Astudio dramor

Hong Kong yn y nos

Mae Adran Cyfrifiadureg yn cynnig cyfle cyffrous i chi astudio dramor am flwyddyn, yn un o’r prifysgolion partneriaethol.

Os ydych yn astudio am radd gyda blwyddyn ddiwydiannol integredig, gallwch ddewis treulio rhan neu’r cyfan o’ch blwyddyn ddiwydiannol dramor i gwblhau eich lleoliad.

Mae mwy o gyfleoedd i dreulio amser dramor, pa bynnag radd yr ydych yn astudio amdani, gan gynnwys cyrsiau byrion a chyfleodd i wirfoddoli yn yr haf.

Mae adroddiadau’n dangos bod myfyrwyr sy’n astudio dramor yn fwy deniadol i gyflogwyr a’u bod yn ennill mwy na’u cyfoedion. Gallai’r amser a dreuliwch yn dysgu am ddiwylliant newydd gyfoethogi eich sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, gwella eich galluoedd ieithyddol, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol.  Beth am fanteisio ar gyfle oes ac ar yr un pryd wella eich sgiliau beirniadol a meddwl trwy ddewis astudio dramor?

Dewch i weld lle gallwch fynd fel myfyriwr yr Adran Gyfrifiadureg.