6.5 Tynnu’n Ôl

1. Mae’r Brifysgol yn cydnabod dau fath o dynnu’n ôl gan fyfyrwyr: yn barhaol a thros dro. Cynghorir myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl i gysylltu â’r Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian am gyngor ar oblygiadau tynnu’n ôl, ac er mwyn ystyried yr holl ddewisiadau sydd ar gael iddynt.

2. Dylai myfyrwyr sy’n ystyried tynnu’n ôl gwblhau’r cam cyntaf o’r drefn Hysbysiad o Dynnu’n ôl o dan yr adran Cofnod Academaidd yn y Cofnod Myfyriwr ar-lein ar y We. Bydd hynny’n anfon neges at y cyswllt enwebedig ar gyfer myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl yn yr Athrofa/Adran, a fydd yn cysylltu â’r myfyriwr i drefnu cyfarfod. Pwrpas y cyfarfod hwn fydd sicrhau bod y myfyriwr yn gwneud penderfyniad cytbwys a’i fod wedi ystyried holl oblygiadau posibl tynnu’n ôl. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd gadarnhau, os na fyddant yn cwblhau eu cais i dynnu’n ôl ar ddiwedd y broses, y gall y Brifysgol symud ymlaen i gymeradwyo tynnu’n ôl yn barhaol neu dros dro os yw’n amlwg nad yw’r myfyriwr yn mynychu’r Brifysgol mwyach.

3. Os ceir cadarnhad yn y cyfarfod bod myfyriwr eisiau tynnu’n ôl dros dro neu’n barhaol, bydd yr Adran yn cyhoeddi ail gam y broses tynnu’n ôl ar-lein er mwyn i’r myfyriwr ei chwblhau. Yn sgil hyn, bydd hysbysiad yn cael ei anfon at yr adrannau i gadarnhau cymeradwyaeth derfynol cyn i’r Gofrestra Academaidd brosesu’r tynnu’n ôl.

4. Rhaid i fyfyrwyr â Fisa Myfyriwr drafod yr oblygiadau â’r Swyddfa Ryngwladol a dylai myfyrwyr sy’n byw yn Llety’r Brifysgol drafod trefniadau â’r Swyddfa Llety, cyn cwblhau cam cyntaf y drefn o dynnu’n ôl ar lein.

5. Rhaid i bob myfyriwr sy’n tynnu’n ôl o’r Brifysgol ddweud wrth eu noddwyr ariannol ar unwaith.

6. Ni chaniateir i fyfyrwyr dynnu’n ôl y tu allan i’r cyfnod dysgu fel arfer. Bydd pob cais i dynnu’n ôl y tu allan i’r cyfnod dysgu yn cael ei ystyried a gall y dyddiad a ddefnyddir fel y dyddiad ar gyfer tynnu’n ôl amrywio o’r dyddiad a nodwyd gan y myfyriwr. Hyd at 10 diwrnod gwaith ymlaen llaw yn unig y gellir cofrestru dyddiadau tynnu’n ôl neu fe ellir eu hôl-ddyddio hyd at 10 diwrnod gwaith ar ôl cwblhau’r ffurflen Hysbysiad i Dynnu’n ôl ar lein.

7. Ni all Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig (MPhil, PhD, PhDFA, DAg or LLM (RES) dynnu’n ôl o’u hastudiaethau ar ôl i’w cyfnod cofrestru ddod i ben ac ar ôl iddynt drosglwyddo i’r cyfnod ysgrifennu. Os bydd angen amser ychwanegol ar fyfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig i gwblhau’r traethawd, rhaid iddynt holi am estyniad ffurfiol i’r amser a ganiateir, ond fe ddylid nodi mai mewn amgylchiadau eithriadol yn unig y caniateir estyniad.

Tynnu’n ôl yn barhaol

8. Bydd myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl yn barhaol yn diddymu eu cofrestriad yn y Brifysgol ac yn colli’r holl hawliau a’r breintiau a ddaw yn sgil yr aelodaeth hon.

Tynnu’n ôl dros dro

9. Ni chaniateir i fyfyrwyr sy’n tynnu’n ôl dros dro dynnu’n ôl ar ôl diwrnod dysgu olaf pob semester. Nid yw’n bosibl felly i dynnu’n ôl yn ystod Gwyliau’r Nadolig nac yn ystod cyfnodau arholi/asesu Semester Un neu Semester Dau.  Bydd myfyriwr sydd heb dynnu’n ôl ar y diwrnod dysgu olaf yn cael ei gofnodi fel ymgeisydd ar gyfer arholiadau’r semester a bydd y rheolau arferol ynglŷn â chynnydd yn berthnasol.

10. Dylai myfyrwyr sy’n bwriadu gwneud asesiadau ac yna’n tynnu’n ôl yn syth ar ôl cwblhau’r cyfnod asesu/arholi nodi mai diwrnod olaf yr arholiadau yw’r dyddiad ar gyfer tynnu’n ôl.

11. Bydd cofrestru yn y Brifysgol yn cael ei atal dros dro tan i’r myfyrwyr ddychwelyd. Ni fydd gan fyfyrwyr hawl i ddefnyddio cyfleusterau’r Brifysgol, mynychu dosbarthiadau na byw mewn Neuadd Breswyl yn ystod y cyfnod hwn.

12. Fel arfer, caniateir i fyfyrwyr Dynnu’n ôl Dros Dro am hyd at ddwy flynedd gyda chymeradwyaeth yr Athrofa, gan gofio’r terfynau amser ar gyfer cwblhau graddau modiwlar cychwynnol. Os treulir cyfnod hwy i ffwrdd o’r brifysgol, mae’n debygol y bydd angen gwneud cais newydd drwy’r drefn o dderbyn myfyrwyr.