1.5 Lefelau cyfrifoldeb ar lefel Prifysgol ac Athrofa

1. Er mwyn adlewyrchu strwythur y Brifysgol, ac i gydnabod swyddogaeth y cyfadrannau o ran sicrhau a gwella ansawdd, dirprwyir rhai swyddogaethau ansawdd i’r cyfadrannau, tra bod eraill yn cael eu cadw ar lefel y Brifysgol.

Prosesau ar lefel y Brifysgol

2. Mae Senedd y Brifysgol, y Bwrdd Academaidd ac is-bwyllgorau eraill yn cadw’r cyfrifoldeb am  y prosesau a’r gweithdrefnau sicrhau ansawdd canlynol:

(i) Datblygu a chymeradwyo fframweithiau, rheoliadau a gweithdrefnau academaidd

(ii) Adolygiad adrannol cyfnodol, gan gynnwys ailddilysu cyfnodol ar y ddarpariaeth

(iii) Adolygiadau cyfnodol o gynlluniau

(iv) Cymeradwyo penodiadau arholwyr allanol.

Prosesau ansawdd ar lefel y Cyfadrannau

3. Dirprwyir y cyfrifoldeb am y gweithdrefnau a’r prosesau canlynol i gyfadrannau, a’i gyflawni trwy strwythurau pwyllgor y cyfadrannau:

(i) Gweithredu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau a gwella ansawdd o fewn cynlluniau astudio, gan gynnwys eu cynllunio, eu cymeradwyo, eu monitro a’u hadolygu

(ii) Ystyried y Monitro Blynyddol ar Gynlluniau trwy Gwrs

(iii) Atal cynlluniau, eu tynnu’n ôl a newid eu teitlau

(iv) Cymeradwyo modiwlau (goruchwylir y broses gan y Bwrdd Academaidd)

(v) Ystyried adborth gan fyfyrwyr (trwy brosesau adborth a chynrychiolaeth myfyrwyr)

(vi) Achredu cynlluniau gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB).