Gwobr i fyfyrwyr am eu gêm i wella mynediad at drenau

O'r chwith i'r dde: Oscar Tikadar a Jonathan Turnbull, sydd ill dau yn fyfyrwyr yn Aberystwyth, gyda beirniaid y gystadleuaeth
16 Ebrill 2025
Mae dau fyfyriwr o Aberystwyth wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol am greu ap sy'n helpu i wella mynediad at orsafoedd trên.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth gan y Rail Data Marketplace (RDM) a’r Rail Industry Association (RIA), a gwahoddwyd ymgeiswyr i gynnig syniadau i ymdrin â dwy her bwysig yn y diwydiant: rhagweld pa mor hir y bydd yn ei gymryd i ddatrys tarfiadau ar y rheilffyrdd neu wneud teithio ar y trên yn haws i deithwyr sydd ag anghenion hygyrchedd.
Fe wnaeth Jonathan Turnbull ac Oscar Tikadar, myfyrwyr blwyddyn olaf yn yr Adran Gyfrifiadureg, gystadlu yn erbyn unigolion, timau prifysgol a sefydliadau masnachol i ennill yr her hygyrchedd gyda'u syniad am ap sy'n gwneud teithio ar y trên yn fwy hwylus i deithwyr sydd ag anghenion hygyrchedd.
Mae LogMyStation yn galluogi defnyddwyr i gofnodi gorsafoedd trên y maent wedi ymweld â nhw yn y Deyrnas Unedig, ac i ddod o hyd i wybodaeth bwysig am orsafoedd yn hawdd, megis manylion am hygyrchedd, cyfleusterau, a gwybodaeth fyw am amseroedd ymadael. Mae'r ap yn cynnwys adnodd ‘testun i leferydd’ ac mae’n defnyddio symbolau yn ogystal â geiriau.
Cyrhaeddodd tîm Aberystwyth y rhestr fer i gyflwyno eu syniad i'r beirniaid ar ffurf cyflwyniad 15 munud yn arddull 'Dragons' Den', mewn digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghynhadledd Arloesi Cymdeithas y Diwydiant Rheilffyrdd yng Nghasnewydd y mis diwethaf.
Gwnaeth y ddau argraff ar y panel beirniadu, a oedd yn cynnwys arweinwyr diwydiant o gyrff megis Network Rail, Great British Railways, ac Adran Drafnidiaeth y DU.
Dywedodd Oscar Tikadar, myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn sy’n astudio Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth Ffisegol:
"Yn ogystal â bod yn adnodd gwerthfawr i helpu pobl i deithio ar rheilffyrdd y Deyrnas Unedig yn rhwyddach, un o agweddau mwyaf gwreiddiol LogMyStation yw'r elfen o chwarae gêm. Gall defnyddwyr 'gasglu' gorsafoedd trwy gofnodi eu hymweliad yn yr ap, ac yna mae modd iddynt weld y gorsafoedd y maent wedi ymweld â nhw ar fap, ynghyd ag unrhyw sylwadau maen nhw'n eu cofnodi."
Bydd y tîm buddugol nawr yn cael cydweithio â mentor blaenllaw o’r diwydiant i ddatblygu’r ap ymhellach.
Dywedodd Jonathan Turnbull, sydd ym mlwyddyn olaf ei radd mewn Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial:
"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y gystadleuaeth, a fu’n gyfle gwych i ddangos ein syniad i arbenigwyr yn y diwydiant. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r beirniaid a dydyn ni methu aros i ddatblygu ein syniad ymhellach."
Meddai Dr Thomas Jansen, Pennaeth yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Rydw i a’m cydweithwyr yn yr Adran Gyfrifiadureg yn llongyfarch Jonathan ac Oscar ar eu llwyddiant yn y gystadleuaeth genedlaethol hon, ac am ddefnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth y maen nhw wedi'u datblygu i geisio gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill yn ein cymdeithas. Byddwn yn dilyn eu hynt gyda diddordeb wrth iddynt ddatblygu eu syniad llwyddiannus ymhellach."