Gwobr ‘Fuzzy’ i Athro o Aberystwyth
Yr Athro Qiang Shen, Prifysgol Aberystwyth.
12 Chwefror 2024
Mae ymchwilydd blaenllaw ym maes deallusrwydd cyfrifiadurol o Aberystwyth wedi ennill gwobr ryngwladol bwysig.
Bydd yr Athro Qiang Shen, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn derbyn Gwobr Arloeswr Systemau Fuzzy 2024 yng Nghyngres Byd y Gymdeithas Deallusrwydd Gyfrifiadurol IEEE, a gynhelir yn Yokohama Siapan rhwng 30 Mehefin a 5 Gorffennaf 2024.
Mae ymchwil yr Athro Shen yn canolbwyntio ar ddatblygu systemau cefnogaeth a sut i’w cymhwyso ar gyfer gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth sy’n cael eu gyrru gan ddata bras ac wedi arwain at ddatblygiadau sy’n cael eu defnyddio mewn sawl maes gan gynnwys gwrthderfysgaeth, ymchwil y gofod a rheoli trafnidiaeth.
Mae'r wobr yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel yr uchaf yn y maes ymchwil hwn.
Llongyfarchwyd yr Athro Shen ar ei lwyddiant gan yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Timmis: “Mae hwn yn newyddion gwych i’r Athro Shen, sy’n gydnabyddiaeth haeddiannol o’i gyfraniad sylweddol iawn ym maes deallusrwydd cyfrifiadurol ac effaith pwysig y gwaith hwn.”
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Shen: "Rwy’n teimlo’n wylaidd ac eto’n falch iawn o dderbyn Gwobr Arloeswr Systemau Fuzzy IEEE 2024. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod i wedi cael fy nghydnabod gan gydweithwyr am wneud rhywbeth rwy'n ei garu. Dim ond oherwydd fy mod i wedi fy amgylchynu gan y myfyrwyr a'r cydweithwyr mwyaf talentog tra'n cael cyfleoedd i weithio gydag academyddion a diwydianwyr blaenllaw yn y meysydd perthnasol yr wyf wedi ennill y wobr hon".
Mae’r Athro Shen yn eithriadol brofiadol yn ei faes ac yn awdur ar tua 470 o bapurau sydd wedi eu hadolygu gan gymheiriaid.
Mae hefyd yn Gymrawd yr Academi Frenhinol Peirianneg ac yn Gymrawd ac yn Aelod o Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Yn 2012 cafodd yr Athro Shen ei ddewis i gymryd rhan yn Ras Gyfnewid y Ffagl Olympaidd cyn gemau Llundain fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Alan Turing.