BVSc Gwyddor Milfeddygaeth

Mae’r radd Baglor Gwyddor Milfeddygaeth (BVSc) yn cynnig cyfle unigryw i hyfforddi mewn dau sefydliad addysgol a gwyddonol blaengar: y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol (RVC) a Phrifysgol Aberystwyth.

Mae’r cwrs newydd cyffrous hwn yn cyfuno arbenigedd gwyddonol a chlinigol y ddau sefydliad i ddarparu hyfforddiant milfeddygol eang i fyfyrwyr, ac fe fydd yn apelio'n arbennig at y rhai sy’n dymuno cael gyrfa filfeddygol yng Nghymru neu mewn meddygfeydd milfeddygol cymysg yng nghefn gwlad.

Côd UCAS:  D105

Côd yr Athrofa: RVET R84

Canllaw Gam-wrth Gam ar sut i fod yn Filfeddyg - Prifysgol Aberystwyth

Trosolwg

Mae Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth, ar y cyd â’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol (RVC), yn darparu'r cynllun gradd BVSc Gwyddor Milfeddygaeth. Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth ym 1872, ac ers canrif a mwy bu’n darparu ymchwil arloesol ym meysydd Amaethyddiaeth, a Gwyddorau Anifeiliaid a Biolegol.

Y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, a sefydlwyd ym 1791, yw’r ysgol filfeddygaeth annibynnol fwyaf a’r hynaf yn y Deyrnas Unedig, ac y mae’n Aelod Sefydliad o Brifysgol Llundain. Yn ôl cynghrair QS o Brifysgolion y Byd, sy’n barnu fesul pwnc, hi yw ysgol filfeddygol flaenaf y byd, 2019.

Bydd y cynllun BVSc Gwyddor Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, yn cynnig cyfle ichi hyfforddi mewn dau sefydliad blaenllaw.

Cynnwys y cwrs

Trefnir yr addysgu yn ‘ffrydiau’. Dychwelir at y ffrydiau hyn yn aml, gan ganolbwyntio i ddechrau ar yr anifail iach, a symud ymlaen trwy glefydau gwahanol systemau, a sut i’w harchwilio a’u trin. Bydd hefyd ffrydiau sy’n canolbwyntio ar yr wyddoniaeth sylfaenol ac effaith clefydau anifeiliaid ar iechyd y cyhoedd.

Yn y ddwy flynedd gyntaf byddwch yn treulio eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn astudio bioleg sy’n sail i filfeddygaeth, yn meithrin sgiliau sylfaenol wrth drin anifeiliaid fferm, ceffylau, ac anifeiliaid anwes, yn ogystal â datblygu eich dawn gyfathrebu, datrys problemau a gweithio mewn tîm. Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir o ddarparu addysgu ac ymchwil ar iechyd anifeiliaid ac mae’n ymrwymedig i ragoriaeth addysgiadol.

Ym mlwyddyn tri byddwch yn astudio ar Gampws Hawkshead y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, lle byddwch yn ennill yr wybodaeth a’r sgiliau ymarferol uwch mewn gwyddor glinigol sy’n angenrheidiol er mwyn gallu cymryd rhan gyflawn mewn ymarfer clinigol yn y Coleg Milfeddygaeth, mewn meddygfeydd cydweithredol, ac mewn milfeddygfeydd preifat ym mlynyddoedd pedwar a phump. Ar ben hyn, byddwch yn dod yn ôl i Brifysgol Aberystwyth ym mlynyddoedd pedwar a phump i gael cylchdroeon o hyfforddiant clinigol arbenigol am gyfnod cyfyngedig.

Mae gan y Coleg Milfeddygaeth dair adran academaidd a chlinigol eithriadol. Mae’r darlithwyr ymhob adran ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol nid yn unig yn ymchwilwyr a chlinigwyr ar lwyfan byd-eang sy’n llwyr ymroddedig i’w meysydd; y maent hefyd yn weithwyr proffesiynol arbennig o gymwysedig. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd myfyrwyr yn elwa o ddefnyddio ffermydd eang y Brifysgol, canolfan geffylau Lluest a chyfleusterau addysgu eraill.

Y ffrydiau sy’n sail i’r addysgu yw:

O’r flwyddyn gyntaf i’r drydedd:

• Egwyddorion Gwyddoniaeth

• Symudiadau (Locomotor)

• Cardiofasgwlaidd a resbiradol

• Troethgenhedlol: arennol

• Troethgenhedlol: atgenhedlu

• Y system ymborthol

• Niwroleg a synhwyrau arbennig

• Lymfforeticwlaidd a gwaedfagol

• Croen

• Meddyginiaeth poblogaeth ac iechyd cyhoeddus milfeddygol (PMVPH)

• Meddyginiaeth ar sail ysgolheictod.

 

Yn ystod y bedwaredd a’r bumed flwyddyn:

Bydd y rhan fwyaf o’r addysgu yn y ddwy flynedd olaf ar ffurf cylchdroeon clinigol, lle byddwch yn gweithio mewn grwpiau bach yn rhan o dîm clinigol. 

Byddwch yn canolbwyntio ar:

• Baratoi am y cylchdro

• Cylchdroeon clinigol o fewn i’r sefydliad

• Astudiaethau Proffesiynol

• Meddyginiaeth Poblogaeth ac Iechyd Cyhoeddus Milfeddygol.

Addysgu Ymarferol a Chlinigol

Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS)


Ymgymerir ag AHEMS yn ystod tair blynedd gyntaf y rhaglen. Mae lleoliadau AHEMS wedi’u llunio i’ch cynorthwyo i gadarnhau’r hyn a ddysgoch am hwsmonaeth anifeiliaid, i ddatblygu sgiliau trin anifeiliaid, a dysgu am ddiwydiannau anifeiliaid. Rhaid cwblhau 12 wythnos o AHEMS cyn cael mynediad i drydedd flwyddyn y cwrs. Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion y byd milfeddygol yng Nghymru, bydd o leiaf 6 wythnos o’r AHEMS yn cael eu cyflawni yng Nghymru.

Efrydiau Allanol Clinigol (ClinEMS)


ClinEMS yw’r cyfnod a neilltuir i ennill profiad clinigol ymarferol ym mlynyddoedd olaf eich rhaglen filfeddygol, i ategu eich dysgu a’ch profiad clinigol. Trwy gyfrwng ClinEMS byddwch yn ennill profiad mewn amrywiaeth o sefydliadau gwahanol, clinigol a chysylltiedig â milfeddygaeth, lle byddwch yn cadarnhau’r hyn a ddysgoch am ddiagnosis a rheoli clefydau anifeiliaid, yn gwella eich sgiliau clinigol ymarferol, ac yn cael gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae sefydliadau milfeddygol yn gweithredu.

Byddwch yn ymgymryd â lleoliadau ClinEMS ym mlynyddoedd tri, pedwar a phump y rhaglen BVSc, sef cyfanswm o 26 wythnos mewn lleoliadau. Er mwyn cael gwell dealltwriaeth ynglŷn â milfeddygfeydd yng Nghymru, bydd o leiaf 13 wythnos o’r ClinEMS yn cael eu cyflawni yng Nghymru.

Cylchdroeon clinigol o fewn i’r sefydliad

Yn ystod dwy flynedd olaf y cwrs, bydd eich profiad clinigol yn canolbwyntio ar:

  • arsylwi, trafod a phrofiad ymarferol o fod yn aelod o’r tîm clinigol yn ysbytai’r Coleg Milfeddygaeth, ac mewn sefydliadau clinigol y mae’r Coleg yn bartner iddynt
  • lleoliadau mewn meddygfeydd milfeddygol
  • presenoldeb mewn darlithoedd, seminarau a gweithdai
  • cwblhau prosiect ymchwil sylweddol

Modiwlau

Y flwyddyn gyntaf:

  • Professional Studies & Evidence Based Medicine (Year 1)
  • Animal Husbandry
  • Alimentary, Endocrine & Urogenital Systems (Year 1)
  • Cardiovascular, Respiratory & Locomotor Systems (Year 1)
  • Neurology, Ophthalmology & Special Senses
  • Principles of Science (Year 1)
  • Population Medicine & Veterinary Public Health.

 

Yr ail flwyddyn:

  • Alimentary, Endocrine & Urogenital Systems (Year 2)
  • Cardiovascular, Respiratory & Locomotor Systems (continued from Year 1)
  • Principles of Science (continued from Year 1)
  • Professional Studies & Evidence Based Medicine continued from Year 1).

 

Y drydedd flwyddyn:

  • Alimentary
  • Population medicine and veterinary public health
  • Reproduction
  • Cardiovascular and respiratory
  • Skin
  • Locomotor
  • Neurology and special senses
  • Lymphoreticular and haemopoietic
  • Principles of science
  • Professional studies.

Y bedwaredd flwyddyn:

The majority of teaching during the fourth and fifth years of the programme is in the form of clinical rotations, where you will work in small groups in a variety of clinical environments.  

  • Lymphoreticular and haemopoietic
  • Urogenital: renal
  • Endocrine
  • Population medicine and veterinary public health
  • Rotation preparation
  • Intramural clinical rotations.

Ybumed flwyddyn:

  • Professional studies
  • Intramural clinical rotations.

Cyflogadwyedd

Mae Coleg Brenhinol y Milfeddygon yn sicrhau ansawdd graddau milfeddygaeth y Deyrnas Gyfunol (DG) er mwyn gwneud yn sicr bod llawfeddygon milfeddygol yn gymwys i’r gwaith wrth raddio, ac yn ymuno â Chofrestr y Coleg (RCVS).

Dim ond unigolion sydd wedi’u cofrestru gyda’r Coleg sydd â’r hawl i’w galw eu hunain yn llawfeddygon milfeddygol a, gyda rhai eithriadau, i weithio mewn llawfeddygaeth filfeddygol yn y DG. Mae’r Coleg Milfeddygaeth, Prifysgol Aberystwyth a Choleg y Milfeddygon yn cydweithio’n agos i sicrhau bod y cwrs BVSc yn cwrdd â’r safonau angenrheidiol, fel y gall Coleg y Milfeddygon roi achrediad cyflawn iddo yn 2026 pryd y bydd y myfyrwyr cyntaf yn graddio.

Mae graddedigion yn datblygu gwybodaeth wyddonol ddofn y gellir ei chymhwyso i nifer o lwybrau gyrfa, gan gynnwys milfeddygfeydd clinigol cymysg, milfeddygfeydd ceffylau, milfeddygfeydd fferm/da byw, ymchwil filfeddygol, iechyd cyhoeddus a pholisi milfeddygol, y diwydiant fferyllol, diogelwch bwyd a diogelu meddyginiaethau. Yn ogystal â hyn, ar ôl hyfforddi yn rhannol yng Nghymru trwy gydol y cwrs gradd, bydd graddedigion yn hynod addas i barhau â’u gyrfa mewn milfeddygfeydd a sefydliadau a chyda cyflogwyr milfeddygol eraill yng Nghymru.

Cynnig nodweddiadol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cynnwys y cwrs a'r addysgu cysylltwch â Phrifysgol Aberystwyth ar vetssat@aber.ac.uk. Rhaid i'r holl geisiadau gael eu gwneud i'r CMB a bydd adran derbyn myfyrwyr y CMB yn ymdrin â hwy.

Mae'r gofynion academaidd safonol i gael mynediad i'r rhaglen BVSc wedi'u hamlinellu isod.

Safon Uwch

AAA mewn tri phwnc Safon Uwch:

  • Gradd A mewn Bioleg
  • Gradd A mewn Cemeg
  • Trydydd pwnc o ddewis yr ymgeisydd. Ni ddylai'r trydydd pwnc fod yn un sy'n gorgyffwrdd â Bioleg na Chemeg.
  • Cynigion Cyd-destunol ar gael

Mae hefyd yn ofyniad i'r ymgeisydd 'basio' yr elfen wyddoniaeth ymarferol ym mhob pwnc, wrth astudio'r cwricwlwm yn Lloegr.

Cynigion Cyd-destunol

Rhoddir cynigion o ABB (yn cynnwys A mewn Bioleg neu Gemeg) i ymgeiswyr sy'n cyflawni rhai meini prawf Ehangu Cyfranogiad . Nid oes angen gwneud cais ar wahân ond bydd angen i ymgeiswyr sy'n gadael gofal gyflwyno prawf gan yr awdurdod lleol perthnasol ar ôl iddynt wneud cais.

Rydym yn cefnogi'r cyfle i astudio pynciau ychwanegol ar lefel Safon Uwch Gyfrannol, ond nid ydym yn rhagnodi nac yn ffafrio unrhyw ddewisiadau neu gyfuniadau pwnc yn benodol.

  • Nid yw graddau A* yn ofynnol ac ni fydd graddau rhagweld o A* yn rhoi mantais yn ystod y broses ddewis/gwneud cynigion dros ymgeiswyr sydd wedi cael graddau rhagweld o A.
  • Nid oes trydydd pwnc a ffafrir gan ddetholwyr neu sy'n rhoi unrhyw fantais ychwanegol yn ystod y broses ddethol. Mae pynciau Gwyddoniaeth a phynciau nad ydynt yn bynciau Gwyddoniaeth yn cael eu trin yr un fath fel trydydd pwnc.
  • Mae cyfyngiadau'n berthnasol ar gyfer ail-sefyll i'r holl gymwysterau - gweler y tab 'Cwestiynau Cyffredin'.

Gweler gofynion TGAU ychwanegol isod.

Bagloriaeth Cymru

Bydd ymgeiswyr sy'n cael gradd A yn y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael eu derbyn gyda dau bwnc Safon Uwch:

  • Gradd A mewn Bioleg
  • Gradd A mewn Cemeg

Gweler hefyd y nodiadau o dan y tab 'Safon Uwch' uchod.

Cynigion Cyd-destunol

Rhoddir cynigion o ABB (yn cynnwys A mewn Bioleg neu Gemeg) i ymgeiswyr sy'n bodloni meini prawf Ehangu Cyfranogiad penodol (ceir rhagor o wybodaeth yn fuan). Nid oes angen gwneud cais ar wahân ond bydd angen i ymgeiswyr sy'n gadael gofal gyflwyno prawf gan yr awdurdod lleol perthnasol ar ôl iddynt wneud cais.

Graddau Uwch/Graddau Uwch Datblygedig yr Alban

Graddau Uwch Datblygedig gyda graddau AA mewn:

  • Bioleg
  • Cemeg

Yn ogystal â 5 Gradd Uwch gyda graddau AAAAB gan gynnwys:

  • Bioleg
  • Cemeg

ac o leiaf gradd B yn y 5* Cenedlaethol:

  • Ffiseg
  • Saesneg
  • Mathemateg

* Os ydych chi wedi hepgor un neu fwy o'r pynciau hyn yn y 5 Cenedlaethol, bydd arnoch angen y pwnc/gradd hwn ar lefel Graddau Uwch.

Cynigion Cyd-destunol

Rhoddir cynigion o AB mewn Bioleg a Chemeg i ymgeiswyr sy'n bodloni meini prawf Ehangu Cyfranogiad penodol.  Nid oes angen gwneud cais ar wahân ond bydd angen i ymgeiswyr sy'n gadael gofal gyflwyno prawf gan yr awdurdod lleol perthnasol ar ôl iddynt wneud cais.

Tystysgrif Gadael Gwyddelig

H1, H1, H2, H2, H2, H2 gan gynnwys Bioleg a Chemeg. Mae'n rhaid cael H1 yn un o'r gwyddorau hyn.

Mae'n rhaid cael isafswm o O3 mewn:

  • Ffiseg*
  • Saesneg
  • Mathemateg

* os nad yw Ffiseg ar gael ar lefel Tystysgrif Gadael, byddwn yn ystyried gradd uchel yn y Dystysgrif Wyddoniaeth Gynradd.

Bagloriaeth Ryngwladol

666 ar Lefel Uwch gan gynnwys:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Trydydd pwnc o ddewis yr ymgeisydd.

Mae ein cynnig safonol yn seiliedig ar ofynion gradd-pwnc penodol, yn hytrach na sgôr cyfanswm o bwyntiau. Gall y '6' fod mewn unrhyw un o'r pynciau Lefel Uwch.

Nid oes trydydd pwnc a ffafrir neu sy'n rhoi unrhyw fantais ychwanegol yn ystod y broses ddethol.

Gweler gofynion TGAU ychwanegol isod.

Os nad yw'r ymgeiswyr wedi astudio TGAU neu gymhwyster cyfwerth cyn Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol, bydd arnynt angen gradd 5 o leiaf mewn:

  • Mathemateg LS: Dadansoddi a dulliau
  • Saesneg LS A (neu radd 6 mewn Saesneg B)

ac mae'n rhaid iddynt ddangos gallu mewn Ffiseg (e.e. gradd 6+ mewn Gwyddoniaeth RhBC).

Ni ellir derbyn Mathemateg: cymwysiadau a dehongli yn lle Mathemateg: dadansoddi a dulliau.

Diplomâu a Thystysgrifau Pellach (gan gynnwys Diploma Mynediad a Diploma Estynedig Lefel 3)

Caiff yr holl gymwysterau isod eu hystyried ar ben gofynion Lefel 2 presennol (e.e. TGAU, 5 Cenedlaethol, Lefel O, ac ati). Os nad ydych chi'n siŵr bod gennych chi gymwysterau cyfwerth, cysylltwch â ni ar admissions@rvc.ac.uk

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Cymru a Lloegr)

Mae'n rhaid i ddiplomâu fod ym maes Gwyddoniaeth ac yn cynnwys o leiaf 15 o gredydau Lefel 3 mewn Bioleg gyda Rhagoriaeth a 15 o gredydau Lefel 3 mewn Cemeg gyda Rhagoriaeth. Mae'n rhaid i chi gael o leiaf Teilyngdod yn yr holl gredydau Lefel 3 graddedig eraill.

Gweler gwefan Mynediad i Addysg Uwch i chwilio am gyrsiau posibl yn eich adran. Nid ydym yn derbyn fersiynau ar-lein o'r cwrs.

Tystysgrif Addysg Uwch o Goleg Birkbeck mewn Gwyddorau Bywyd ar gyfer Pynciau sy'n Perthyn i Feddygaeth.

Mae'n rhaid cael Rhagoriaeth yn y modiwlau Cemeg a Bioleg.

Edrychwch ar wefan Birkbeck i gael rhagor o fanylion.

Diploma Estynedig Lefel 3

Pynciau Cymhwysol Cyffredinol

Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 Pearson mewn Gwyddor Gymhwysol / Gwyddor Gymhwysol (Gwyddor Fiofeddygol) : D*D*D* ar gyfartaledd gyda Rhagoriaethau mewn:

  •  Principles and Applications of Science I (90)
  •  Principles and Applications of Science II (120)
  •  Science Investigation Skills neu Contemporary Issues in Science (120)
  • Dau o blith: Applications of Organic Chemistry; Applications of Inorganic Chemistry; Practical Chemical Analysis (120)

Yn ogystal:

Ar gyfer Gwyddor Gymhwysol: dylid astudio o leiaf tair uned o blith Grŵp A a chael Rhagoriaeth.

Ar gyfer Gwyddor Gymhwysol (Gwyddor Fiofeddygol): dylid astudio o leiaf pedair uned o Grŵp A a chael Rhagoriaeth mewn tair ohonynt.

Lefelau Technegol

City & Guilds: Diploma Estynedig Technegol Uwch mewn (Gwyddor) Rheoli Anifeiliaid : D*D*D* ar gyfartaledd gyda Rhagoriaethau mewn:

  • Biological Systems of Animals
  • Synoptic Assessment (1)
  • Synoptic Assessment (2)
  • Theory Exam (2)
  • Undertake Investigative Project in the Land-Based Industries

Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 Pearson mewn Rheoli Anifeiliaid (1080)** : D*D*D* ar gyfartaledd gyda Rhagoriaethau mewn:

  •  Animal Biology (120)
  •  Animal Breeding and Genetics (120)
  •  Animal Welfare and Ethics (120)
  •  Practical Skills in Animal Science (60)
  •  Animal Metabolism (60)
  •  Advanced Animal Nutrition (60)
  •  Investigative Research Project (60)

Diploma Estynedig Lefel 3 (maes llafur anniwygiedig)

Gwyddor Gymhwysol Pearson (maes llafur 2010) QCF

D*D*D* ar gyfartaledd gyda Rhagoriaethau yn yr holl unedau canlynol:

  • Genetics and Genetic Engineering
  • Physiology of Human Body Systems A/NEU Physiology of Human Regulation and Reproduction
  • Biochemistry and Biochemical Techniques A/NEU Chemistry for Biology Technicians
  • Biomedical Science Techniques A/NEU Chemical Laboratory Techniques
  • Using Statistics in Science A/NEU Informatics in Science

Rheoli Anifeiliaid Pearson (maes llafur 2010) QCF

D*D*D* ar gyfartaledd gyda Rhagoriaethau yn yr holl unedau canlynol:

  • Understand the Principles of Animal Nutrition
  • Understand the Principles and Carry Out the Practice of Biochemistry and Microbiology 
  • Understand the Principles of Inheritance and Genetic Manipulation 
  • Fundamentals of Science 
  • Chemistry for Biology Technicians NEU Understand the Principles of Chemistry for Biological and Medical Science

Cambridge Pre-U

Rhagoriaethau (D3 neu uwch) mewn tri Phrif Bwnc:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Trydydd pwnc o ddewis yr ymgeisydd

Nid oes trydydd pwnc a ffafrir gan ddetholwyr neu sy'n rhoi unrhyw fantais ychwanegol yn ystod y broses ddethol. Mae pynciau Gwyddoniaeth a phynciau nad ydynt yn bynciau Gwyddoniaeth yn cael eu trin yr un fath fel trydydd pwnc.

Croesewir ceisiadau gan y rhai hynny sy'n bodloni ein gofynion gwyddoniaeth ac sy'n astudio cyfuniad o bynciau Safon Uwch a Cambridge Pre-U. Gwneir cynigion ar sail unigol, yn amodol ar y cyfuniadau.

TGAU (dim ond yn ychwanegol at gymwysterau eraill)

O leiaf pum gradd A (7) TGAU gan gynnwys:

  • AA mewn Gwyddoniaeth (Dyfarniad Dwbl) / 7-7 mewn Gwyddoniaeth Gyfun neu Bioleg a Chemeg neu Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth Ychwanegol.

gydag o leiaf gradd 6 (B) mewn:

  • Cymraeg (iaith) neu Saesneg (iaith), gydag o leiaf gradd 4 (C) yn yr ail iaith os astudiwyd y ddwy
  • Mathemateg
  • Ffiseg (os astudiwyd fel TGAU ar wahân)

I gael rhagor o wybodaeth am ein polisi ynghylch cymwysterau diwygiedig yn y DU, cliciwch yma.

Ymgeiswyr o Gymru

Noder, ni dderbynnir TGAU Mathemateg-Rhifedd yn lle TGAU Mathemateg ond fe'i croesewir ochr yn ochr ag ef, ac yn rhan o Fagloriaeth Cymru.

Ni fydd ceisiadau gan fyfyrwyr sydd ar raglen radd ar hyn o bryd yn cael eu hystyried oni bai eu bod yn eu blwyddyn olaf.

Graddedigion sydd â graddau cysylltiedig

Os oes gennych radd Baglor (Anrh) mewn disgyblaeth gwyddorau biolegol berthnasol, sy'n cyfateb i 2:2, neu Faglor heb anrhydedd yn 2:1 neu uwch (e.e. 3-blwyddyn o Awstralia, De Affrica), gallwch gael eich ystyried ar gyfer y rhaglen BVSc (D105). Bydd angen i ymgeiswyr fod yn barod i ddarparu trawsgrifiadau/tystysgrifau lefel ysgol uwchradd oherwydd gellir defnyddio'r rhain ar y cyd â'u gradd i asesu hyfywedd ymgeisydd.

Os oes gennych radd Baglor (Anrh) mewn disgyblaeth berthnasol yn y gwyddorau biolegol, sy'n cyfateb i 2:1, gallwch wneud cais yn uniongyrchol i raglen BVetMed Cyflymedig Graddedig (D102) yr RVC. Mae croeso i chi wneud cais i'r BVSc (D105) yn lle/hefyd ond rhaid bod yn barod i ariannu, ac astudio ar, y rhaglen 5 mlynedd; nid oes trosglwyddiad i D102 ar gael ar ôl y cais.

Os ydych yn astudio ar gyfer gradd Meistr ar hyn o bryd byddwn ond yn ystyried eich cais am fynediad gohiriedig, gan fod derbyn canlyniadau Meistr a phrawf o gwblhau’r radd yn rhy hwyr i gofrestru ar gwrs newydd yn yr un flwyddyn galendr â’r radd Meistr. gradd yn cael ei chwblhau.

Graddedigion â graddau nad ydynt yn gysylltiedig

Bydd angen i ymgeiswyr sydd â gradd o ddisgyblaeth nad yw'n gysylltiedig fodloni'r gofynion mynediad academaidd safonol a nodir uchod (yn ogystal â phrofiad gwaith).

Cyllid i raddedigion

Dylai ymgeiswyr graddedig sy'n gymwys i gael benthyciad gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr (SFE) fod yn ymwybodol bod cymorth ariannol yn wahanol i ymgeiswyr sy'n cymryd BVSc fel ail radd. Mae arweiniad i'w weld yma. Rydym yn argymell cysylltu â SFE yn uniongyrchol gydag unrhyw ymholiadau pellach.

Trosglwyddo i BVSc

Nid yw'n bosibl trosglwyddo i'r cwrs BVSc o raglen radd a gwblhawyd yn rhannol mewn prifysgol arall, ac ni allwn ychwaith ddefnyddio cymwysterau rhannol tuag at fynediad.

Milfeddygon â chymwysterau rhyngwladol

Nid yw ymgeiswyr rhyngwladol sydd eisoes â gradd mewn Meddygaeth Filfeddygol ac sy'n ceisio ymarfer yn y DU yn gymwys i wneud cais am y cwrs hwn a dylent gyfeirio at adran gofrestru'r RCVS.

Profiad Gwaith

Profiad gwaith i'r rheini sy'n gwneud cais ym mis Medi/Hydref ar gyfer mynediad 2023 yn unig

Rydym yn gwerthfawrogi, oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus, y gallai rhai ymgeiswyr sy’n bwriadu gwneud cais ym mis Medi/Hydref 2022 efallai wedi cael anawsterau o ran cael y lefel o brofiad gwaith sydd angen arnom fel arfer cyn gwneud cais. Felly, ar gyfer y rhai sy’n gwneud cais yng nghylchred ymgeisio 2022/23 yn unig, bydd yr egwyddorion canlynol yn berthnasol:

Cyn gwneud cais, rhaid i bob ymgeisydd fod wedi cwblhau'r profiad gwaith canlynol:

  • Cyfanswm o 35 awr o brofiad gwaith (cyflogedig neu wirfoddol) mewn un neu fwy o fractisau milfeddygol
  • Cyfanswm o 70 awr mewn un neu fwy o amgylcheddau gwaith anghlinigol gydag anifeiliaid byw (gan eithrio amgylchedd cartrefol/busnes teuluol/perchnogaeth anifeiliaid anwes)

Erbyn 31 Gorffennaf 2023, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd fod wedi bodloni'r gofynion canlynol:

  • Cyfanswm o 70 awr (e.e. 10 diwrnod llawn) o brofiad gwaith (cyflogedig neu wirfoddol) mewn un neu fwy o fractisau milfeddygol
  • Cyfanswm o 70 awr mewn un neu fwy o amgylcheddau gwaith anghlinigol gydag anifeiliaid byw (gan eithrio amgylchedd cartrefol/busnes teuluol/perchnogaeth anifeiliaid anwes)

Rhaid i'r profiad gwaith uchod fod wedi'i gwblhau ers mis Ebrill 2021 (18 mis cyn y dyddiad cau).

Lle bo ymgeisydd wedi cwblhau llai na’r 70 awr o brofiad clinigol ar adeg gwneud y cais, bydd yn amod o unrhyw gynnig o le i fod wedi cyflawni’r 70 awr lawn erbyn y dyddiad cau, sef 31 Gorffennaf 2023. Ni fydd ymgeiswyr sydd â llai na 35 awr o brofiad gwaith clinigol a 70 awr o brofiad gwaith anghlinigol ar adeg gwneud cais yn cael eu hystyried.

Pa gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr

Pa gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr?

 

Rhwydweithiau cymorth allanol eraill sydd ar gael i fyfyrwyr milfeddygol:

VetLife – cymorth i’r gymuned filfeddygol (www.vetlife.org.uk)

AVS – Cymdeithas y Myfyrwyr Milfeddygol (www.avsukireland.co.uk)

Menter Mind Matters (www.vetmindmatters.org)

A oes bwrsariaethau ar gael?

A oes bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr milfeddygol?

Gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am y bwrsariaethau hynny sydd ar gael yn:

Veterinary Science (BVSc)  : Study With Us , Aberystwyth University

Cyfarpar diogelu personol

Bydd disgwyl i’r holl fyfyrwyr milfeddygol ddarparu cyfarpar diogelu personol penodol i’w ddefnyddio yn ystod gwaith ymarferol.

Isod ceir rhestr o eitemau sydd eu hangen ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Awgrymwn gyllideb o £150-200. 

Os nad ydych chi’n siŵr ble y dylech chi brynu’r cyfarpar, rydym ni’n awgrymu eich bod yn archebu’n uniongyrchol o Monmark, cyflenwr dillad sy’n stocio’r eitemau angenrheidiol. Nid oes gan Brifysgol Aberystwyth berthynas fasnachol gyda Monmark, ac nid yw’n elwa’n ariannol o’u defnyddio. Awgrymwn ddefnyddio Monmark am eu bod yn gyfarwydd â darparu cyfarpar i fyfyrwyr milfeddygol mewn ysgolion eraill yn y DU. Byddwn yn cysylltu â chi cyn dyddiad cychwyn eich cwrs gyda manylion a ffurflenni archebu ar gyfer yr eitemau hyn.

Gofynnol:

Dwy got labordy arddull Howie, gwyn.

Bydd angen dwy got labordy arnoch chi. Caiff un ei defnyddio yn yr ystafell ddyrannu a gall fynd yn frwnt a chael staeniau arni. Mae angen y llall ar gyfer sesiynau labordy ymarferol ‘glân’.

Top sgrwb, glas golau.

Ar gyfer trin anifeiliaid bach a sesiynau ymarferol yn yr ardal sgiliau clinigol.

Siwt foeler lwyd, wedi’i brodio â logo Ysgol Gwyddor Filfeddygol PA.

Ar gyfer sesiynau ymarferol anifeiliaid mawr a lleoliadau EMS. Os ydych chi’n archebu o Monmark yn uniongyrchol, mae’r brodio wedi’i gynnwys yn y pris. Os ydych chi’n archebu o rywle arall ac yn trefnu’r brodio. 

Top parlwr llewys byr gwrth-ddŵr.

Ar gyfer sesiynau ymarferol anifeiliaid mawr a lleoliadau EMS.

Trowsus gwrth-ddŵr.

Ar gyfer sesiynau ymarferol anifeiliaid mawr a lleoliadau EMS.

Esgidiau glaw, du neu liw tywyll addas, gyda blaenau esgid dur.

Ar gyfer sesiynau ymarferol anifeiliaid mawr a lleoliadau EMS.

Sbectol diogelwch

Ar gyfer sesiynau labordy ymarferol a dosbarthiadau dyrannu.

Dewisol:

Siwt foeler lwyd ychwanegol.

Gall fod yn ddefnyddiol cael siwt foeler ychwanegol, os yw’n mynd yn frwnt iawn a chithau heb gyfle i’w golchi.

Esgidiau ystafell ddyrannu, gwyn.

Bydd amrywiol esgidiau ar gael ond os ydych yn dymuno cael eich pâr eich hun heb orfod rhannu, gallwch eu prynu. Nodwch at ddibenion iechyd a diogelwch, y dylai’r rhain aros yn y Ganolfan Addysg Filfeddygol, ac NI DDYLID eu gwisgo y tu allan, ar ffermydd ac ati.

Esgidiau cryf (e.e. esgidiau cerdded)

Mae’r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer lleoliadau gyda cheffylau.