Estyn allan

Wall.E Robot

Mae Adran Cyfrifiadureg yn gweithio’n gydweithredol yn rhan o’i hymdrech barhaus i ddwyn cyfrifiadureg i’r gymuned ehangach, rhoi llwyfan i’n hymchwil blaengar, ac ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu diddordeb mewn cyfrifiadureg.

Yr ydym yn gweithio, er enghraifft, gyda sefydliadau a phobl academaidd eraill, ysgolion lleol, a mudiadau datblygu meddalwedd. O robotiaid ar y traeth i gerddorfa robotaidd ar y BBC a’n “iCub AI” sy’n dawnsio ac yn dwlu ar yr Arctic Monkeys, mae ein gweithgareddau estyn allan yn anadlu anadl einioes i gyfrifiadureg ac yn swyno cynulleidfaoedd o bob oed.

Cyswllt ag Ysgolion

Bydd aelodau Adran Cyfrifiadureg yn aml yn ymwneud ag ysgolion a cholegau lleol i ddiddanu a rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr gyda’n sgyrsiau a’n gweithdai, gan gynnwys:

  • Beth allwch chi wneud gyda gradd mewn Cyfrifiadureg?
  • Deallusrwydd Artiffisial: beth yw 'deallusrwydd'? Oes modd i beiriant fod yn ddeallus?
  • Didoli: dylunio rheolau i roi trefn ar syniadau/gwrthrychau
  • Roboteg (cyflwyniad neu raglennu)
  • Animeiddio gyda Scratch.

Cysylltwch ân Swyddog Estyn Allan, Tally Roberts, am fwy o wybodaeth ar nar25@aber.ac.uk

Hwb Gwyddoniaeth i’r Gymuned

Mae’r Hwb Gwyddoniaeth i’r Gymuned yn cynnig amrywiaeth o adnoddau addysgol ar-lein sydd ar gael i athrawon, myfyrwyr a rhieni/gwarcheidwaid. Anelir y deunyddiau hyn at bob oedran ac y maent yn cynnwys arbrofion i’w gwneud gartref, taflenni gwaith, prosiectau, heriau, pynciau ymchwil, webinarau, posau, deunyddiau gwersi a mwy.

Clwb Roboteg

Cynhelir y Clwb Roboteg Aberystwyth gan aelodau o’r Adran, gyda chefnogaeth yr Infinity Exhibition: dyma glwb ar-ôl-ysgol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â’u gwefan nhw.

Cynhadledd BCSWomen Lovelace

Mae’r gynhadledd ‘BSCWomen’ yn gynhadledd blynyddol un-ddiwrnod i fyfyrwragedd sydd yn astudio cyfrifiadureg neu bynciau tebyg. Ers 2008, mae’r digwyddiad hwn wedi darparu llwyfan i fyfyrwyr is-raddedig ac uwch-raddedig i rhannu’u syniadau nhw, rhwydweithio a mynychu darlithoedd gan bobl arwyddocaol yn y diwydiant cyfrifiaduro ac yn y byd academaidd. Darllenwch mwy ynghylch y digwyddiad ar y tudalen BCSWomen Lovelace Colloquium.

Digwyddiadau BCS

Mae’r adran yn gweithio gyda’r asgell Canolbarth Cymru BCS, yr athrofa siartredig TG. Mae’r asgell yn cynnal cyfarfodion ar destunau cyfrifiaduro ac hefyd digwyddiadau ‘Show and Tell’. Mae’r cyfarfodion hyn yn gyfle delfrydol i ddysgu mwy amdanai’r adrannau gwahanol o’r diwydiant ac i drafod materion yn anffurfiol. Ymhlith y pwyllgor y mae aelodau staff, myfyrwyr a rhai proffesiynol o ddiwydiant.