiadurwyr ac ymchwilwyr a chyflwynwyr yn y cyfryngau Cymraeg. 

Mae gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod eang o gyfleoedd gwaith gwerthfawr yn y sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt. Mae canlyniad cyflogadwyedd yr Adran yn dweud y cyfan: roedd 100% o’n graddedigion mewn swydd neu addysg bellach chwe mis ar ôl iddynt raddio.

Mae cyflogadwyedd wedi’i ymgorffori yn y cwricwlwm a gynigir i bob un o'n myfyrwyr. Nod ein modiwlau amrywiol yw meithrin eich sgiliau beirniadol, dadansoddol a chreadigol. Bydd ein modiwlau yn atgyfnerthu eich Cymraeg llafar ac ysgrifenedig, ac yn eich paratoi ar gyfer marchnad swyddi gystadleuol drwy wella eich gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac i weithio â phobl eraill. Mae'r modiwl ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’ yn cynnig profiad gwaith gyda 30 o sefydliadau a chwmnïau cenedlaethol a lleol.

Ar ben hynny, mae’r cynllun gradd blaengar ‘Cymraeg Proffesiynol’ bellach wedi sefydlu ei hun yn gymhwyster safonol ym marn darpar gyflogwyr sy’n chwilio am weithwyr dwyieithog cymwys – cafodd nifer o’n myfyrwyr gynnig gwaith amser llawn yn sgil eu lleoliadau gwaith.

Mae'r Adran hefyd yn rhan o gynllun sy’n cael ei gynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd sy'n cynnig arweiniad i fyfyrwyr ar agweddau ymarferol megis ysgrifennu CV a sut i ymddwyn mewn cyfweliad. Daw siaradwyr gwadd yn eu tro o’r tu allan i’r Brifysgol i sôn am y cyfleoedd sydd ar gael i siaradwyr y Gymraeg yn y farchnad waith. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn cael eich annog i fanteisio'n llawn a’r y profiadau ar cyfleoedd sydd ar gael i chi yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth, er mwyn i chi allu eich gwneud eich hun yn fwy cyflogadwy ac yn fwy deniadol i ddarpar gyflogwyr.

Darllenwch am brofiadau ein myfyrwyr ar flog yr Adran