Mae eich gwybodaeth bersonol yn werthfawr ac rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Mae Ystadau, Cyfleusterau a Preswylfeydd yn casglu, cofnodi, defnyddio, ac mewn rhai achosion, yn rhannu’r wybodaeth bersonol sydd gennym am ddefnyddwyr ein gwasanaethau amrywiol at y dibenion a fwriadwyd wrth gasglu’r wybodaeth. Mae Ystadau, Cyfleusterau a Preswylfeydd yn ymroddedig i ddiogelu a gwarchod preifatrwydd ein defnyddwyr drwy gydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.
Nid yw’r ffordd yr ydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel a saff wedi newid; ond mae ein polisïau’n ei gwneud hi’n haws i chi ddeall pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw a sut yr ydym yn ei defnyddio, er enghraifft:
• Yr wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi, gan gynnwys pryd a pham yr ydym yn gwneud hynny.
• Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth.
• Gan bwy y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi.
• Am ba hyd y cedwir eich gwybodaeth.
• Sut yr ydym yn gweithredu o fewn y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn unig, wrth gasglu a phrosesu gwybodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i weddalen Gwybodaeth am ddiogelu data.