Cyfleoedd Allgyrsiol

 

Ochr yn ochr â’ch astudiaethau Cyfrifiadureg yr ydym yn annog ein holl fyfyrwyr i gael golwg ar yr holl glybiau a chymdeithasau sydd gan y Brifysgol i’w cynnig. Mae llawer clwb a chymdeithas yn gysylltiedig â Gwyddor Cyfrifiadureg, megis:

AberCompSoc – Cymdeithas Gyfrifiadureg Aberystwyth

Mae ein cymdeithas gyfrifiadureg i fyfyrwyr yn trefnu digwyddiadau a theithiau rheolaidd, yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol wythnosol: AberCompSoc

Cymuned Chwaraewyr Gemau Aberystwyth (ACOG)

Yn unswydd er mwyn darparu llwyfan cymdeithasol a chystadleuol i chwaraewyr gemau yn Aberystwyth, mae ACOG yn aml yn cynnal digwyddiadau gemau yn undeb y myfyrwyr, digwyddiadau cymdeithasol o gwmpas y dref ac yn cystadlu’n genedlaethol yn erbyn prifysgolion eraill. Dros y blynyddoedd diwethaf, dal i dyfu wnaeth ACOG a bellach hi yw un o’r cymdeithasau mwyaf a mwyaf llwyddiannus yn Aberystwyth.

Clwb Roboteg Aberystwyth

Gyda chefnogaeth ‘Infinity Exhibiton’ a Chlwb Roboteg Aberystwyth (estyn allan), mae’r gymdeithas a’r clwb hwn i’r rhai 11-18 oed yn cwrdd bob prynhawn Mercher i weithio ynghyd fel grŵp neu fel unigolion i greu’r caledwedd a’r meddalwedd ar gyfer popeth sy’n ymwneud â roboteg. Does dim angen profiad, dim ond brwdfrydedd!

Tîm Sailbot Aber

Ers Hydref 2012, mae tîm Sailbot Aber yn gweithio’n galed i greu cwch annibynnol sy’n gallu rhedeg heb unrhyw gyswllt dynol o gwbl. Mae’r tîm wedi bod yn rhan o sawl cystadleuaeth ac yn cynnal nifer o wahanol fathau o gwch-bot a ddefnyddir ganddynt i gystadlu ledled y byd.

Cangen y Canolbarth o’r BCS

Mae ein cangen leol o’r BCS – Sefydliad Siartredig Technoleg Gwybodaeth – yn cynnal sgyrsiau a digwyddiadau diddorol yn rheolaidd ar amrywiaeth o bynciau ynghylch cyfrifiadureg. Gallwch ddod i wybod mwy am y gangen a’i digwyddiadau ar eu tudalen we.