6.6 Tiwtoriaid Personol

1. Neilltuir Tiwtor Personol i bob myfyriwr. Mae gan Diwtoriaid Personol swyddogaeth bwysig o fewn i’r fframwaith cyffredinol o gefnogi myfyrwyr a’u datblygiad personol yn y Brifysgol. Mae’r rôl yn hanfodol wrth helpu myfyrwyr i ddysgu lle gallant gael cymorth, sut a ble i holi am gyngor a sut i fynd ati i gael cymorth i wneud y mwyaf o’u profiad fel myfyrwyr.

2. Dylai’r Tiwtor Personol ddarparu cyswllt rheolaidd rhwng y myfyriwr a’r adran academaidd, y pwnc neu Gyfadran. Bydd tiwtoriaid ar gael i ymgynghori ar adegau rhesymol trwy drefniant, ac yn gallu cyfeirio myfyrwyr i gael cyngor arbenigol mewn mannau eraill yn y Brifysgol.

3. Y Cyfadrannau fydd yn gyfrifol yn gyffredinol am ddynodi Tiwtoriaid Personol, ond byddant yn dirprwyo gweithredu’r drefn i Adrannau neu feysydd pwnc neu fel sy’n briodol. Bydd tiwtoriaid personol yn cael eu dynodi cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, a bydd y myfyrwyr yn dechrau’r drefn tiwtora personol yn ystod yr wythnos gyflwyno. Lle na bydd hynny’n bosibl – er enghraifft lle bydd myfyrwyr yn y Brifysgol ar raglenni cyfnewid – yna bydd trefniadau ar gyfer tiwtorialau personol yn cael eu gwneud ar ddechrau eu hastudiaethau yn y Brifysgol i sicrhau bod myfyrwyr newydd yn cael arweiniad a chymorth.

4. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr israddedig amser llawn gwrdd â’u Tiwtor Personol o leiaf bedair gwaith yn ystod y flwyddyn gyntaf, o leiaf deirgwaith yn yr ail flwyddyn, ac o leiaf ddwywaith yn y drydedd/bedwaredd flwyddyn. Bydd myfyrwyr uwchraddedig ar gynlluniau trwy gwrs amser llawn yn cael o leiaf dri chyfarfod yn ystod eu hastudiaethau. Gall rhai sesiynau tiwtorial fod ar ffurf cyfarfodydd grŵp.  Bydd y Brifysgol yn rhoi arweiniad ychwanegol i Adrannau ar amseru a chynnwys y cyfarfodydd hyn.

5. Gall myfyrwyr gael yr un Tiwtor Personol drwy gydol eu hastudiaethau yn Aberystwyth os yw’r Adran yn barnu bod hynny’n briodol, ond gellir dynodi Tiwtor Personol bob blwyddyn os bydd gwneud hynny yn cyfateb yn well i’r addysg a strwythur y cwrs yn y maes pwnc hwnnw. Yn y drydedd flwyddyn, gall fod yn briodol i ailddynodi tiwtoriaid personol yn diwtoriaid  traethodau estynedig, os bydd gan y pwnc hwnnw draethawd estynedig, er mwyn sicrhau cyswllt rheolaidd â’r myfyriwr.

6. Os yw naill ai’r myfyrwyr neu’r aelod o’r staff yn gofyn am gael newid tiwtor, dylai fod gan Adrannau drefn benodol i ymateb i hynny.

7. Wrth bennu Tiwtoriaid Personol, dylai’r Adrannau fod yn sensitif i anghenion grwpiau penodol, e.e. myfyrwyr tramor, myfyrwyr hŷn.

8. Wrth bennu Tiwtoriaid Personol, disgwylir i Adrannau adnabod myfyrwyr newydd sy’n siarad Cymraeg er mwyn pennu Tiwtor Personol iddynt sy’n siarad Cymraeg. Os na all adran neu faes pynciol unigol ddarparu’r gefnogaeth hon, dylai’r Adrannau drafod â myfyrwyr cyn cynnig trefniadau amgen. Gallai hyn olygu penodi Tiwtor Personol arall neu drefnu  bod ail aelod o staff yn cefnogi’r prif diwtor.

9. Dylai fod gan bob myfyriwr israddedig Diwtor Personol yn ei brif adran neu faes pwnc. Ar gyfer myfyrwyr Anrhydedd Cyfun, neilltuir tiwtor personol yn y prif bwnc a enwir, ond bydd cyswllt penodol ar gyfer pob myfyriwr yn yr ail bwnc yn ogystal.

10. Disgwylir i holl aelodau’r staff academaidd ar wahân i Ddirprwy Is-Gangellorion, Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau, Deoniaid Cysylltiol y Cyfadrannau, a Phenaethiaid Adrannau fod yn Diwtoriaid Personol. Gall staff sy’n cyflawni’r swyddi hyn weithredu fel Tiwtoriaid Personol lle bydd hynny’n bosibl o ran niferoedd staffio neu fyfyrwyr, ond dylid gwneud pob ymdrech i ailddynodi myfyrwyr sy’n cael eu tiwtora ganddynt wrth i’r niferoedd staff a myfyrwyr ganiatáu hynny.

11. Rhaid i diwtoriaid wneud yn sicr bod eu myfyrwyr yn gwybod sut i gael gafael arnynt pan fo angen. Dylai Adrannau sicrhau bod myfyriwr yn gallu gweld aelod arall o’r staff os yw’r Tiwtor Personol yn absennol yn ystod oriau swyddfa neu drwy drefniant.

12. Dylid trefnu darpariaeth diwtorial briodol ar gyfer myfyrwyr Dysgu o Bell, myfyrwyr Addysg Barhaus, a myfyrwyr rhan-amser.

13. Dylai Adrannau gadw rhestr gyfredol o Diwtoriaid Personol a’r myfyrwyr y maent yn eu tiwtora. Dylai Adrannau hefyd roi Tiwtor Personol newydd i fyfyrwyr pan fo angen hynny (e.e. oherwydd newid i’r cynllun astudio, staff yn symud neu fyfyriwr yn dod yn ôl wedi cyfnod o’r Brifysgol).

14. Dylai pob Adran sicrhau bod un person yn cael ei enwebu ym mhob un o’r adrannau/meysydd pwnc i fod yn gyfrifol am drefnu’r system Tiwtoriaid Personol.

15. Bydd y drefn Tiwtoriaid Personol yn cael ei monitro gan y Pwyllgor Profiad Myfyrwyr, ac adrodd wrth y Bwrdd Academaidd.