1.6 Perthynas Deuluol a Phersonol a/neu Broffesiynol
1. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw berthynas bersonol a/neu broffesiynol a allai effeithio, neu y gellid credu ei bod yn effeithio, ar uniondeb cysylltiadau gwaith yn y Brifysgol.
2. Pan fo myfyriwr neu ymgeisydd:
(i) Yn frawd neu’n chwaer, yn rhiant, yn blentyn neu yn perthyn mewn ffordd arall i aelod o'r staff
neu
(ii) Yn bartner i neu mewn perthynas gydag aelod o'r staff
Ni chaiff yr aelod o'r staff fod yn unrhyw ran o’r dasg o dderbyn, goruchwylio nac asesu'r ymgeisydd/myfyriwr hwnnw. Y rheswm pennaf am hyn yw er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd/myfyriwr yn cael ei drin yn ddiduedd, gan gynnwys y posibilrwydd y byddai'r ymgeisydd/myfyriwr yn cael ei asesu yn fwy llym er mwyn pwysleisio'r bwriad o beidio â dangos ffafriaeth. Mae'n ffordd hefyd o amddiffyn aelodau o’r staff rhag cael eu cyhuddo o ddangos ffafriaeth ac yn osgoi unrhyw amheuaeth o ffafriaeth gan drydydd parti.
3. Rhaid i aelodau o staff ddatgan unrhyw berthynas o'r fath wrth eu rheolwr llinell cyn gynted ag y daw gwrthdaro posibl i'r amlwg, fel y gellir gwneud trefniadau i sicrhau nad ydynt yn ymwneud ag unrhyw weithgareddau lle ceir gwrthdaro buddiannau. Yn y cyd-destun hwn, mae 'aelodau o'r staff' yn cynnwys unrhyw un sydd dan gontract i wneud gwaith dysgu a gweithgareddau cysylltiedig, gan gynnwys myfyrwyr sydd â chytundebau rhan-amser, ac mae 'ymgeiswyr/myfyrwyr' yn cynnwys pob lefel astudiaeth hyd at, ac yn cynnwys, myfyrwyr ymchwil.
4. Caiff aelodau o'r staff hefyd ymgynghori â'r Rheolwyr ynglŷn â Pholisi Rheoli Gwrthdaro Buddiannau yn y Gweithle https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/managingofconflict/