6. Cymorth Myfyrwyr a Chynrychiolaeth Myfyrwyr
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Adran 6 PDF
-
6.1 Cyflwyniad
1. Mae gan y Brifysgol Adran Gwasanaethau i Fyfyrwyr a reolir gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau i Fyfyrwyr. Eu prif ddyletswyddau yw:
(i) Rheoli’r cymorth ar gyfer dysgu ac achub y blaen ar anghenion lles, gan gynnwys ‘siop-un-stop’ yn y Ganolfan Groesawu Myfyrwyr;
(ii) Rheoli’r Gwasanaeth Lles Myfyrwyr; y Gwasanaeth Hygyrchedd a Chynhwysiant a’r Gwasanaeth Cyngor ac Arian;
(iii) Rheoli Cronfa Caledi Myfyrwyr y Brifysgol;
(iv) Cyfrannu at enw da’r Brifysgol am ragoriaeth o ran bodlonrwydd myfyrwyr a phrofiad myfyrwyr;
(v) Sicrhau bod gwybodaeth ar faterion cymorth yn cael ei dosbarthu’n effeithiol;
(vi) Ymgynghori ag asiantaethau lleol a’r sawl sy’n darparu gofal iechyd.2. Mae’r Cyfadrannau/Adrannau yn darparu cymorth yn ogystal â gofal academaidd i’w myfyrwyr. Gall pob myfyriwr droi at Diwtor Personol sydd ar gael i ymgynghori ag ef/hi ar faterion personol ac sy’n gallu cyfeirio’r myfyrwyr at asiantaeth briodol os oes angen; y nod yw darparu cymorth priodol i’r myfyriwr ac i’w d(d)ull ef/hi o astudio. Mae gan bob adran academaidd ac adran wasanaeth yn y Brifysgol ei Chydlynydd Anableddau Adrannol ei hun. Dyma’r bobl y dylai staff a myfyrwyr sydd am ymholi ynghylch gweithdrefnau’r polisi neu ddarpariaeth droi atynt yn y lle cyntaf. Mae Cydlynwyr Anableddau’r Adrannau yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod y diweddaraf am arfer da, newidiadau yn y ddeddfwriaeth a chynnydd cyffredinol tuag at gymuned gynhwysol go-iawn.
3. Mae’r Neuaddau Preswyl yn ganolbwynt i fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth. Sicrheir lle yn llety’r Brifysgol i fyfyrwyr israddedig y flwyddyn gyntaf. Wrth ddosrannu’r lleoedd, ystyrir amgylchiadau arbennig. Mae Cynorthwywyr Preswyl, sydd yn fyfrwyr ar hyn o bryd, yn darparu cymorth dan oruchwyliaeth Gwasanaethau’r Campws.
4. Mae’r Swyddfa Llety yn cydweithio â neuaddau’r Brifysgol ac yn cadw cofrestr o gyfeiriadau preifat lleol sydd wedi ei diweddaru’n gyson. Mae’r staff yn rhoi gwybodaeth a chyngor i fyfyrwyr yn rheolaidd.
5. Mae gwasanaeth lles Undeb Aber yn cydweithio â gwasanaeth lles y Brifysgol ac yn ychwanegu ato. Gwasanaeth gwybodaeth cyfrinachol yw Nawdd Nos sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr i fyfyrwyr.
6. Gwasanaeth Hygyrchedd a Chynhwysiant y Brifysgol yw canolbwynt y cyfeiriadau at yr isadeiledd a gall drefnu cymorth a chyfarwyddyd ynghylch addasiadau rhesymol i fyfyrwyr unigol. Bydd hefyd yn cynghori aelodau o’r staff wrth iddynt drafod addasiadau o’r fath gyda myfyrwyr.
7. Mae’r Brifysgol yn darparu ystod o addasiadau rhesymol i fyfyrwyr anabl ac i’r rhai sydd â gwahaniaethau dysgu penodol.
8. Lleolir y Ganolfan Cymorth Dysgu yn y Ganolfan Saesneg Ryngwladol ac mae’n cynnig ystod o gyrsiau a gwasanaethau i wella profiad astudio’r myfyrwyr.
9. Trefnir y Gwasanaethau i Fyfyrwyr yn ôl y timau canlynol: Hygyrchedd a Chynhwysiant, Lles, Cyngor ac Arian a Gyrfaoedd. Mae dull y Gwasanaeth o weithredu yn cael ei lywio gan ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma a'r pum egwyddor ymarfer sy'n rhan annatod o'r dull hwn:
- Ymagwedd gyffredinol nad yw'n gwneud niwed
- Canolbwyntio ar yr unigolyn
- Canolbwyntio ar berthynas
- Canolbwyntio ar wydnwch a chryfderau
- Cynhwysol
Mae'n darparu hyfforddiant a chymorth i dimau eraill yn y brifysgol er mwyn iddynt weithio mewn ffordd sy'n fwy ystyriol o drawma.
Hygyrchedd a Chynhwysiant
10. Mae'r Gwasanaeth Hygyrchedd a Chynhwysiant o fewn y Gwasanaethau i Fyfyrwyr yn gweithio gyda myfyrwyr o grwpiau demograffig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn darparu cymorth mewn dau brif faes:
(a) Y Cynllun Mentora ‘Ffordd Hyn’, lle ceir myfyrwyr sydd wedi’u hyfforddi’n fentoriaid yn gweithio gydag israddedigion newydd y flwyddyn gyntaf i alluogi cyfnod pontio cadarnhaol i addysg uwch.
(b) Mentora, cymorth ariannol a mathau eraill o gymorth i'r myfyrwyr hynny sy'n dechrau mewn addysg uwch ac sydd â phrofiad o fod mewn gofal pan oeddent yn blant neu’n bobl ifanc.11. Nod y Brifysgol yw cynnig profiad o’r safon uchaf i bob myfyriwr, ac i sicrhau bod cyfleusterau academaidd ar gael i bawb sy’n cwrdd â’n gofynion mynediad.
12. I fyfyrwyr anabl, y sawl sy’n dioddef cyflwr iechyd tymor hir neu wahaniaeth dysgu penodol, gall ystod o addasiadau/cymorth gael ei rhoi ar waith e.e. addasu’r llety, galluogi technoleg a threfniadau arbennig ar gyfer arholiadau.
13. Mae’r Gwasanaeth yn darparu cyngor a gwybodaeth i ymgeiswyr a myfyrwyr (yn cynnwys gadawyr gofal, myfyrwyr trawsryweddol, myfyrwyr anabl a’r rheiny â gwahaniaethau dysgu) am y ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer anghenion penodol yn y Brifysgol; yn cynorthwyo myfyrwyr anabl i wneud y gorau o’r Diwrnodau Agored neu’r Diwrnodau Ymweld; yn darparu cyngor a chefnogaeth am y Lwfans Myfyrwyr Anabl ac yn rhagweithiol wrth annog ymgeiswyr i’n hysbysu am eu hanghenion yn gynnar yn ystod y drefn ymgeisio er mwyn sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael pan fyddant yn cyrraedd.
14. Ar gyfer y myfyrwyr hynny nad ydynt yn gymwys ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl, mae’r Brifysgol yn darparu arian o’i chyllideb ei hun i sicrhau na fydd myfyrwyr ag anghenion penodol dan anfantais. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor i ddarparu Canolfan Asesu Anghenion Astudio.
15. Mae gan y Gwasanaethau Hygyrchedd ddau gynllun mentora: y naill yn gynllun mentora arbenigol ar gyfer myfyrwyr anabl a’r llall yn gynllun sy’n anelu gan fwyaf at roi cefnogaeth yn ystod cyfnod pontio’r flwyddyn gyntaf.
16. Mae cymorth i adawyr gofal hefyd yn perthyn i’r Gwasanaethau Hygyrchedd ac mae gan unigolyn penodol gyfrifoldeb dros gysylltu â’r myfyrwyr cyn iddynt gyrraedd a’u cefnogi yn ystod eu hastudiaethau. Bydd pob gadawr gofal yn cael mentor o blith y myfyrwyr mwy profiadol, fydd hefyd yn cynorthwyo’r mentor i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cefnogi rhwydwaith o Gydlynwyr Anableddau Adrannol
Iechyd a Lles
17. Nod y Gwasanaeth Lles https://www.aber.ac.uk/cy/sscs/wellbeing/yw sicrhau bod profiad Aberystwyth yn brofiad lle mae iechyd a lles yn hanfodol i fywyd bob dydd y brifysgol. Mae'r gwasanaeth yn seiliedig ar y 5 egwyddor ymarfer sy’n rhan o Fframwaith Cymru sy'n Ystyrlon o Drawma ac mae hwn yn ategu taith ehangach y Brifysgol sy'n ystyrlon o drawma:
- Ymagwedd gyffredinol nad yw'n gwneud niwed
- Canolbwyntio ar yr unigolyn
- Canolbwyntio ar berthynas
- Canolbwyntio ar wydnwch a chryfderau
- Cynhwysol
Mae gwaith y Gwasanaeth Lles yn canolbwyntio ar gynorthwyo myfyrwyr i gyflawni eu nodau academaidd yn ystod cyfnodau o adfyd trwy fanteisio ar gyfleoedd i wella ac adfer o fewn cymuned y brifysgol a'r tu allan iddi.
Mae'r Gwasanaeth Lles yn gweithio gyda phartneriaid statudol a thrydydd sector lleol i hwyluso llwybrau cymorth sy’n galluogi myfyrwyr i gael mynediad at wasanaethau statudol a gwasanaethau cymunedol eraill lle bo hynny’n briodol. Gall y Gwasanaeth hefyd ddarparu cyngor a chymorth i staff sy’n ymwneud â myfyrwyr sy’n wynebu anawsterau lles ac mae’n gweithredu gweithdrefnau Cymorth i Astudio a Dychwelyd y Brifysgol.
Gwasanaeth Cyngor ac Arian
18. Mae’r Gwasanaeth Cyngor ac Arian i Fyfyrwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth ac yn gallu cyfeirio ar ystod eang o faterion, er enghraifft, cynnig clust i wrando ar ofidiau neu bryderon ymarferol neu weithdrefnol a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau arbenigol yn y Brifysgol neu fannau eraill; darparu cyngor ar reoli arian a gwirio’r hawl i gyllid myfyrwyr; darparu gwybodaeth i fyfyrwyr (ond nid cynrychiolaeth) am reolau a rheoliadau’r Brifysgol yn cynnwys rheoliadau academaidd neu aflonyddu a chynghori ar dynnu’n ôl neu newid cwrs. Mae’r gwasanaeth yn gweinyddu Cronfa Galedi’r Brifysgol yn ogystal.
Gyrfaoedd
19. Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu gwasanaeth cefnogol sy'n galluogi myfyrwyr a graddedigion i wireddu eu dyheadau, i wneud dewisiadau bywyd ar sail gwybodaeth, a chyflawni eu potensial. Mae’r gwasanaethau i gyflogwyryn darparu cyswllt uniongyrchol â myfyrwyr a graddedigion i gefnogi cyfleoedd adnabod talent, recriwtio a datblygu busnes.
Diogelu
20. Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Fyfyrwyr yw’r Swyddog Adrodd Dynodedig ar gyfer yr holl faterion diogelu ac mae’n chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio o ran ei Dyletswydd Atal. Mae hyn yn cynnwys materion diogelu fel rhan o Ddyletswydd Atal y Brifysgol.
-
6.2 Siarter y Myfyrwyr
Mae’r Brifysgol yn cydweithio’n agos ag Undeb Aber i lunio Siarter y Myfyrwyr sy’n cael ei diweddaru bob blwyddyn. Mae’r Siarter yn mynegi, yn glir ac yn gryno, yr hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl o’r Brifysgol ac Undeb Aber, a hefyd gyfrifoldebau’r myfyrwyr yn gyfnewid am hynny. Mae’r Brifysgol ac Undeb Aber yn ymrwymo i feithrin cymuned ddysgu gadarnhaol, ddiogel a byrlymus, lle caiff pob myfyriwr y cyfle i wireddu’i holl addewid, a lle caiff pawb eu trin yn broffesiynol a chyda pharch, urddas a chwrteisi mewn amgylchedd cynhwysol.
-
6.3 Cyflwyniad i’r Brifysgol
1. Mae’r Brifysgol yn trefnu gwasanaethau cyflwyno cynhwysfawr i helpu myfyrwyr newydd ddod i arfer â bywyd y Brifysgol. Y prif nodweddion yw:
(i) Cyflwyniad i’r neuaddau a chyfarfodydd â Cynorthwywyr Preswyl.
(ii) Sesiynau croesawu a chymorth a chyngor ynglŷn â Fisa Myfyriwr' i fyfyrwyr tramor.
(iii) Cyfarfodydd ffurfiol a chymdeithasol, yn gynnar yn y sesiwn, â’r staff academaidd.
(iv) Ystod o weithgareddau er mwyn cyflwyno Gwasanaethau Gwybodaeth a sgiliau astudio, gan gynnwys teithiau o gwmpas y llyfrgell a chyflwyniadau ar y llyfrgelloedd a TG sy’n benodol i’r pwnc gan lyfrgellyddion pwnc mewn Athrofeydd/Adrannau.
(v) ‘Arwyr’ – cymorth gan gydfyfyrwyr a drefnir gan Undeb Aber mewn cydweithrediad â Gwasanaethau i Fyfyrwyr.
(vi) Sesiynau arbennig ar gyfer uwchraddedigion Newydd.
(vii) Sesiynau i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.
(viii) Gweithgareddau chwaraeon.
(ix) Rhaglen ymgynefino a ddarperir gan Hygyrchedd a Chynhwysiant ar gyfer myfyrwyr sy’n wynebu anawsterau ychwanegol wrth gyfathrebu yn gymdeithasol.
-
6.4 Adborth
Arolwg ar Brofiad Myfyrwyr (ABM)
1. Bob semester, gofynnir i’r holl israddedigion gwblhau Arolwg ar Brofiad Myfyrwyr (ABM) ar-lein yn y dosbarth ar gyfer pob un o’r modiwlau y byddant yn eu dilyn. Darperir yr ABM ar lein yn ganolog ond y Cyfadrannau a’r Adrannau sy’n eu gweinyddu. Mae pob ABM yn cynnwys cyfres o gwestiynau craidd, hyd at bedwar cwestiwn sy’n ymwneud yn benodol â’r modiwl a meysydd testun rhydd. Mae’r holl adborth drwy’r ABM hyn yn ddienw ac fe’i defnyddir gan yr Adrannau i weld pa mor dda y mae’r modiwl yn perfformio ac i wneud unrhyw newidiadau posibl. Ar ôl eu dadansoddi, bydd y canlyniadau yn cael eu cynnwys mewn adolygiadau modiwlau a chynlluniau yn ogystal ag wrth fonitro Cynlluniau Trwy Gwrs yn flynyddol. Bydd y canlyniadau hefyd yn cael eu cyflwyno i bwyllgorau’r Cyfadrannau, ac i fyfyrwyr, fel sy’n briodol.
Rho Wybod Nawr
2. Mae’r Brifysgol hefyd yn gweithredu trefn adborth ‘Mae'ch Llais Chi'n Cyfri’ lle gall myfyrwyr roi adborth unrhyw bryd ar unrhyw agwedd ar eu profiad o’r Brifysgol. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalennau gwe ‘Mae'ch Llais Chi'n Cyfri’
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
3. Mae’r Brifysgol yn mynnu bod Athrofeydd yn paratoi Cynlluniau Gweithredu i ymateb i ganlyniadau blynyddol yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Dylai’r Cynlluniau Gweithredu gynnwys camau gweithredu brys i’w rhoi ar waith yn ystod tymor cyntaf y sesiwn academaidd dilynol. Dylid cyflwyno’r camau i’r Pwyllgorau Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr ym mhob Athrofa er mwyn i israddedigion y drydedd flwyddyn yn arbennig fod yn ymwybodol o’r camau a gymerir. Bydd hynny’n galluogi’r garfan sy’n llenwi holiaduron yr Arolwg hwn yn y gwanwyn i weld effaith yr ymatebion.
4. Derbynnir ac ystyrir Cynlluniau Gweithredu Athrofeydd yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd ar gyfer pob sesiwn academaidd. Bydd y Pwyllgor yn adrodd i’r Bwrdd Academaidd ar y camau sydd wedi’u cymryd ac ar y drefn yn gyffredinol.
-
6.5 Tynnu’n Ôl
1. Mae’r Brifysgol yn cydnabod dau fath o dynnu’n ôl gan fyfyrwyr: yn barhaol a thros dro. Cynghorir myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl i gysylltu â’r Gwasanaeth Cyngor ac Arian am gyngor ar oblygiadau tynnu’n ôl, ac er mwyn ystyried yr holl ddewisiadau sydd ar gael iddynt.
2. Dylai myfyrwyr sy’n ystyried tynnu’n ôl gwblhau’r cam cyntaf o’r drefn Hysbysiad o Dynnu’n ôl o dan yr adran Cofnod Academaidd yn y Cofnod Myfyriwr ar-lein ar y We. Bydd hynny’n anfon neges at y cyswllt enwebedig ar gyfer myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl yn yr Athrofa/Adran, a fydd yn cysylltu â’r myfyriwr i drefnu cyfarfod. Pwrpas y cyfarfod hwn fydd sicrhau bod y myfyriwr yn gwneud penderfyniad cytbwys a’i fod wedi ystyried holl oblygiadau posibl tynnu’n ôl. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd gadarnhau, os na fyddant yn cwblhau eu cais i dynnu’n ôl ar ddiwedd y broses, y gall y Brifysgol symud ymlaen i gymeradwyo tynnu’n ôl yn barhaol neu dros dro os yw’n amlwg nad yw’r myfyriwr yn mynychu’r Brifysgol mwyach.
3. Os ceir cadarnhad yn y cyfarfod bod myfyriwr eisiau tynnu’n ôl dros dro neu’n barhaol, bydd yr Adran yn cyhoeddi ail gam y broses tynnu’n ôl ar-lein er mwyn i’r myfyriwr ei chwblhau. Yn sgil hyn, bydd hysbysiad yn cael ei anfon at yr adrannau i gadarnhau cymeradwyaeth derfynol cyn i’r Gofrestra Academaidd brosesu’r tynnu’n ôl.
4. Rhaid i fyfyrwyr â Fisa Myfyriwr drafod yr oblygiadau â’r Swyddfa Ryngwladol a dylai myfyrwyr sy’n byw yn Llety’r Brifysgol drafod trefniadau â’r Swyddfa Llety, cyn cwblhau cam cyntaf y drefn o dynnu’n ôl ar lein.
5. Rhaid i bob myfyriwr sy’n tynnu’n ôl o’r Brifysgol ddweud wrth eu noddwyr ariannol ar unwaith.
6. Ni chaniateir i fyfyrwyr dynnu’n ôl y tu allan i’r cyfnod dysgu fel arfer. Bydd pob cais i dynnu’n ôl y tu allan i’r cyfnod dysgu yn cael ei ystyried a gall y dyddiad a ddefnyddir fel y dyddiad ar gyfer tynnu’n ôl amrywio o’r dyddiad a nodwyd gan y myfyriwr. Hyd at 10 diwrnod gwaith ymlaen llaw yn unig y gellir cofrestru dyddiadau tynnu’n ôl neu fe ellir eu hôl-ddyddio hyd at 10 diwrnod gwaith ar ôl cwblhau’r ffurflen Hysbysiad i Dynnu’n ôl ar lein.
7. Ni all Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig (MPhil, PhD, PhDFA, DAg or LLM (RES) dynnu’n ôl o’u hastudiaethau ar ôl i’w cyfnod cofrestru ddod i ben ac ar ôl iddynt drosglwyddo i’r cyfnod ysgrifennu. Os bydd angen amser ychwanegol ar fyfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig i gwblhau’r traethawd, rhaid iddynt holi am estyniad ffurfiol i’r amser a ganiateir ond fe ddylid nodi mai mewn amgylchiadau eithriadol yn unig y caniateir estyniad.
Tynnu’n ôl yn barhaol
8. Bydd myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl yn barhaol yn diddymu eu cofrestriad yn y Brifysgol ac yn colli’r holl hawliau a’r breintiau a ddaw yn sgil yr aelodaeth hon.
Tynnu’n ôl dros dro
9. Ni chaniateir i fyfyrwyr sy’n tynnu’n ôl dros dro dynnu’n ôl ar ôl diwrnod dysgu olaf pob semester. Nid yw’n bosibl felly i dynnu’n ôl yn ystod Gwyliau’r Nadolig nac yn ystod cyfnodau arholi/asesu Semester Un neu Semester Dau. Bydd myfyriwr sydd heb dynnu’n ôl ar y diwrnod dysgu olaf yn cael ei gofnodi fel ymgeisydd ar gyfer arholiadau’r semester a bydd y rheolau arferol ynglŷn â chynnydd yn berthnasol.
10. Dylai myfyrwyr sy’n bwriadu gwneud asesiadau ac yna’n tynnu’n ôl yn syth ar ôl cwblhau’r cyfnod asesu/arholi nodi mai diwrnod olaf yr arholiadau yw’r dyddiad ar gyfer tynnu’n ôl.
11. Bydd cofrestru yn y Brifysgol yn cael ei atal dros dro tan i’r myfyrwyr ddychwelyd. Ni fydd gan fyfyrwyr hawl i ddefnyddio cyfleusterau’r Brifysgol, mynychu dosbarthiadau na byw mewn Neuadd Breswyl yn ystod y cyfnod hwn.
12. Fel arfer, caniateir i fyfyrwyr Dynnu’n ôl Dros Dro am hyd at ddwy flynedd gyda chymeradwyaeth yr Adran, gan gofio’r terfynau amser ar gyfer cwblhau’r radd. Os treulir cyfnod hwy i ffwrdd o’r brifysgol, mae’n debygol y bydd angen gwneud cais newydd drwy’r drefn o dderbyn myfyrwyr.
-
6.6 Tiwtoriaid Personol
1. Neilltuir Tiwtor Personol i bob myfyriwr. Mae gan Diwtoriaid Personol swyddogaeth bwysig o fewn i’r fframwaith cyffredinol o gefnogi myfyrwyr a’u datblygiad personol ac academaidd yn y Brifysgol. Mae’r rôl yn hanfodol wrth helpu myfyrwyr i ddysgu lle gallant gael cymorth, sut a ble i holi am gyngor a sut i fynd ati i gael cymorth i wneud y mwyaf o’u profiad fel myfyrwyr.
2. Mae'r brifysgol yn deall y gall profiadau bywyd myfyriwr gael effaith fawr ar eu profiad yn y brifysgol ac y gall y berthynas rhwng staff a myfyrwyr fod yn ddylanwad pwysig ar y profiad hwnnw. Mae tiwtoriaid personol mewn sefyllfa i sylwi pan fydd myfyrwyr yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn y brifysgol a phan gallent elwa ar gynnig o gymorth gan y Gwasanaethau i Fyfyrwyr. Wrth sylwi ar ymroddiad gwan a/neu newid mewn perfformiad mae’n briodol dechrau trafod anghenion cymorth myfyriwr ac mae tiwtorial wyneb yn wyneb yn gyfle delfrydol i asesu lles myfyriwr yn ei gyfanrwydd yn ogystal ag annog y myfyriwr i ddefnyddio unrhyw gymorth pwrpasol. Mae tiwtoriaid personol mewn sefyllfa dda i ddefnyddio eu profiadau bywyd eu hunain wrth roi cymorth i wynebu heriau cyffredin bywyd prifysgol neu i sylweddoli pan fo angen cyfeirio rhywun at gymorth mwy arbenigol. Anogir tiwtoriaid personol a chydweithwyr sydd â swyddogaethau cynorthwyol i ddefnyddio’r hyfforddiant â’r cymorth a ddarperir gan Gwasanaethau i Fyfyrwyr wrth iddynt ddatblygu agwedd sy’n ystyriol o drawma tuag at eu myfyrwyr. Gall hyn eu helpu i gynorthwyo myfyrwyr yn uniongyrchol a theimlo'n hyderus wrth benderfynu cyfeirio myfyrwyr at gymorth.
3. Dylai’r Tiwtor Personol ddarparu cyswllt rheolaidd rhwng y myfyriwr a’r adran academaidd, y pwnc neu Gyfadran ac fe anogir myfyrwyr yn gryf i gysylltu â’u tiwtor yn gynnar os ydynt yn cael anawsterau. Bydd tiwtoriaid ar gael i ymgynghori ar adegau rhesymol trwy drefniant, ac yn gallu cyfeirio myfyrwyr i gael cyngor arbenigol mewn mannau eraill yn y Brifysgol.
4. Y Cyfadrannau fydd yn gyfrifol yn gyffredinol am ddynodi Tiwtoriaid Personol, ond byddant yn dirprwyo gweithredu’r drefn i Adrannau neu feysydd pwnc neu fel sy’n briodol. Bydd tiwtoriaid personol yn cael eu dynodi cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, a bydd y myfyrwyr yn dechrau’r drefn tiwtora personol yn ystod yr wythnos gyflwyno. Lle na bydd hynny’n bosibl – er enghraifft lle bydd myfyrwyr yn y Brifysgol ar raglenni cyfnewid – yna bydd trefniadau ar gyfer tiwtorialau personol yn cael eu gwneud ar ddechrau eu hastudiaethau yn y Brifysgol i sicrhau bod myfyrwyr newydd yn cael arweiniad a chymorth.
5. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr israddedig amser llawn gwrdd â’u Tiwtor Personol o leiaf bedair gwaith yn ystod y flwyddyn gyntaf, o leiaf deirgwaith yn yr ail flwyddyn, ac o leiaf ddwywaith yn y drydedd/bedwaredd flwyddyn. Bydd myfyrwyr uwchraddedig ar gynlluniau trwy gwrs amser llawn yn cael o leiaf dri chyfarfod yn ystod eu hastudiaethau. Gall rhai sesiynau tiwtorial fod ar ffurf cyfarfodydd grŵp. Bydd y Brifysgol yn rhoi arweiniad ychwanegol i Adrannau ar amseru a chynnwys y cyfarfodydd hyn.
6. Gall myfyrwyr gael yr un Tiwtor Personol drwy gydol eu hastudiaethau yn Aberystwyth os yw’r Adran yn barnu bod hynny’n briodol, ond gellir dynodi Tiwtor Personol bob blwyddyn os bydd gwneud hynny yn cyfateb yn well i’r addysg a strwythur y cwrs yn y maes pwnc hwnnw. Fodd bynnag, dylai adrannau ystyried pwysigrwydd cael perthynas diwtorial ddi-dor i’r myfyrwyr hynny sydd angen cysondeb, yn ogystal ag effaith perthynas diwtorial sy’n dangos arwyddion o fod yn anghymharus. Yn y drydedd flwyddyn, gall fod yn briodol i ailddynodi tiwtoriaid personol yn diwtoriaid traethodau estynedig, os bydd gan y pwnc hwnnw draethawd estynedig, er mwyn sicrhau cyswllt rheolaidd â’r myfyriwr.
7. Os yw naill ai’r myfyrwyr neu’r aelod o’r staff yn gofyn am gael newid tiwtor, dylai fod gan Adrannau drefn benodol i ymateb i hynny.
8. Mae'r brifysgol yn cydnabod y gallai rhai grwpiau o fyfyrwyr wynebu rhwystrau ychwanegol i gynhwysiant, felly wrth bennu Tiwtoriaid Personol, dylai’r Adrannau fod yn sensitif i anghenion grwpiau penodol, e.e. myfyrwyr tramor, myfyrwyr hŷn.
9. Wrth bennu Tiwtoriaid Personol, disgwylir i Adrannau adnabod myfyrwyr newydd sy’n siarad Cymraeg er mwyn pennu Tiwtor Personol iddynt sy’n siarad Cymraeg. Os na all adran neu faes pynciol unigol ddarparu’r gefnogaeth hon, dylai’r Adrannau drafod â myfyrwyr cyn cynnig trefniadau amgen. Gallai hyn olygu penodi Tiwtor Personol arall neu drefnu bod ail aelod o staff yn cefnogi’r prif diwtor.
10. Dylai fod gan bob myfyriwr israddedig Diwtor Personol yn eu prif adran neu faes pwnc. Ar gyfer myfyrwyr Anrhydedd Cyfun, neilltuir tiwtor personol yn y prif bwnc a enwir, ond bydd cyswllt penodol ar gyfer pob myfyriwr yn yr ail bwnc yn ogystal.
11. Disgwylir i holl aelodau’r staff academaidd ar wahân i Ddirprwy Is-Gangellorion, Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau, Deoniaid Cysylltiol y Cyfadrannau, a Phenaethiaid Adrannau fod yn Diwtoriaid Personol. Gall staff sy’n cyflawni’r swyddi hyn weithredu fel Tiwtoriaid Personol lle bydd hynny’n bosibl o ran niferoedd staffio neu fyfyrwyr, ond dylid gwneud pob ymdrech i ailddynodi myfyrwyr sy’n cael eu tiwtora ganddynt wrth i’r niferoedd staff a myfyrwyr ganiatáu hynny.
12. Rhaid i diwtoriaid wneud yn sicr bod eu myfyrwyr yn gwybod sut i gael gafael arnynt pan fo angen ac annog myfyrwyr i fynd i’r sesiynau tiwtora ac i gysylltu â nhw’n gynnar os oes angen cymorth arnynt. Dylai Adrannau sicrhau bod myfyriwr yn gallu gweld aelod arall o’r staff os yw’r Tiwtor Personol yn absennol yn ystod oriau swyddfa neu drwy drefniant.
13. Dylid trefnu darpariaeth diwtorial briodol ar gyfer myfyrwyr Dysgu o Bell, myfyrwyr Addysg Barhaus, a myfyrwyr rhan-amser.
14. Dylai Adrannau gadw rhestr gyfredol o Diwtoriaid Personol a’r myfyrwyr y maent yn eu tiwtora. Dylai Adrannau hefyd roi Tiwtor Personol newydd i fyfyrwyr pan fo angen hynny (e.e. oherwydd newid i’r cynllun astudio, staff yn symud neu fyfyriwr yn dod yn ôl wedi cyfnod o’r Brifysgol).
15. Dylai pob Adran sicrhau bod un person yn cael ei enwebu ym mhob un o’r adrannau/meysydd pwnc i fod yn gyfrifol am drefnu’r system Tiwtoriaid Personol.
16. Bydd y drefn Tiwtoriaid Personol yn cael ei monitro gan y Pwyllgor Profiad Myfyrwyr, ac adrodd wrth y Bwrdd Academaidd.
-
6.7 Cynrychiolaeth Myfyrwyr
Cyflwyniad ac Egwyddorion Craidd
1. Mae’r myfyrwyr wrth galon dysgu ac addysgu ac mae llais effeithiol y myfyrwyr, trwy’r strwythurau cynrychiolaeth priodol, yn sail i systemau sicrhau ansawdd a gwella’r Brifysgol. Yn hyn o beth, mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn cydnabod ar y cyd bwysigrwydd cynrychiolaeth effeithiol y myfyrwyr ar sawl haen o fewn i strwythur y Brifysgol er mwyn cyfrannu at ei llwyddiant yn cynnal a gwella profiad myfyrwyr.
2. Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i ymateb i adborth myfyrwyr ar bob lefel er mwyn cyfoethogi ansawdd profiad y myfyrwyr. Ond, mae cynrychiolaeth y myfyrwyr yn cael ei ddiffinio i ddibenion y Llawlyfr Ansawdd, yn brosesau a strwythurau sy’n:
(i) Caniatáu i lais y myfyrwyr gael ei gynrychioli’n effeithiol ar bob lefel o’r Brifysgol er mwyn gwella cynlluniau astudio a chyfoethogi profiad y myfyriwr
(ii) Darparu dull i fwydo canlyniadau’r gynrychiolaeth hyn yn ôl.
3. Cyfrifoldeb y Bwrdd Academaidd yw Cynrychiolaeth Academaidd Myfyrwyr ar bob lefel yn y Brifysgol. Mae’r Bwrdd yn adrodd i’r Senedd ac yn gweithio mewn partneriaeth ag Undeb Aber. Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gael adborth gan fyfyrwyr ac ymateb iddo a chydweithio â myfyrwyr gyda’r nod cyffredinol o wella ansawdd yr addysgu a phrofiad y myfyrwyr yn gyffredinol.
4. O fewn i strwythur ffurfiol pwyllgorau academaidd y Brifysgol, penodir cynrychiolwyr gan Undeb Aber ar gyfer y Senedd, y Bwrdd Academaidd, a holl is-bwyllgorau’r Bwrdd Academaidd; fe’u hanogir a’u croesawu i gydweithio yn y pwyllgorau hynny.
5. O fewn i strwythur academaidd y Brifysgol, mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn cael eu penodi gan eu cyfoedion ar Bwyllgorau Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr; fe’u hanogir a’u croesawu i gydweithio yn y pwyllgorau hynny.
6. Caiff adborth ei gasglu mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft trwy Arolwg ar Brofiad Myfyrwyr (ABM), Rho Wybod Nawr, mewn Pwyllgorau Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr, trwy’r system tiwtorial personol, drwy gynrychiolaeth myfyrwyr ar bwyllgorau’r Adrannau, y Cyfadrannau a’r Brifysgol, a thrwy gyswllt anffurfiol rhwng myfyrwyr a staff academaidd.
7. Bydd Undeb Aber yn gyfrifol am y canlynol:
(i) Ethol a phenodi cynrychiolwyr myfyrwyr ar draws y Brifysgol
(ii) Darparu hyfforddiant a chefnogaeth i gynrychiolwyr myfyrwyr, sy’n cynnwys sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael iddynt ar-lein neu ar bapur
(iii) Cydlynu Cyflwyniad Blynyddol y Myfyrwyr
(iv) Cefnogi Cynrychiolwyr Academaidd a Chynrychiolwyr Cyfadrannol trwy gydol y flwyddyn gan gynnig hyfforddiant ychwanegol yn ôl yr angen
(v) Cynnal y gronfa-ddata Cynrychiolwyr Myfyrwyr
(vi) Trosglwyddo gwybodaeth berthnasol i’r holl gynrychiolwyr myfyrwyr ac i’r staff
(vii) Cynghori a chefnogi staff sy’n ymwneud â holl strwythur cynrychiolaeth myfyrwyr.
Cwynion a Disgyblu
(viii) Ymdrinnir â chwynion am Gynrychiolwyr Academaidd a'u gweithgareddau cysylltiedig yn unol â Gweithdrefn Gwynion Undeb y Myfyrwyr.
(ix) Ymdrinnir â'r holl faterion disgyblu yng nghyswllt Cynrychiolaeth Academaidd yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu Undeb y Myfyrwyr.
Cyfrifoldebau'r Adrannau
8. Gan y Pennaeth Adran, sy'n atebol i Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran, y mae’r cyfrifoldeb cyffredinol am gynrychiolaeth myfyrwyr ar lefel yr adran.
9. Bydd cyfrifoldebau'r staff cyswllt penodedig yn cynnwys sicrhau bod etholiadau Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr yn cael eu cynnal a bod pawb sy'n gymwys yn cael pob cyfle i gymryd rhan. Er mwyn hwyluso cysylltiadau a chefnogaeth, dylid anfon enw'r cyswllt penodedig at Undeb y Myfyrwyr.
10. Dylai'r adrannau adolygu effeithiolrwydd eu pwyllgorau Staff-Myfyrwyr bob blwyddyn, er mwyn sicrhau ansawdd o ran fformat, ymddygiad ac effeithiolrwydd. Dylid cyflwyno'r wybodaeth i'r Gyfadran a sicrhau ei bod ar gael i Undeb Aber.
11. Rhaid sicrhau bod myfyrwyr sy'n gynrychiolwyr academaidd yn cael defnyddio adnoddau gweinyddol yn yr adrannau, gan gynnwys argraffu a llungopïo, er mwyn cynhyrchu deunydd priodol, er enghraifft, dogfennau trafod ac eitemau agenda, a chylchredeg gwybodaeth trwy e-bost.
12. Rhaid i adrannau wneud yn amlwg pwy yw'r Cynrychiolwyr Academaidd yn rhan o'r gweithgareddau dysgu ac addysgu yn ogystal â rhoi digon o le addas ar hysbysfyrddau a'r rhith amgylchedd dysgu.
Myfyrwyr sy'n Gynrychiolwyr Cyfadrannol
13. Mae'r Cynrychiolwyr Cyfadrannol yn cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â phob cynllun astudio a holl brofiadau’r myfyrwyr ar lefel y Gyfadran, ynglŷn â datblygiad polisïau newydd neu ddiwygiedig, ac ynglŷn â chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr. Byddant yn cynrychioli'r myfyrwyr ar lefel y Gyfadran a chânt eu penodi'n unol â threfn a arolygir gan Undeb Aber. Bydd dau gynrychiolydd i bob Cyfadran.
14. Bydd Myfyrwyr sy'n Gynrychiolwyr Cyfadrannol yn gwasanaethu ar Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran. Caiff sianelau anffurfiol eraill eu hannog i drafod adborth myfyrwyr a nodi cyd flaenoriaethau, gyda'r nod cyffredinol o wella ansawdd yr addysgu a'r profiad myfyriwr yn grynswth.
Myfyrwyr sy’n Gynrychiolwyr Academaidd
15. Mae'r Cynrychiolwyr Cyfadrannol yn cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â chynlluniau astudio a’r drefn flynyddol o’u monitro a’u hadolygu, ynglŷn â’r arolwg o adroddiadau'r arholwyr allanol o gynlluniau a ddysgir trwy gwrs, ynglŷn â datblygiad polisïau newydd neu ddiwygiedig, ac ynglŷn â chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr.
16. Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn cydnabod bod swyddogaeth myfyrwyr sy’n gynrychiolwyr academaidd yn un gyfrifol a phwysig, sy'n rhoi cyfle i'r cynrychiolwyr unigol ddatblygu’n bersonol a meithrin sgiliau graddedig pwysig.
17. Disgwylir i'r Cynrychiolwyr Academaidd fanteisio ar yr hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu, cymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod adborth a phryderon y myfyrwyr y maent yn eu cynrychioli yn cael sylw priodol ac, ynghyd â'r staff, am sicrhau bod y myfyrwyr yn cael gwybod am y camau gweithredu a’r canlyniadau dilynol.
18. Dylai'r Cynrychiolwyr Academaidd ymddwyn yn gyfrifol ac adeiladol yng nghyfarfodydd y pwyllgor ymgynghorol staff myfyrwyr a dylent ymateb i safbwyntiau eu myfyrwyr a chyflwyno sylwadau neu adborth sydd o bosibl yn wahanol i'w safbwyntiau eu hunain. Os nad oes modd iddynt fod yn bresennol dylent ymddiheuro a darparu adborth ysgrifenedig cyn y cyfarfod.
19. Adolygir effeithiolrwydd y drefn Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn gyson, ac adroddir wrth is-grŵp perthnasol y Bwrdd Academaidd ynglŷn â dangosyddion perfformiad allweddol, gan ystyried nifer y myfyrwyr a ymgeisiodd, a etholwyd ac a hyfforddwyd. Hefyd, gwneir ddadansoddiad ehangach o hyd a lled a mathau'r adborth a godwyd, yn ogystal â'r camau dilynol a gymerwyd.
20. Bydd y myfyrwyr sy'n Gynrychiolwyr Academaidd yn ffurfio rhan o aelodaeth Fforwm Academaidd Undeb Aber ac yn cyfarfod ag Undeb Aber yn rheolaidd.
21. Dylid darllen adran hon y Llawlyfr Academaidd ar y cyd ag Atodlen Fusnes y System Cynrychiolwyr Academaidd yn adran 6.8.
Ethol Cynrychiolwyr Academaidd o blith y Myfyrwyr
22. Bydd Undeb Aber yn trefnu etholiad ar-lein cywir ei gyfansoddiad, trwy Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy am leoedd gwag yn unol â'r Atodlen Busnes. Gwneir hyn cyn yr haf yn achos cynlluniau sy'n mynd ymlaen am flwyddyn arall, lle gellir ethol Cynrychiolydd erbyn dechrau'r sesiwn newydd. Bydd darpariaethau arbennig yn cael eu hystyried i grwpiau o fyfyrwyr sy'n astudio y tu allan i'r graddfeydd amser hyn.
23. Bydd union ddyddiadau'r etholiadau’n cael eu gosod a'u hysbysebu gan Undeb y Myfyrwyr. Dylai fod wythnos o leiaf rhwng agor a chau'r cyfnod enwebu, a digon o amser i ddosbarthu gwybodaeth cyn y dydd(iau) pleidleisio.
24. Dirprwy Swyddog Etholiadol Undeb Aber fydd y Swyddog Etholiadol i holl etholiadau'r Cynrychiolwyr Academaidd, a bydd yn gweithio gyda staff cyswllt yn yr adrannau lle bo angen.
25. Bydd Undeb Aber yn cyd-gysylltu ag adrannau academaidd rhwng misoedd Ionawr a Mawrth bob blwyddyn yn achos cynlluniau sy’n bod eisoes, a rhwng misoedd Gorffennaf ac Awst yn achos cynlluniau newydd, er mwyn cadarnhau swyddogaethau ac etholaethau cyn yr etholiadau arfaethedig. Wrth ddatblygu strwythurau, bydd Undeb Aber yn trafod â staff perthnasol er mwyn cydbwyso anghenion yr Adran wrth sicrhau cynrychiolaeth effeithiol.
26. Dylai adrannau ddarparu gwybodaeth ynglŷn â'r drefn o Gynrychiolwyr Academaidd yn rhan o'u deunydd ymgynefino a dylid ei gynnwys yn llawlyfrau adrannol y myfyrwyr.
27. Rhaid i fyfyrwyr fod wedi eu cofrestru ar gynllun a gynrychiolir gan y swyddogaeth i fod yn gymwys i sefyll neu bleidleisio mewn etholiad am Gynrychiolydd Academaidd.
28. Etholir Cynrychiolwyr Academaidd gan y cynllun y maent yn ei gynrychioli am dymor yn para dim mwy na'r flwyddyn astudio y cawsant eu hethol ar ei chyfer, neu yn achos etholiadau a gynhelir cyn yr haf, am y flwyddyn astudio ddilynol (heblaw am achosion lle mae myfyriwr yn gadael y Brifysgol).
29. Os, ar ddiwedd y broses sefyll, y bydd unrhyw le gwag ar ôl gall yr Adran benderfynu cyfethol Cynrychiolwyr Academaidd pellach er mwyn llenwi'r lleoedd hyn. Dylid gwneud hyn mewn ffordd mor agored a thryloyw â phosibl, a dylai'r cynrychiolwyr a gyfetholir gofrestru eu manylion gydag Undeb Aber cyn cael eu cydnabod yn ffurfiol.
30. Bydd hyfforddiant y Myfyrwyr sy'n Gynrychiolwyr Academaidd yn cael ei gynnal yn unol â'r Atodlen Fusnes.
31. Rhaid i staff sicrhau y cynhelir etholiad rhydd a theg am Gynrychiolwyr Academaidd o blith y Myfyrwyr, gan weithredu dim ond mewn swyddogaeth weinyddol yn yr etholiadau sy'n hyrwyddo cyfranogiad.
Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr
32. Dylai pob Adran sefydlu Pwyllgor Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr i israddedigion ac, os yw’n briodol, i uwchraddedigion. Dylai aelodaeth y Pwyllgor gynnwys o leiaf un Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr o bob blwyddyn/lefel fel sy’n briodol. Mewn Adrannau mwy, gall fod yn briodol i gael Pwyllgorau Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr ar wahân i bob cynllun gradd, ac un arall i uwchraddedigion. Dylid hefyd ystyried sefyllfa myfyrwyr dysgu o bell a gallai fod yn briodol i sefydlu Pwyllgor Ymgynghorol ar wahân i drafod y materion penodol hynny.
33. Diben y Pwyllgor Ymgynghorol Staff Myfyrwyr yw darparu dull ffurfiol o drafod a chyfathrebu rhwng Adrannau a'r myfyrwyr ar faterion academaidd sy'n effeithio ar eu hastudiaethau. Cydnabyddir bod y cyswllt ffurfiol yn sianel bwysig o gyfathrebu rhwng myfyrwyr a staff. Dylai’r Adrannau sefydlu Pwyllgor Ymgynghorol ar lefel adrannol o leiaf. Mae rhan hon y Llawlyfr Ansawdd yn rhoi fframwaith ar gyfer cyfarfodydd ffurfiol rhwng staff a myfyrwyr er mwyn cynorthwyo i gynnal trafodaethau adeiladol a chyflwyno adborth an-fygythiol rhwng y naill a’r llall.
34. Anogir yr adrannau i drefnu cyfarfod anffurfiol o aelodau’r pwyllgor ymgynghorol yn ystod Wythnos Ddysgu 6 yn Semester 1 cyn cyfarfod ffurfiol cyntaf y Pwyllgor. Dylai'r sesiwn gynnwys cyfle i'r Myfyrwyr Gynrychiolwyr gyfarfod â chyd-aelodau (yn staff a myfyrwyr) a rhagarweiniad cryno i ddiben, cyfrifoldebau a dulliau gwaith y Pwyllgor.
35. Lle bo'n bosibl, dylai Adrannau annog myfyrwyr i ethol myfyriwr i gadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor Ymgynghorol, gydag arweiniad priodol gan aelod o staff. Os etholir o blith y myfyrwyr presennol dylid gwneud hynny yn y cyfarfod anffurfiol o aelodau’r pwyllgor ymgynghorol a rhoi'r manylion i Undeb Aber, fel y gellir trefnu hyfforddiant cyn cyfarfod ffurfiol cyntaf y Pwyllgor.
36. Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod yn unol â'r Amserlen Fusnes. Ni ddylid cynnal cyfarfod o'r Pwyllgor cyn i gynrychiolwyr gael eu hethol, eu hyfforddi ac ymgynefino, er y gellid cynnal cyfarfodydd anffurfiol pellach ar ddyddiadau gwahanol i'r uchod os yw'r Adran yn barnu bod angen hynny.
37. Rhaid gosod agenda drafft, ynghyd â chais am eitemau ychwanegol i'r agenda, ar yr hysbysfyrddau priodol yn yr adrannau, neu eu cyhoeddi ar y rhith-amgylchedd dysgu, o leiaf bum diwrnod cyn y cyfarfod. Cyfrifoldeb y Cynrychiolwyr yw cael yr eitemau hyn oddi wrth y myfyrwyr a’u cyflwyno i Gadeirydd y pwyllgor. Dylai myfyrwyr allu cymryd rhan llawn ymhob agwedd ar gyfarfodydd y Pwyllgor Ymgynghorol, gan gynnwys gosod yr agenda.
38. Dylai aelod o staff gadw cofnodion ffurfiol o bob cyfarfod ffurfiol o'r Pwyllgor, sy'n cofnodi'r drafodaeth yn glir, yn nodi argymhellion ar gyfer gweithredu ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor, a nodi pwy sy'n gyfrifol am y gweithredu dilynol.
39. Rhaid dosbarthu cofnodion drafft i holl gynrychiolwyr y myfyrwyr cyn gynted â phosibl, ac fel arfer o fewn deg diwrnod gwaith ar ôl cyfarfod y pwyllgor. Rhaid cyhoeddi copi o'r cofnodion drafft a therfynol ar y rhith-amgylchedd dysgu a'u hanfon hefyd i Undeb Aber, a rhaid i'r adran gadw copi wedi'i gymeradwyo i ddibenion archwiliad.
40. Bydd Pwyllgorau Ymgynghorol fel arfer yn atebol i'r bwrdd adrannol i sicrhau bod ystyriaeth ddigonol yn cael ei roi i'r pwyntiau a godwyd gan y myfyrwyr. Dylai cofnodion y cyfarfodydd fod yn eitem ar yr agenda ymhob cyfarfod.
41. Rhaid i adrannau sefydlu systemau adborth er mwyn sicrhau y bydd holl fyfyrwyr yr adran yn ymwybodol o'r hyn a wneir i ymateb i faterion a godir gan fyfyrwyr. Rhaid cynnwys gwybodaeth am y system adborth yn y llawlyfrau adrannol.
42. Os oes mater yn codi na ellir ei ddatrys yn uniongyrchol gan y Pwyllgor Ymgynghorol, dylid ei anfon ymlaen i'r pwyllgor priodol i'w ystyried.
43. Fel mater o egwyddor, ni ddylai cofnodion y cyfarfod ymgynghorol gyfeirio at aelod unigol o staff na myfyriwr unigol.
44. Dylai'r aelodau o blith y staff gynrychioli pob math o swyddogaethau. Rhaid i staff sy'n gynrychiolwyr fod ag agwedd gyfrifol tuag at bryderon myfyrwyr, fod mewn sefyllfa led awdurdodol yn yr adran a gallu siarad ag awdurdod ar faterion sy'n debygol o gael eu codi. Dylent ymddwyn yn ymatebol a chyfrifol mewn pwyllgorau ymgynghorol, ac fel mater o egwyddor ni ddylai nifer cynrychiolwyr y staff fod yn uwch na chynrychiolwyr y myfyrwyr.
45. Mae'n bwysig bod y myfyrwyr yn gallu mynegi eu safbwyntiau eu hunain a safbwyntiau myfyrwyr eraill yn y cyfarfodydd heb ofni cosbau gan yr Adran. Mae'n ddyletswydd felly ar yr adran a'r staff sy'n gynrychiolwyr ar y pwyllgor i greu awyrgylch o gydweithredu ac ymgynghori yn y cyfarfodydd, gyda'r nod o hybu'r budd gorau i staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae adborth da yn elfen hanfodol o bwyllgor effeithiol ac i'r perwyl hwn y dylai'r cynrychiolwyr weithio.
46. Dylai'r pwyllgorau sicrhau eu bod yn ystyried profiad dysgu'r holl fyfyrwyr ar raglenni perthnasol a dylai aelodaeth y pwyllgor adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth os yw'n bosibl.
47. Os ystyrir ei bod yn ddianghenraid neu'n anaddas i gael cynrychiolwyr i garfan benodol, rhaid i'r pwyllgor sicrhau bod anghenion a phrofiadau'r grwpiau hynny'n cael eu hystyried yn unrhyw drafodaeth.
48. Os yw rhaglen yn cael ei darparu'n llwyr trwy ddysgu o bell, dylid sefydlu grŵp trafod priodol (h.y. electronig) neu bwyllgor ar wahân i hwyluso trafod y materion hynny.
Pwyllgorau Ymgynghorol Staff - Myfyrwyr - Cylch Gorchwyl
49. Y canlynol fydd cylch gorchwyl pwyllgorau ymgynghorol staff myfyrwyr:
(i) Rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff godi a thrafod pryderon yn gysylltiedig â rhaglenni a gweithgareddau academaidd.
(ii) Cyfrannu at ddatblygu’r cwricwlwm, gan gynnwys cynigion am gynlluniau newydd neu ddiwygiedig, a pharatoadau ar gyfer yr Arolwg Achlysurol o Gynlluniau.
(iii) Derbyn ac ystyried adroddiadau'r Arolygiadau Achlysurol o Gynlluniau a'r Archwiliadau o Berfformiad Adrannau.
(iv) Ystyried canlyniadau arolygiadau, gan gynnwys yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a Arolwg ar Brofiad Myfyrwyr (ABM), a chyfrannu at ymatebion yr adran i'r arolygiadau hyn.
(v) Ystyried Adroddiadau Arholwyr Allanol a chyrff proffesiynol.
(vi) Ystyried sut i wella'r profiad myfyriwr ar lefel adrannol.
(vii) Ystyried unrhyw faterion a gyfeirir i'r Pwyllgor gan yr Adran.
(viii) Ystyried unrhyw faterion eraill yn ymwneud â'r Adran benodol neu feysydd gweithgaredd eraill sy'n effeithio ar astudiaethau’r myfyrwyr.
(ix) Ystyried sut i wneud myfyrwyr yr adran yn fwy cyflogadwy.
50. Mae'r templed ar gyfer cofnodion Pwyllgorau Ymghynghorol Staff a Myfyrwyr i'w weld o dan 6.9 yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
Adolygwyd Pennod 6: Mai 2022
-
6.8 Y System Cynrychiolwyr Academaidd o blith y Myfyrwyr: Llinell Amser
Y System Cynrychiolwyr Academaidd o blith y Myfyrwyr: Llinell Amser
Mis
Gweithgaredd
Medi
- Cyfnod Sefyll am Etholiad yn agor
- Rhannu Cynlluniau Gweithredu'r ACF â chynrychiolwyr Academaidd y Chyfadrannol
- Hyfforddiant yn dechrau i'r myfyrwyr gynrychiolwyr
Hydref
- Cyfnod Sefyll am Etholiad yn cau
- Pleidleisio
- Hyfforddiant i'r myfyrwyr gynrychiolwyr yn dod i ben
- Fforymau Undeb y Myfyrwyr a Chyngor Undeb y Myfyrwyr
Tachwedd
- Sesiynau Cwrdd a Chroesawu myfyrwyr gynrychiolwyr (Wythnos Ddysgu 6)
- Hyfforddiant i'r myfyrwyr sy'n gynrychiolwyr academaidd (Cadeiryddion)
- Semester 1 Pwyllgor Ymgynghorol 1 (Wythnosau Dysgu 7/8)
- Fforymau Undeb y Myfyrwyr a Chyngor Undeb y Myfyrwyr
Rhagfyr
- Fforymau Undeb y Myfyrwyr a Chyngor Undeb y Myfyrwyr
Ionawr
- Cyfarfod Rhanddeiliaid yr Adrannau
Chwefror
- Cadarnhau Fframwaith y Myfyrwyr Gynrychiolwyr Academaidd
- Semester 2 Pwyllgor Ymgynghorol 1 (Wythnosau Dysgu 2/3)
- Fforymau Undeb y Myfyrwyr a Chyngor Undeb y Myfyrwyr
Mawrth
- Semester 2 Pwyllgor Ymgynghorol 2 (Wythnosau Dysgu 8/9)
- Fforymau Undeb y Myfyrwyr a Chyngor Undeb y Myfyrwyr
- Cyfnod Sefyll am Etholiad yn agor
Ebrill
- Cyfnod Sefyll am Etholiad yn cau
Mai
- Pleidleisio
- Hyfforddiant i'r myfyrwyr gynrychiolwyr academaidd
- Cyflwyno Datganiad Blynyddol y Myfyrwyr