6.1 Cyflwyniad
1. Mae gan y Brifysgol Adran Gwasanaethau i Fyfyrwyr a reolir gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau i Fyfyrwyr. Eu prif ddyletswyddau yw:
(i) Rheoli’r cymorth ar gyfer dysgu ac achub y blaen ar anghenion lles, gan gynnwys ‘siop-un-stop’ yn y Ganolfan Groesawu Myfyrwyr;
(ii) Rheoli’r Gwasanaeth Lles Myfyrwyr; y Gwasanaeth Hygyrchedd a Chynhwysiant a’r Gwasanaeth Cyngor ac Arian;
(iii) Rheoli Cronfa Caledi Myfyrwyr y Brifysgol;
(iv) Cyfrannu at enw da’r Brifysgol am ragoriaeth o ran bodlonrwydd myfyrwyr a phrofiad myfyrwyr;
(v) Sicrhau bod gwybodaeth ar faterion cymorth yn cael ei dosbarthu’n effeithiol;
(vi) Ymgynghori ag asiantaethau lleol a’r sawl sy’n darparu gofal iechyd.
2. Mae’r Cyfadrannau/Adrannau yn darparu cymorth yn ogystal â gofal academaidd i’w myfyrwyr. Gall pob myfyriwr droi at Diwtor Personol sydd ar gael i ymgynghori ag ef/hi ar faterion personol ac sy’n gallu cyfeirio’r myfyrwyr at asiantaeth briodol os oes angen; y nod yw darparu cymorth priodol i’r myfyriwr ac i’w d(d)ull ef/hi o astudio. Mae gan bob adran academaidd ac adran wasanaeth yn y Brifysgol ei Chydlynydd Anableddau Adrannol ei hun. Dyma’r bobl y dylai staff a myfyrwyr sydd am ymholi ynghylch gweithdrefnau’r polisi neu ddarpariaeth droi atynt yn y lle cyntaf. Mae Cydlynwyr Anableddau’r Adrannau yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod y diweddaraf am arfer da, newidiadau yn y ddeddfwriaeth a chynnydd cyffredinol tuag at gymuned gynhwysol go-iawn.
3. Mae’r Neuaddau Preswyl yn ganolbwynt i fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth. Sicrheir lle yn llety’r Brifysgol i fyfyrwyr israddedig y flwyddyn gyntaf. Wrth ddosrannu’r lleoedd, ystyrir amgylchiadau arbennig. Mae Cynorthwywyr Preswyl, sydd yn fyfrwyr ar hyn o bryd, yn darparu cymorth dan oruchwyliaeth Gwasanaethau’r Campws.
4. Mae’r Swyddfa Llety yn cydweithio â neuaddau’r Brifysgol ac yn cadw cofrestr o gyfeiriadau preifat lleol sydd wedi ei diweddaru’n gyson. Mae’r staff yn rhoi gwybodaeth a chyngor i fyfyrwyr yn rheolaidd.
5. Mae gwasanaeth lles Undeb Aber yn cydweithio â gwasanaeth lles y Brifysgol ac yn ychwanegu ato. Gwasanaeth gwybodaeth cyfrinachol yw Nawdd Nos sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr i fyfyrwyr.
6. Gwasanaeth Hygyrchedd a Chynhwysiant y Brifysgol yw canolbwynt y cyfeiriadau at yr isadeiledd a gall drefnu cymorth a chyfarwyddyd ynghylch addasiadau rhesymol i fyfyrwyr unigol. Bydd hefyd yn cynghori aelodau o’r staff wrth iddynt drafod addasiadau o’r fath gyda myfyrwyr.
7. Mae’r Brifysgol yn darparu ystod o addasiadau rhesymol i fyfyrwyr anabl ac i’r rhai sydd â gwahaniaethau dysgu penodol.
8. Lleolir y Ganolfan Cymorth Dysgu yn y Ganolfan Saesneg Ryngwladol ac mae’n cynnig ystod o gyrsiau a gwasanaethau i wella profiad astudio’r myfyrwyr.
9. Trefnir y Gwasanaethau i Fyfyrwyr yn ôl y timau canlynol: Hygyrchedd a Chynhwysiant, Lles, Cyngor ac Arian a Gyrfaoedd. Mae dull y Gwasanaeth o weithredu yn cael ei lywio gan ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma a'r pum egwyddor ymarfer sy'n rhan annatod o'r dull hwn:
- Ymagwedd gyffredinol nad yw'n gwneud niwed
- Canolbwyntio ar yr unigolyn
- Canolbwyntio ar berthynas
- Canolbwyntio ar wydnwch a chryfderau
- Cynhwysol
Mae'n darparu hyfforddiant a chymorth i dimau eraill yn y brifysgol er mwyn iddynt weithio mewn ffordd sy'n fwy ystyriol o drawma.
Hygyrchedd a Chynhwysiant
10. Mae'r Gwasanaeth Hygyrchedd a Chynhwysiant o fewn y Gwasanaethau i Fyfyrwyr yn gweithio gyda myfyrwyr o grwpiau demograffig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn darparu cymorth mewn dau brif faes:
(a) Y Cynllun Mentora ‘Ffordd Hyn’, lle ceir myfyrwyr sydd wedi’u hyfforddi’n fentoriaid yn gweithio gydag israddedigion newydd y flwyddyn gyntaf i alluogi cyfnod pontio cadarnhaol i addysg uwch.
(b) Mentora, cymorth ariannol a mathau eraill o gymorth i'r myfyrwyr hynny sy'n dechrau mewn addysg uwch ac sydd â phrofiad o fod mewn gofal pan oeddent yn blant neu’n bobl ifanc.
11. Nod y Brifysgol yw cynnig profiad o’r safon uchaf i bob myfyriwr, ac i sicrhau bod cyfleusterau academaidd ar gael i bawb sy’n cwrdd â’n gofynion mynediad.
12. I fyfyrwyr anabl, y sawl sy’n dioddef cyflwr iechyd tymor hir neu wahaniaeth dysgu penodol, gall ystod o addasiadau/cymorth gael ei rhoi ar waith e.e. addasu’r llety, galluogi technoleg a threfniadau arbennig ar gyfer arholiadau.
13. Mae’r Gwasanaeth yn darparu cyngor a gwybodaeth i ymgeiswyr a myfyrwyr (yn cynnwys gadawyr gofal, myfyrwyr trawsryweddol, myfyrwyr anabl a’r rheiny â gwahaniaethau dysgu) am y ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer anghenion penodol yn y Brifysgol; yn cynorthwyo myfyrwyr anabl i wneud y gorau o’r Diwrnodau Agored neu’r Diwrnodau Ymweld; yn darparu cyngor a chefnogaeth am y Lwfans Myfyrwyr Anabl ac yn rhagweithiol wrth annog ymgeiswyr i’n hysbysu am eu hanghenion yn gynnar yn ystod y drefn ymgeisio er mwyn sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael pan fyddant yn cyrraedd.
14. Ar gyfer y myfyrwyr hynny nad ydynt yn gymwys ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl, mae’r Brifysgol yn darparu arian o’i chyllideb ei hun i sicrhau na fydd myfyrwyr ag anghenion penodol dan anfantais. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor i ddarparu Canolfan Asesu Anghenion Astudio.
15. Mae gan y Gwasanaethau Hygyrchedd ddau gynllun mentora: y naill yn gynllun mentora arbenigol ar gyfer myfyrwyr anabl a’r llall yn gynllun sy’n anelu gan fwyaf at roi cefnogaeth yn ystod cyfnod pontio’r flwyddyn gyntaf.
16. Mae cymorth i adawyr gofal hefyd yn perthyn i’r Gwasanaethau Hygyrchedd ac mae gan unigolyn penodol gyfrifoldeb dros gysylltu â’r myfyrwyr cyn iddynt gyrraedd a’u cefnogi yn ystod eu hastudiaethau. Bydd pob gadawr gofal yn cael mentor o blith y myfyrwyr mwy profiadol, fydd hefyd yn cynorthwyo’r mentor i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cefnogi rhwydwaith o Gydlynwyr Anableddau Adrannol
Iechyd a Lles
17. Nod y Gwasanaeth Lles https://www.aber.ac.uk/cy/sscs/wellbeing/yw sicrhau bod profiad Aberystwyth yn brofiad lle mae iechyd a lles yn hanfodol i fywyd bob dydd y brifysgol. Mae'r gwasanaeth yn seiliedig ar y 5 egwyddor ymarfer sy’n rhan o Fframwaith Cymru sy'n Ystyrlon o Drawma ac mae hwn yn ategu taith ehangach y Brifysgol sy'n ystyrlon o drawma:
- Ymagwedd gyffredinol nad yw'n gwneud niwed
- Canolbwyntio ar yr unigolyn
- Canolbwyntio ar berthynas
- Canolbwyntio ar wydnwch a chryfderau
- Cynhwysol
Mae gwaith y Gwasanaeth Lles yn canolbwyntio ar gynorthwyo myfyrwyr i gyflawni eu nodau academaidd yn ystod cyfnodau o adfyd trwy fanteisio ar gyfleoedd i wella ac adfer o fewn cymuned y brifysgol a'r tu allan iddi.
Mae'r Gwasanaeth Lles yn gweithio gyda phartneriaid statudol a thrydydd sector lleol i hwyluso llwybrau cymorth sy’n galluogi myfyrwyr i gael mynediad at wasanaethau statudol a gwasanaethau cymunedol eraill lle bo hynny’n briodol. Gall y Gwasanaeth hefyd ddarparu cyngor a chymorth i staff sy’n ymwneud â myfyrwyr sy’n wynebu anawsterau lles ac mae’n gweithredu gweithdrefnau Cymorth i Astudio a Dychwelyd y Brifysgol.
Gwasanaeth Cyngor ac Arian
18. Mae’r Gwasanaeth Cyngor ac Arian i Fyfyrwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth ac yn gallu cyfeirio ar ystod eang o faterion, er enghraifft, cynnig clust i wrando ar ofidiau neu bryderon ymarferol neu weithdrefnol a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau arbenigol yn y Brifysgol neu fannau eraill; darparu cyngor ar reoli arian a gwirio’r hawl i gyllid myfyrwyr; darparu gwybodaeth i fyfyrwyr (ond nid cynrychiolaeth) am reolau a rheoliadau’r Brifysgol yn cynnwys rheoliadau academaidd neu aflonyddu a chynghori ar dynnu’n ôl neu newid cwrs. Mae’r gwasanaeth yn gweinyddu Cronfa Galedi’r Brifysgol yn ogystal.
Gyrfaoedd
19. Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu gwasanaeth cefnogol sy'n galluogi myfyrwyr a graddedigion i wireddu eu dyheadau, i wneud dewisiadau bywyd ar sail gwybodaeth, a chyflawni eu potensial. Mae’r gwasanaethau i gyflogwyryn darparu cyswllt uniongyrchol â myfyrwyr a graddedigion i gefnogi cyfleoedd adnabod talent, recriwtio a datblygu busnes.
Diogelu
20. Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Fyfyrwyr yw’r Swyddog Adrodd Dynodedig ar gyfer yr holl faterion diogelu ac mae’n chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio o ran ei Dyletswydd Atal. Mae hyn yn cynnwys materion diogelu fel rhan o Ddyletswydd Atal y Brifysgol.