Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Myfyriwr benywaidd yn cysylltu gwifrau

Mae’r Adran Gyfrifiadureg wedi ymrwymo i ddatblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a’n gweithgareddau.

Gyda gwobr Efydd Athena SWAN, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw ar draws ein hadran a hyrwyddo gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae llawer o’n darlithwyr yn rhan o Dîm Hunanasesu Athena SWAN y Brifysgol.

Ein nod yw darparu diwylliant cynhwysol i’n holl staff a’n myfyrwyr, yn rhydd o gamwahaniaethu ac sy’n cynnal gwerthoedd parch, urddas a chwrteisi. Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin yn unol â’r gwerthoedd hyn.

Yr ydym yn mynd ati i estyn allan at ysgolion a chymryd rhan mewn digwyddiadau i feithrin cysylltiadau â’r cyhoedd ledled y wlad, gan roi cyfle i bawb ddysgu am gyfrifiadureg.

Hefyd:

  • Yn 2018, gwnaethom gynnal cynhadledd flynyddol gyntaf Merched mewn Technoleg yng Nghymru
  • Ers 2017 rydym yn croesawu ymwelwyr ar raglen diwrnodau ymweld â phrifysgolion yn rhan o brosiect Merched i Beirianneg EESW;
  • Ers 2016, rydym yn cynnal digwyddiadau i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Yr ydym wedi cynnal Colocwiwm Lovelace Menywod y BCS, cynhadledd undydd genedlaethol i fenywod israddedig mewn cyfrifiadureg, ers nifer o flynyddoedd.

Cysylltiadau

  • ACS Women: mae gennym grŵp Facebook preifat a rhestr bostio y gwahoddir pob menyw yn yr adran i ymuno â nhw; rydym yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol a chyfarfodydd trwy gydol y flwyddyn
  • Mae gennym Hyrwyddwr Cydraddoldeb yn ein hadran: Angharad Shaw
  • Dyfarnwyd gwobr efydd Athena SWAN i’r Adran Gyfrifiadureg (Cyswllt Athena SWAN: Hannah Dee)