Amdanom ni

Croeso i’r Adran Gyfrifiadureg

Dim ond dod yn fwyfwy perthnasol wnaiff Cyfrifiadureg, wrth i’r byd ddibynnu’n gynyddol ar ddatblygiadau technolegol. Mae Cyfrifiadureg erbyn hyn yn ffactor bwysig mewn peirianneg, gwyddoniaeth, teithio, masnach a hyd yn oed y cyfryngau, sy’n golygu bod modd cymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol a gewch trwy astudio gyda ni i ystod eang o wahanol ddiwydiannau.

Yn Aberystwyth, yr ydym yn ymfalchïo mai ni yw un o’r adrannau Cyfrifiadureg hynaf ym Mhrydain, wedi ein rhoi ar y brig yng Nghymru am bwnc Cyfrifiadureg (Canllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2020). Yr ydym yn parhau i fod ar y blaen mewn ymchwil technolegol a chreu graddedigion o’r ansawdd flaenaf.

O ddatblygu camerâu i’w defnyddio mewn teithiau i’r gofod i wella ffyrdd o sgrinio am ganser, mae ein darlithwyr yn gwneud cyfraniadau pwysig yn y byd go-iawn. Ymysg ein meysydd ymchwil a datblygu y mae roboteg, deallusrwydd artiffisial, biowybodeg, prosesu delweddau, cyfathrebu dros y rhyngrwyd a pheirianneg meddalwedd, ac y mae gennym gysylltiadau â chwmnïau rhyngwladol o bwys.

Mae’r rhan fwyaf o’n graddau wedi eu hachredu gan Gymdeithas Cyfrifiadura Prydain (BCS),  Sefydliad Siartredig Technoleg Gwybodaeth ar ran y Cyngor Peirianneg, sy’n eich rhoi ar y blaen pan fyddwch yn dod i mewn i’r farchnad swyddi gystadleuol pan fyddwch yn graddio.

Mae Aberystwyth yn lle gwych i fod yn fyfyriwr. Mae’r dref yng nghanol peth o’r wlad hyfrytaf yn y DU, ac y mae’r Brifysgol yn cynnig cyfleusterau chwaraeon, cymdeithasol a chefnogol rhagorol. Dewch i weld drosoch eich hun beth sy’n gwneud Aberystwyth yn lle mor anhygoel i astudio.

Dr Thomas Jensen

Pennaeth yr Adran