Canolfan Addysg Milfeddygaeth

Am ddwy flynedd gyntaf y radd BVSc Gwyddor Milfeddygaeth, byddwch yn cael eich dysgu yn y Ganolfan Addysg Milfeddygaeth sydd wedi’i lleoli ar Gampws Penglais.

Croesawodd y Ganolfan ei charfan gyntaf o fyfyrwyr ym mis Medi 2021.

Mae’r Ganolfan Addysg Filfeddygol i'w chael ar Gampws Penglais. Yno ceir ystafelloedd ar gyfer sgiliau clinigol a hyfforddiant ar ymdrin ag anifeiliaid
anwes, yn ogystal ag adnoddau dysgu anatomeg a mannau i'r myfyrwyr drafod ac ymbaratoi cyn y dosbarthiadau.

Yn ogystal ag adnoddau o safon uchel yn y labordai ar Gampws Penglais, a'r Ganolfan Addysg Milfeddygaeth, mae'r cyfleusterau penodol sy'n berthnasol i'r cwrs BVSc yn cynnwys: 

 

Canolfan Geffylau'r Lluest

Mae'r Ganolfan Geffylau yn gyfleuster addysgu pwrpasol a Chanolfan Hyfforddi a Gymeradwywyd gan Gymdeithas Ceffylau Prydain (BHS).

Mae 20 stabl ar gael i unigolion sydd am gadw eu ceffyl eu hun yno, ac mae 13 ohonynt yn flychau Lodden o'r ansawdd orau.

Mae padogau pori ger y stablau, bob un wedi'u cau'n dda ac yn hawdd eu cyrraedd.

Mae'r adnoddau'n cynnwys:

  • Arena dan-do o faint safon ryngwladol (60x30m gydag arwyneb cwyr 'Combi-Ride')
  • Ardal awyr-agored (60x30m llawr cymysg Combi-Ride' o dywod a ffeibr)
  • Man cerdded ceffylau a chorlan gron
  • Blychau rhydd a blychau arddangos
  • Set gyflawn o glwydi neidio a llenwyr.

Pwllpeiran

Mae Canolfan Ymchwil yr Ucheldir, Pwllpeiran yn ganolfan ar gyfer astudio ecosystemau ucheldirol sy'n cael eu ffermio. Saif yng nghalon mynyddoedd y Canolbarth ac yn gartref i deulu o alpacas.

Mae Pwllpeiran yn ficrocosm ar gyfer ardaloedd ucheldirol a dyma'r unig gyfleuster o'r fath yng Nghymru a Lloegr. Mae ei ymchwil yn hanfodol i sicrhau sylfaen gadarn o dystiolaeth ar gyfer polisïau ar adeg o newid gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol na welwyd ei debyg o'r blaen.

 

Ffermydd y Brifysgol

Mae ffermydd y brifysgol sydd wedi'u lleoli yng Ngogerddan (fferm ddefaid a chig eidion), Morfa Mawr (tir pori isel), Trawsgoed (fferm laeth) a Phwllpeiran (ucheldir) yn ymestyn i gyfanswm o dros 800 hectar, ac yn amrywio o 0-600 metr uwchlaw lefel y môr. Rhyngddynt, mae'r pedwar safle hyn yn manteisio ar ddaearyddiaeth Gorllewin Cymru i ddarparu sbectrwm o heriau amgylcheddol sy'n cynrychioli'n fras yr amodau tyfu ar gyfer tua 80% o laswelltiroedd y DU.

Mae ein ffermydd yn gweithredu fel safleoedd arloesi ar gyfer gwasanaeth trosglwyddo gwybodaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant. Mae Trawsgoed yn
gartref i tua 420 o wartheg godro gyda lloia gydol y flwyddyn a systemau godro robotig o'r radd flaenaf, tra bod Gogerddan, Pwllpeiran a Morfa Mawr yn gartref i ddiadelloedd o ddefaid ar yr ucheldir a'r iseldir a buchesi o wartheg bîff.