Croeso

Croeso i Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth – yr Ysgol Filfeddygol gyntaf o’i bath a'r unig un yng Nghymru.

Fel rhywun sy'n angerddol am hyfforddiant milfeddygol a'r rôl y gall y proffesiwn milfeddygol ei chwarae mewn cymdeithas, nid yn unig yng Nghymru ond yn fyd-eang, fe'ch gwahoddaf yn gynnes i ystyried astudio gyda ni.

Mae ein gradd Baglor Milfeddygaeth (BVSc) yn cynnig cyfle unigryw i hyfforddi mewn dau sefydliad addysgol a gwyddonol blaengar: y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol a Phrifysgol Aberystwyth.

Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth ym 1872, ac ers canrif a hanner bu'n darparu ymchwil arloesol ym meysydd Amaethyddiaeth, a Gwyddorau Anifeiliaid a Biolegol.

Y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, a sefydlwyd ym 1791, yw'r ysgol filfeddygaeth annibynnol fwyaf a'r hynaf ym Mhrydain, ac y mae'n Aelod Sefydliad o Brifysgol Llundain.

Yn ôl cynghrair QS o Brifysgolion y Byd, sy'n barnu fesul pwnc, hi yw ysgol filfeddygol flaenaf y byd.

Mae'r darlithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a'r Coleg Milfeddygol nid yn unig yn ymchwilwyr a chlinigwyr ar lwyfan byd-eang sy'n llwyr ymroddedig i'w meysydd; y maent hefyd yn weithwyr proffesiynol arbennig o gymwysedig.

Mae ein cwrs wedi'i gynllunio i hyfforddi myfyrwyr i weithio yn y ffordd orau bosibl gyda nifer o wahanol anifeiliaid, mewn amrywiaeth o leoliadau cyflogaeth, ac i ddarparu addysgu damcaniaethol ac ymarferol o safon uchel.

Os ydych chi’n angerddol am Filfeddygaeth, beth am ymuno â ni ar Ddiwrnod Agored i gwrdd â'n staff a gweld ein cyfleusterau addysgu ac ymchwil rhagorol. Byddwch yn darganfod beth sy'n gwneud Aberystwyth yn lle mor anhygoel i fyw a dysgu.

Yr Athro Darrell Abernethy
Pennaeth Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth

Canfod mwy am y cwrs BVSc Gwyddor Milfeddygaeth