Ein Ymchwil

Pengwiniaid Affricanaidd yn Namibia: awgrym o garwriaeth ©JKemper

Mae gwaith ymchwil sy'n cynnwys academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn astudio’r modd y mae afiechyd a llygredd yn cyfrannu at ddirywiad ym mhoblogaeth pengwiniaid Affrica, rhywogaeth a allai ddiflannu’n llwyr o fewn y 30-80 mlynedd nesaf.  Yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth yr Ysgol Filfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yw un o sylfaenwyr Prosiect 'Iechyd Pengwiniaid Affrica'.

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, amcangyfrifwyd bod poblogaeth o dros dair miliwn o’r rhywogaeth hon o bengwiniaid. Fodd bynnag, mae’r boblogaeth wedi cwympo’n sylweddol oherwydd gor-gasglu wyau  a guano, ac, yn fwy diweddar, diffyg pysgod o ganlyniad i bysgota diwydiannol a newidiadau amgylchiadau.

Erbyn 2009, 26,000 yn unig o barau bridio oedd, ac, o ganlyniad, dynodwyd yr adar fel rhai dan fygythiad gan yr Undeb Rhyngwladol dros Warchod Natur (IUCN).  Erbyn heddiw, llai na 20,000 o barau sydd - llai na 3% y niferoedd a fu 100 mlynedd yn ôl.

Er bod y bygythiadau allweddol iddynt yn hysbys, a gwnaed ymdrechion lu gan y llywodraeth ac asiantaethau preifat i fynd i’r afael â nhw, ni wyddys lawer am y bygythiadau iechyd ac afiechydon i’r rhywogaeth.

Mae grŵp o bartneriaid rhyngwladol, o’r enw ‘Iechyd Pengwiniaid Affrica’, yn cynnal ymchwil mewn pum maes mewn ymdrech i ddarganfod achosion iechyd cwymp y boblogaeth.

Mae’r gwaith yn cynnwys cynnal arolwg iechyd o’r pengwiniaid drwy archwilio adar gwyllt, cymryd ystod o samplau er mwyn eu dadansoddi, chwilio am gemegau gwenwynig mewn adar sydd wedi marw, monitro arfordiroedd a chytref gan ddefnyddio gwyddoniaeth dinasyddion a dronau, asesiadau rhanddeiliaid a modelu newid yn y boblogaeth.

Trwy ddeall risgiau afiechydon, y gobaith yw y gellir achub pengwiniaid Affrica rhag difodiant.