1. Sicrwydd Ansawdd yn Aberystwyth
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Adran 1 PDF
-
1.1 Ynglŷn â’r Llawlyfr
1. Mae’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd (LlAA) yn ffynhonnell hwylus ar gyfer y polisïau, y rheoliadau a’r gweithdrefnau sy’n cefnogi rheolaeth Prifysgol Aberystwyth dros safonau ac ansawdd academaidd. Fe’i bwriedir i’w ddefnyddio gan aelodau staff y Brifysgol, arholwyr allanol, adolygwyr allanol a phartneriaid cydweithredol. Cyhoeddir y Llawlyfr ar-lein ond gellir hefyd lawrlwytho ei adrannau unigol ar ffurf pdf a’u hargraffu. Mae’r Llawlyfr hefyd yn cynnwys dolen i Reolau a Rheoliadau a Chonfensiynau Arholiadau’r Brifysgol.
2. Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am sicrhau bod enw da Prifysgol Aberystwyth yn cael ei gynnal a’i wella lle bynnag y bo hynny’n bosibl, a bod ein trefniadau sicrhau ansawdd yn parhau i fod yn drwyadl ac yn eglur.
3. Gellir lawrlwytho gwybodaeth ychwanegol a chopïau electronig o ffurflenni a thempledau (yn cynnwys ffurflenni ar gyfer arholwyr allanol) o’r adran berthnasol o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Gan fod ffurflenni’n cael eu diweddaru’n gyson, dylid eu cyrchu o’r Llawlyfr ym mhob achos, yn hytrach na chadw ac ailddefnyddio fersiynau’r blynyddoedd cynt.
-
1.2 Systemau Sicrwydd Ansawdd
1. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn safon uchel y cyfleoedd dysgu ac addysgu y mae’n eu cynnig i’w myfyrwyr. Yn sail iddynt ceir systemau sicrhau ansawdd effeithiol a ddatblygwyd dros flynyddoedd lawer ac a fireiniwyd ar sail canllawiau a fframweithiau yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA). Mae pedair prif swyddogaeth i systemau sicrhau ansawdd y Brifysgol:
(i) Sicrhau safon ac ansawdd ein cynlluniau astudio, eu bod yn ddilys ac yn gyfredol, a’u bod yn cael eu cynllunio, eu dysgu, eu haddasu a’u monitro mewn modd priodol
(ii) Cynnal y safonau uchaf mewn ansawdd academaidd a gwelliant parhaus, gan gydymffurfio â’r disgwyliadau a amlinellir yng Nghod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch
(iii) Gwella ansawdd trwy annog hunanfyfyrio beirniadol yn barhaus, fel ein bod yn chwilio o hyd am ffyrdd o wella ansawdd y profiad a gynigiwn i fyfyrwyr
(iv) Bod yn sail i ddatblygiad strategol y cynlluniau a’r disgyblaethau academaidd yr ydym yn eu cynnig.
2. Mae Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch yn rhoi man cychwyn cyffredin i’r holl ddarparwyr addysg uwch o ran gosod, disgrifio a sicrhau safonau academaidd eu dyfarniadau a’u rhaglenni addysg uwch, ynghyd ag ansawdd y cyfleoedd dysgu y maent yn eu darparu. Y Cod yw’r cyfeirbwynt craidd a ddefnyddir yn holl weithgarwch adolygu’r ASA: https://www.qaa.ac.uk/quality-code
3. Mae’r Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau yn y DU yn darparu cyfeirbwyntiau pwysig ar gyfer darparwyr addysg uwch, ac yn eu cynorthwyo wrth iddynt osod a chynnal safonau academaidd. Mae’r fframweithiau yn ganolog i’r Disgwyliad ym Mhennod A1, ‘The National Level’, o God Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch fod cyrff dyfarnu graddau yn defnyddio cyfeirbwyntiau allanol ar lefel y DU ac yn Ewropeaidd er mwyn sicrhau safonau academaidd trothwy ledled y sector addysg uwch: https://www.qaa.ac.uk/docs/qaa/quality-code/qualifications-frameworks.pdf
4. Mae Datganiadau Meincnodi Pwnc yn rhan o’r Cod Ansawdd. Maent yn amlinellu disgwyliadau o ran safonau graddau mewn amrywiaeth o feysydd pwnc. Maent yn disgrifio’r hyn sy’n rhoi unoliaeth a hunaniaeth i ddisgyblaeth, ac yn diffinio’r hyn y gellir ei ddisgwyl gan raddedigion o ran y medrau a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn meithrin dealltwriaeth neu allu yn y pwnc: https://www.qaa.ac.uk/quality-code/subject-benchmark-statements
5. Mae’r ASA hefyd yn darparu nifer o ganllawiau eraill, er enghraifft yn ymdrin â meysydd megis dyfarnu credydau academaidd, cyfwerthedd cymwysterau ym mhob un o wledydd y DU, a sut mae oriau cyswllt ac asesu yn cyfrannu tuag at ansawdd eich addysg.
-
1.3 Pwyllgorau Academaidd
1. Yn unol â Siarter Frenhinol Atodol Prifysgol Aberystwyth, y Senedd yw awdurdod academaidd y Brifysgol a bydd yn atebol i’r Cyngor am swyddogaethau academaidd y Brifysgol mewn addysgu ac ymchwil ac am reoli buddiannau academaidd y myfyrwyr. Mae’r Ordinhadau yn amlinellu cyfansoddiad, pwerau a swyddogaethau’r Senedd. Ceir mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau, aelodaeth a phenderfyniadau’r Senedd ar yr is-dudalennau perthnasol.
2. Y Senedd sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y Brifysgol yn glynu at God Ansawdd y DU, ac mae’n dirprwyo’r cyfrifoldeb am adrannau unigol i’r byrddau canlynol: y Bwrdd Academaidd, y Bwrdd Marchnata, Recriwtio a Mynediadau, y Bwrdd Ymchwil, a’r Bwrdd Darpariaeth Gydweithredol. Mae cylch gorchwyl ac aelodaeth y cyrff hyn yn cael eu cyhoeddi ar-lein, ynghyd â siart o strwythurau’r pwyllgorau academaidd: https://www.aber.ac.uk/cy/governance/sub-committees/ Gall staff yn Aberystwyth hefyd gael mynediad i gylch gorchwyl y pwyllgorau, templedau ar gyfer cofnodion a phapurau pwyllgor, a manylion cyfarfodydd pwyllgor trwy dudalennau gwe’r Gofrestrfa Academaidd.
-
1.4 Swyddogion y Brifysgol gyda chyfrifoldebau Sicrwydd Ansawdd
1. Yr Is-Ganghellor yw prif swyddog academaidd a gweinyddol y Brifysgol ac mae’n gyfrifol am berfformiad cyffredinol y Brifysgol. Yr Is-Ganghellor yw Cadeirydd y Senedd.
2. Mae’r Dirprwy Is-Gangellorion, Dysgu ac Addysgu ac Ymchwil, yn aelodau allweddol o Grŵp Gweithredol y Brifysgol ac maent yn adrodd i’r Is-Ganghellor ar feysydd penodol eu cyfrifoldeb.
3. Dirprwy Is-Ganghellor pob Cyfadran sy’n gyfrifol am arwain y Gyfadran honno, ac mae’n atebol i’r Cyngor, trwy’r Is-Ganghellor. Mae’r Cyfadrannau yn hwyluso trefniadaeth a gwaith academaidd y Brifysgol.
Mae Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau yn gwneud gwaith cydlynu allweddol rhwng yr adrannau sy’n gweithredu yn eu meysydd diddordeb penodol hwy. Mae ganddynt hefyd y grym i weithredu ar faterion sy’n peri pryder, ar yr amod eu bod yn adrodd ynghylch hynny i’w cyfadrannau, y Pwyllgor Materion Academaidd, y Dirprwy Is-Gangellorion Dysgu ac Addysgu ac Ymchwil, a’r Is-Ganghellor fel y bo’n briodol. Mae Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau yn cydweithio’n agos yn eu meysydd cyfrifoldeb ac yn trefnu, trwy gyfrwng y Gofrestrfa Academaidd, i drafod a gwneud argymhellion ar eitemau sy’n gyffredin i’r cyfadrannau. Yn hyn o beth cânt lawer o gymorth gan aelodau allweddol o staff cymorth y Gofrestrfa. Maent hefyd yn cwrdd yn rheolaidd i sicrhau bod y cyfadrannau’n ymdrin â materion sy’n ymwneud â myfyrwyr mewn modd cyson. Maent yn cael eu cefnogi yn eu swyddi gan Ddeoniaid Cyswllt, sydd â chyfrifoldebau penodol am Ddysgu ac Addysgu, Ymchwil a darpariaeth Gymraeg.
Bydd gan bob adran academaidd o fewn cyfadran Bennaeth sydd â swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol, gan gynnwys goruchwylio rhaglenni a strwythurau academaidd. Mae Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran a Deon Cyswllt y Gyfadran yn cael cymorth Rheolwr Cyfadran ac yn cael eu cynghori gan Bwyllgor Gweithredol, sy’n cynnwys aelodau o staff sy’n gyfrifol am feysydd allweddol megis Dysgu ac Addysgu, a Sicrhau a Gwella Ansawdd. Mae’n ofynnol i bob cyfadran gael Pwyllgor Materion Academaidd. Amlinellir hyn yn Ordinhadau a Rheoliadau’r Brifysgol.
Penaethiaid Adrannau sy’n gyfrifol am reoli’r addysgu a’r ymchwil yn eu hadrannau o ddydd i ddydd, o fewn y canllawiau a bennwyd ar lefel y Brifysgol, gan gynnwys y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae gan yr Adrannau Gyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu a Chyfarwyddwyr Ymchwil penodedig sy’n adrodd i Bennaeth yr Adran ar y materion hyn. Mae’n ofynnol i bob adran gynnal cyfarfodydd adrannol sy’n cynnwys yr holl staff academaidd o leiaf unwaith y tymor i drafod materion academaidd. Ymhlith dibenion y cyfarfod mae:
(i) Bod yn gyfrwng ymgynghori â, a chynghori, Pennaeth yr Adran ar y modd y gweinyddir materion yr adran
(ii) Trafod y materion canlynol er mwyn hybu’r uchod:
- i’w gilydd natur a chynnwys cyrsiau
- dyrannu dyletswyddau addysgu a dyletswyddau eraill o fewn yr adran
- dyrannu arian ac ystafelloedd o fewn yr adran
- y defnydd o gymorth ysgrifenyddol, ymchwil a thechnegol.
Yn rhan o’r uchod, maent yn cael adroddiadau gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu yr Adran ac adroddiadau ar y monitro ffurfiol ar raglenni a gynhelir yn yr adran yn flynyddol, ac maent hefyd yn cofnodi’n ffurfiol adroddiadau Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr yr adran, sy’n fodd defnyddiol i’r staff a’r myfyrwyr roi adborth i’w gilydd.
4. Mae Pennaeth Ysgol y Graddedigion yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant Datblygu Ymchwilwyr trwy’r Brifysgol gyfan; y mae hefyd yn cydlynu’r gwaith o ddatblygu polisi ar faterion uwchraddedig, darparu cyfleusterau ar gyfer uwchraddedigion, a monitro recriwtio a chynnydd academaidd myfyrwyr uwchraddedig. Mae Pennaeth Ysgol y Graddedigion hefyd yn cymeradwyo enwebiadau ar gyfer arholwyr allanol ar raddau ymchwil.
5. Mae nifer o aelodau staff hŷn y Gofrestrfa Academaidd yn ymwneud â chynnal y gweithdrefnau sicrhau ansawdd, gan adrodd i’r Cofrestrydd Academaidd. Mae’r Gofrestrfa Academaidd hefyd yn darparu cymorth ar lefel cyfadrannau.
-
1.5 Lefelau cyfrifoldeb ar lefel Prifysgol ac Athrofa
1. Er mwyn adlewyrchu strwythur y Brifysgol, ac i gydnabod swyddogaeth y cyfadrannau o ran sicrhau a gwella ansawdd, dirprwyir rhai swyddogaethau ansawdd i’r cyfadrannau, tra bod eraill yn cael eu cadw ar lefel y Brifysgol.
Prosesau ar lefel y Brifysgol
2. Mae Senedd y Brifysgol, y Bwrdd Academaidd ac is-bwyllgorau eraill yn cadw’r cyfrifoldeb am y prosesau a’r gweithdrefnau sicrhau ansawdd canlynol:
(i) Datblygu a chymeradwyo fframweithiau, rheoliadau a gweithdrefnau academaidd
(ii) Adolygiad adrannol cyfnodol, gan gynnwys ailddilysu cyfnodol ar y ddarpariaeth
(iii) Adolygiadau cyfnodol o gynlluniau
(iv) Cymeradwyo penodiadau arholwyr allanol.
Prosesau ansawdd ar lefel y Cyfadrannau
3. Dirprwyir y cyfrifoldeb am y gweithdrefnau a’r prosesau canlynol i gyfadrannau, a’i gyflawni trwy strwythurau pwyllgor y cyfadrannau:
(i) Gweithredu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau a gwella ansawdd o fewn cynlluniau astudio, gan gynnwys eu cynllunio, eu cymeradwyo, eu monitro a’u hadolygu
(ii) Ystyried y Monitro Blynyddol ar Gynlluniau trwy Gwrs
(iii) Atal cynlluniau, eu tynnu’n ôl a newid eu teitlau
(iv) Cymeradwyo modiwlau (goruchwylir y broses gan y Bwrdd Academaidd)
(v) Ystyried adborth gan fyfyrwyr (trwy brosesau adborth a chynrychiolaeth myfyrwyr)
(vi) Achredu cynlluniau gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB).
-
1.6 Perthynas Deuluol a Phersonol a/neu Broffesiynol
1. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw berthynas bersonol a/neu broffesiynol a allai effeithio, neu y gellid credu ei bod yn effeithio, ar uniondeb cysylltiadau gwaith yn y Brifysgol.
2. Pan fo myfyriwr neu ymgeisydd:
(i) Yn frawd neu’n chwaer, yn rhiant, yn blentyn neu yn perthyn mewn ffordd arall i aelod o'r staff
neu
(ii) Yn bartner i neu mewn perthynas gydag aelod o'r staff
Ni chaiff yr aelod o'r staff fod yn unrhyw ran o’r dasg o dderbyn, goruchwylio nac asesu'r ymgeisydd/myfyriwr hwnnw. Y rheswm pennaf am hyn yw er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd/myfyriwr yn cael ei drin yn ddiduedd, gan gynnwys y posibilrwydd y byddai'r ymgeisydd/myfyriwr yn cael ei asesu yn fwy llym er mwyn pwysleisio'r bwriad o beidio â dangos ffafriaeth. Mae'n ffordd hefyd o amddiffyn aelodau o’r staff rhag cael eu cyhuddo o ddangos ffafriaeth ac yn osgoi unrhyw amheuaeth o ffafriaeth gan drydydd parti.
3. Rhaid i aelodau o staff ddatgan unrhyw berthynas o'r fath wrth eu rheolwr llinell cyn gynted ag y daw gwrthdaro posibl i'r amlwg, fel y gellir gwneud trefniadau i sicrhau nad ydynt yn ymwneud ag unrhyw weithgareddau lle ceir gwrthdaro buddiannau. Yn y cyd-destun hwn, mae 'aelodau o'r staff' yn cynnwys unrhyw un sydd dan gontract i wneud gwaith dysgu a gweithgareddau cysylltiedig, gan gynnwys myfyrwyr sydd â chytundebau rhan-amser, ac mae 'ymgeiswyr/myfyrwyr' yn cynnwys pob lefel astudiaeth hyd at, ac yn cynnwys, myfyrwyr ymchwil.
4. Caiff aelodau o'r staff hefyd ymgynghori â'r Rheolwyr ynglŷn â Pholisi Rheoli Gwrthdaro Buddiannau yn y Gweithle https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/managingofconflict/
-
1.7 Monitro ac Adolygu
1. Y Bwrdd Academaidd sydd â’r awdurdod cyffredinol dros adolygu effeithiolrwydd prosesau sicrhau a gwella ansawdd y Brifysgol yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghod Ansawdd yr ASA. Mae’n bosibl y bydd y Bwrdd yn dirprwyo’r cyfrifoldeb dros gynnal ystyriaeth fanwl o’r prosesau hyn i’w is-bwyllgorau fel y bo’n briodol. Bydd hefyd yn cyhoeddi fersiwn diwygiedig o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd ar ddechrau pob sesiwn academaidd.
2. Mae’r Gofrestrfa Academaidd yn croesawu sylwadau gan bob defnyddiwr ar gynnwys a diwyg y Llawlyfr hwn, a hynny er mwyn ei wella’n barhaus a datblygu fersiynau i’r dyfodol. Dylid anfon unrhyw sylwadau at: sicrhau-ansawdd@aber.ac.uk
-
1.8 Llawlyfr Ansawdd Academaidd 2022/23: Crynodeb o’r Newidiadau Allweddol
Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r newidiadau a wnaed ers cyhoeddi fersiwn 2021/22 o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd ym mis Medi 2021.
Adran
Newid
Dyddiad
2.7 Datblygu ac Adolygu (Cynlluniau i’w tynnu’n ôl)
5. Gall y Pwyllgor Cynllunio Portffolio gynnig gohirio neu ddileu cynlluniau'n flynyddol yn seiliedig ar ddata tueddiadau recriwtio a gwybodaeth am y farchnad. Bydd y PCP yn gwahodd adrannau i weithredu ar sail yr adroddiad hwn i ddileu neu ohirio cynlluniau fel y bo'n briodol. Gwahoddir cyfadrannau i ddarparu rhesymeg gadarn i’r PCP ar gyfer cadw unrhyw gynlluniau a nodwyd yn yr adroddiad. Dylai cyfadrannau ystyried cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg, mewn ymgynghoriad â Deon Cysylltiol y Gyfadran (Darpariaeth Academaidd Cyfrwng Cymraeg) a fydd yn gyfrifol am ymgynghori â'r Pwyllgor Astudiaethau Cyfrwng Cymraeg, a chadarnhau unrhyw effaith ar y ddarpariaeth. Bydd gan y PCP yr awdurdod i wneud penderfyniadau terfynol gan ystyried yr adborth hwn. Ni fyddai angen dogfennau cymeradwyo pellach a bydd y penderfyniad yn cael ei gofnodi yng nghofnodion y PCP.
Bwrdd Academaidd – Mawrth 2022
2.14 Datblygu ac Adolygu - Furflenni Templed
Llinell amser ar gyfer gohirio/dileu cynllun a gynigiwyd gan y PCP yn dilyn adolygiad blynyddol o ddata tueddiadau recriwtio a gwybodaeth am y farchnad.
Bwrdd Academaidd – Mawrth 2022
3.2 Polisi a Gweithdrefnau Asesu
28. Mae’r Brifysgol wedi sefydlu polisi ar gyfieithu asesiadau er mwyn sicrhau uniondeb y broses (h.y. na fydd myfyrwyr yn cael mantais nac anfantais annheg o ran marcio gwaith wedi’i gyfieithu). Nid oes disgwyl i fyfyrwyr sydd am gyflwyno sgriptiau arholiadau neu asesiadau gwaith cwrs yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng Saesneg roi gwybod am hyn i adrannau academaidd ymlaen llaw. Os yw myfyrwyr yn gofyn am asesiadau llafar trwy gyfrwng y Gymraeg, dylid eu hasesu yn Gymraeg lle bynnag y bo modd, heb gyfieithu ar y pryd. Fel arall, dylai adrannau ymgynghori â Chanolfan Gwasanaethau'r Gymraeg fesul achos. Os darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd, byddai'n ddefnyddiol rhoi sgript neu grynodeb ysgrifenedig i'r cyfieithydd ar y pryd ymlaen llaw.
Bwrdd Academaidd – Mawrth 2022
3.6 Ymddygiad
Academaidd
Diweddarwyd y bennod er mwyn egluro na ddylid gosod trothwy penodedig i sgôr tebygrwydd Turnitin (para 19) ac y gellir gofyn am dystiolaeth ychwanegol (para 22).
Bwrdd Academaidd –
Medi 2022
4.2 Gradd Baglor:
Rheolau Cynnydd
4.2.4 (para 4.) Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi methu 80 credyd neu lai gymryd y cyfle nesaf i ailsefyll yr holl asesiadau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Rhaid cymryd yr ail gyfle i ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethwyd yn ystod y flwyddyn ddilynol, yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen. Ni fydd myfyrwyr sydd ar leoliad rhyng-gwrs neu dramor yn colli cyfle i ailsefyll os oes ganddynt ymrwymiadau yn ymwneud â’u lleoliad sy'n eu hatal rhag manteisio ar eu cyfle cyntaf i ailsefyll yn ystod cyfnod yr arholiadau ailsefyll ym mis Awst yr ail flwyddyn, ac ni fyddant ychwaith yn colli cyfle i ailsefyll os na allant ailsefyll yn ystod y flwyddyn ar leoliad. Bydd myfyrwyr na allant ailsefyll oherwydd ymrwymiadau eu lleoliad yn cael cynnig ailsefyll yn ystod eu blwyddyn olaf.
Bwrdd Academaidd –
Mehefin 2022
4.3.3 Confensiynau
Arholiadau
Myfyrwyr sy'n dechrau Rhan Un ar Gynlluniau Meistr Integredig MComp ac MEng O fis Medi 2022
2. Fel y nodir o dan 4.3.2, ac eithrio pwynt 2, ni chaiff myfyrwyr fethu mwy na chyfanswm o 20 credyd ar draws Lefel Dau, Lefel Tri a Lefel M, sy'n cyfrannu at dosbarthiad terfynol y dyfarniad.
Bwrdd Academaidd –
Gorffennaf 2022
4.5 Confensiynau
Arholiadau
Newid i bennawd adran 4.5 Cynlluniau Gradd gyda Blwyddyn Ryng-gwrs, neu gynlluniau nad
ydynt yn rhai ieithyddol ond sy'n cynnwys blwyddyn yn Astudio Dramor Cynlluniau.
Bwrdd Academaidd –
Mehefin 2022
4.7 Confensiynau
Arholiadau
BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar (gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)
Rheol Cynnydd
1. Bydd yn ofynnol i ymgeisydd sy'n cael marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 1 ond nad
yw'n cwblhau'r lleoliad arsylwi yn llwyddiannus, ailadrodd y flwyddyn.
Gwobrau Ymadael
2. Gall ymgeisydd sydd wedi defnyddio’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddo/iddi ailsefyll yn Rhan Un
fod yn gymwys i dderbyn Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE) (Astudiaethau Plentyndod Cynnar).
3. Bydd ymgeisydd sy'n cael marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 1 ond nad yw'n parhau
â'r astudiaeth yn gymwys i dderbyn Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE) (Astudiaethau Plentyndod
Cynnar).
4. Bydd ymgeisydd sydd wedi defnyddio’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddo/iddi ailsefyll yn Rhan
Dau yn gymwys i dderbyn Diploma Addysg Uwch (CertHE) (Astudiaethau Plentyndod Cynnar) neu'r
Radd Gyffredin (Astudiaethau Plentyndod Cynnar).
5. Bydd ymgeisydd sy'n cael marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 2 ond nad yw'n parhau
â'r astudiaeth yn gymwys i dderbyn Diploma Addysg Uwch (DipHE) (Astudiaethau Plentyndod
Cynnar).
Bwrdd Academaidd –
Gorffennaf 2022
4.8 Confensiynau
Arholiadau
4.8 BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl) (Yn berthnasol i bob myfyriwr sy'n dechrau ym mis Medi 2022)
Rheolau symud ymlaen
1. Y marc pasio ar gyfer modiwlau yw 40% ac mae'n ofynnol i fyfyrwyr basio'r holl asesiadau ym mhob modiwl. Rhaid pasio pob modiwl, h.y. 120 credyd, er mwyn symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.
2. Bydd gofyn i fyfyrwyr ailsefyll ac/neu ailgyflwyno'r elfen neu’r elfennau a fethwyd ym mhob semester. Bydd gan fyfyrwyr DDAU gyfle i ailsefyll modiwl neu elfen a fethwyd (ar wahân i'r elfen Ymarfer Proffesiynol - dim ond UN cyfle i ailsefyll honno a geir, a hynny ar ddiwedd y lleoliad). Cyfle i ailsefyll yn ystod y semester fydd y cyfle cyntaf. Os methir y cyfle i ailsefyll yn ystod y semester, bydd y cyllid yn cael ei atal am flwyddyn a bydd gan fyfyrwyr un cyfle olaf i ailsefyll yn allanol o fewn 12 mis. Wedi iddynt ailsefyll yn allanol bydd myfyrwyr yn ailymuno â'r brif garfan yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
Dyfarniadau gadael
3. Bydd ymgeisydd sydd yn ennill marc cyffredinol o 40% yn Rhan Un ond nad yw’n parhau â’i astudiaethau yn gymwys i dderbyn Tystysgrif Addysg Uwch (TAU) Astudiaethau Gofal Iechyd (120 credyd ar Lefel 4)
4. Bydd ymgeisydd sydd yn ennill marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 2 ond nad yw’n parhau â’i astudiaethau yn gymwys i dderbyn Diploma Addysg Uwch (DAU) Astudiaethau Gofal Iechyd (120 credyd ar Lefel 5)
Medi 2022
4.10 Confensiynau
Arholiadau
Newid ym mhennawd is-adran yn 4.10 Confensiynau Pennu Dosbarth Graddau Modiwlar/
Cynlluniau 4 blynedd yn cynnwys 2 flynedd yn Aberystwyth ar ôl Rhan Un yn ogystal â Blwyddyn
Dramor neu Flwyddyn Ryng-gwrs gan gynnwys cynlluniau nad ydynt yn rhai ieithyddol ond sy'n
cynnwys blwyddyn yn Astudio Dramor
Bwrdd Academaidd –
Mehefin 2022
5.2 Arholi Allanol
4. Dylid ystyried mai’r egwyddor gyntaf yw penodi arholwyr mewnol ac allanol sy’n gymwys yn
ieithyddol ac yn academaidd i farnu ar y testun Cymraeg gwreiddiol. Os nad yw’n bosibl penodi
arholwr allanol i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid ystyried cyfieithu fel dewis, gan nodi bod
i hyn risg uwch. I gael canllawiau pellach, darllenwch ganllawiau’r ASA ynglŷn ag arfer effeithiol
wrth arholi ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg, guidelines-for-higher-education-providers-on-effective-practice-in-examining-and-assessing-in-welsh-within-wales.pdf
Bwrdd Academaidd –
Mehefin 2022
5.6 Arholi Allanol
5.
(v) Rhaglenni astudio TAR Cynradd/Uwchraddedig gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) - cymryd rhan mewn llawer o leoliadau bob blwyddyn fel y cytunwyd ymlaen llaw â Phennaeth yr Adran/Cyfarwyddwr y Rhaglen.(vi) Cymrwyd rhan mewn digwyddiadau/ymweliadau eraill yn ôl yr angen ac fel y cytunwyd ymlaen
llaw â Phennaeth yr Adran, er enghraifft yn rhan o gynlluniau sydd ag elfen ymarferol neu'r rhai
sy'n gofyn i bobl fod yn aelod o gorff proffesiynol.
Medi 2022
5.8 Arholi Allanol
1. (v) Rhaid i arholwr allanol y TUAAU gyflwyno adroddiad blynyddol ar ôl prif Fwrdd Arholi'r TUAAU ym mis Chwefror, oni bai bod Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gofyn iddo wneud fel arall.
Medi 2022
6.6 Tiwtoriaid Personol
4. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr israddedig amser llawn gwrdd â’u Tiwtor Personol o leiaf bedair gwaith yn ystod y flwyddyn gyntaf, o leiaf deirgwaith yn yr ail flwyddyn, ac o leiaf ddwywaith yn y drydedd/bedwaredd flwyddyn. Bydd myfyrwyr uwchraddedig ar gynlluniau trwy gwrs amser llawn yn cael o leiaf dri chyfarfod yn ystod eu hastudiaethau. Gall rhai sesiynau tiwtorial fod ar ffurf cyfarfodydd grŵp. Bydd y Brifysgol yn rhoi arweiniad ychwanegol i Adrannau ar amseru a chynnwys y cyfarfodydd hyn.
Bwrdd Academaidd – Mawrth 2023
9.2 Meini Prawf ar gyfer Dyfarnu Graddau,
Diplomâu a Thystysgrifau
Ychwanegwyd cyfeiriad at Atodiad D: Canlyniad disgrifwyr cymhwyster Lefel 6 FHEQ a
graddau lefel 10 FQHEIS
Medi 2022
Rheoliadau ar gyfer
Graddau Cychwynnol Modiwlar
22. Ni chaiff myfyrwyr gradd Baglor fethu mwy nag 20 credyd sy’n cyfrannu at ddosbarthiad terfynol eu dyfarniad (ac eithrio Modiwlau Lefel S). Ni chaiff myfyrwyr gradd Meistr Integredig fethu mwy nag 20 credyd ar draws Lefel Dau (Ail Flwyddyn) a Thri (Trydedd Flwyddyn) ac ni chant fethu mwy nag 20 credyd ar Lefel M (Pedwaredd Flwyddyn) ac eithrio myfyrwyr sy'n cychwyn ar raddau Meistr Integredig MEng ac MComp O fis Medi 2022 - gweler isod.
22a. Ni chaiff myfyrwyr sy'n cychwyn ar raddau Meistr Integredig MEng ac MComp O fis Medi 2022 fethu mwy nag 20 credyd ar draws Rhan Dau yn ei chyfanrwydd.
Bwrdd Academaidd –
Gorffennaf 2022
Rheoliad ynghylch
Ymddygiad Academaidd Annerbyniol
Diweddarwyd y rheoliad i gynnwys categori newydd o dan cydgynllwynio, i gadarnhau lle bo’n bosib na ddylai aelodau’r panel fod wedi bod yn gysylltiedig ag achosion blaenorol o YAA yn achos yr un myfyriwr, ac y dylai’r myfyriwr gael gwybod pwy yw aelodau’r panel ymlaen llaw cyn y cyfarfod fel y gallant nodi unrhyw wrthdaro buddiannau cyn y cyfarfod. Ni ddylid ystyried honiadau blaenorol o YAA wrth benderfynu a fu YAA ai peidio, ac ni ddylid rhoi gwybod i’r panel am honiadau blaenorol o YAA tan ar ôl penderfynu a yw’r honiad yn cael ei gadarnhau. Ar ôl i benderfyniad gael ei wneud, caiff y panel ystyried achosion blaenorol a gadarnhawyd o YAA wrth bennu’r gosb fel y nodir yn y drefn seiliedig ar bwyntiau. Bellach, bydd argymhellion ynglŷn â lleihau cosbau ar sail amgylchiadau arbennig yn cael eu hystyried gan y Cofrestrydd Academaidd (neu un a enwebir ganddo/ganddi).
Bwrdd Academaidd –
Medi 2022
Rheoliadau ar gyfer
Graddau Cychwynnol Modiwlar
22. Ni chaiff myfyrwyr gradd Baglor fethu mwy nag 20 credyd sy’n cyfrannu at ddosbarthiad terfynol eu dyfarniad (ac eithrio Modiwlau Lefel S). Ni chaiff myfyrwyr gradd Meistr Integredig fethu mwy nag 20 credyd ar draws Lefel Dau (Ail Flwyddyn) a Thri (Trydedd Flwyddyn) ac ni chant fethu mwy nag 20 credyd ar Lefel M (Pedwaredd Flwyddyn), ac eithrio myfyrwyr sy'n cychwyn ar raddau Meistr Integredig MEng ac MComp O fis Medi 2022 - gweler isod.
22a. Ni chaiff myfyrwyr sy'n cychwyn ar raddau Meistr Integredig MEng ac MComp O fis Medi 2022 fethu mwy nag 20 credyd ar draws Rhan Dau yn ei chyfanrwydd.
Bwrdd Academaidd –
Gorffennaf 2022
Rheoliadau ar gyfer
Graddau Cychwynnol Modiwlar
Rheoliadau Ychwanegol – Darpariaethau arbennig mewn perthynas â'r graddau canlynol:
BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar (gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)
Bydd myfyrwyr sy'n cael eu derbyn ar gynllun BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar (gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar gyda'r eithriad canlynol. Os na allant wedyn symud ymlaen, neu os na chaniateir iddynt fynd ymlaen i gwblhau'r dyfarniad, yn ddibynnol ar nifer y credydau a enillwyd ar y lefelau priodol pan fyddant yn ymadael, mae'n bosib y byddant yn gymwys i dderbyn un o'r dyfarniadau canlynol gydag 'Astudiaethau Plentyndod Cynnar' fel teitl y cynllun (dim Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar):
Tystysgrif Addysg Uwch (AU Lefel 1/CQFW 4)
Diploma mewn Addysg Uwch (AU Lefel 2/CQFW 5)
Gradd Gyffredin (Lefel AU 3/CQFW 6)
Bwrdd Academaidd –
Gorffennaf 2022
Rheoliadau ar gyfer
Graddau Cychwynnol Modiwlar
22b Cynlluniau BSc Nyrsio - rhaid i bob un o'r 360 credyd gael eu pasio yn Rhan Un a Rhan Dau, h.y. ni chaniateir methu unrhyw gredydau. (Medi 2022).
Rheoliadau Ychwanegol – Darpariaethau arbennig mewn perthynas â'r graddau canlynol:
BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl)
Bydd myfyrwyr sydd yn cael eu derbyn i'r cynlluniau BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl) yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar gyda'r eithriad canlynol. Os na fyddant yn gallu symud ymlaen wedi hynny i gwblhau’r cymhwyster, neu os na chaniateir iddynt wneud hynny, mae’n bosibl – gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd ar y lefelau priodol pan fyddant yn gadael – y byddant yn gymwys am un o'r dyfarniadau canlynol, gydag 'Astudiaethau Gofal Iechyd' fel teitl y cynllun:
Tystysgrif Addysg Uwch (AU Lefel 1/FfCChC 4
Diploma Addysg Uwch (AU Lefel 2/FfCChC 5Medi 2022
Rheoliadau ar gyfer Dyfarniadau
Uwchraddedig Modiwlar
trwy Gwrs
10. Byddai myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar yr MA Gwleidyddiaeth Ryngwladol (Gradd Ddeuol) ac sy'n cwblhau 120 credyd yn llwyddiannus yn Aberystwyth ond nad ydynt yn mynd ymlaen i ail flwyddyn y cynllun yn gymwys ar gyfer dyfarnu MA Gwleidyddiaeth Ryngwladol iddynt.
Medi 2022
Rheoliadau ar gyfer
Graddau Doethurol drwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil neu Bortffolio
[DProf]
8. Bydd ymgeisydd sydd wedi cwblhau Rhan Un yn llwyddiannus ond nad yw'n dymuno parhau neu sy'n aflwyddiannus yn ei ymgeisyddiaeth ar gyfer y DProf yn gymwys am ddyfarniad MProf, MRes neu ddyfarniad Meistr arall sy’n ffurfio Rhan Un o’u rhaglen astudio.
Bwrdd Academaidd –
Mehefin 2022