Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (CCIM)
- Hyfforddiant CCIM, gellir archebu drwy'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu: https://stafftraining.aber.ac.uk/sd/list_courses.php
Wedi'i drwyddedu ar gyfer Cymru ac yn seiliedig ar ganllawiau CCIM rhyngwladol, caiff y cwrs hwn ei gyflwyno o bell gan ymarferydd Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr. Bydd cwrs CCIM (Cymru) yn dysgu staff sut i gynorthwyo unigolion sy'n datblygu problem iechyd meddwl, sydd â phroblemau iechyd meddwl sy'n gwaethygu neu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl.
Datblygu problemau iechyd meddwl:
- Iselder
- Problemau gorbryder
- Anhwylderau bwyta
- Seicosis
- Problemau defnyddio sylweddau
Argyfwng iechyd meddwl
- Meddyliau ac ymddygiadau hunanddinistriol
- Hunan-anafu nad yw'n hunanddinistriol
- Pyliau o banig
- Digwyddiadau trawmatig
- Cyflyrau seicotig difrifol
- Effeithiau difrifol oherwydd alcohol neu gyffur arall
- Ymddygiadau ymosodol
Anogir aelodau’r staff i archebu lle ar y cwrs cyn gynted ag y bo modd, ac o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad cychwyn y cwrs. Mae angen y 28 diwrnod hyn gan y bydd angen ichi fod wedi eich cofrestru â Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru). Bydd y tîm lles yn gwneud hyn er mwyn ichi allu cael y deunyddiau hyfforddi.
Ar ôl ichi gofrestru, anfonir modiwlau hyfforddi atoch. Bydd angen ichi gwblhau’r rhain dros gyfnod o bythefnos. Bydd angen oddeutu 3 awr arnoch yn ystod y pythefnos i gwblhau’r modiwlau hyn. Cwrs deuddydd fydd hwn, a bydd yn para 3 awr y dydd. Yn un o’r modiwlau, bydd angen ichi gwblhau tasg rhwng y diwrnod hyfforddi cyntaf a’r ail ddiwrnod. Dylai hon gymryd oddeutu 2 awr ichi ei chwblhau. Pan fyddwch chi wedi cymhwyso fel swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl, bydd angen ichi gymryd rhan mewn sesiynau rheolaidd er mwyn ichi gael arweiniad a chefnogaeth. Cynhelir y sesiynau hyn at ddibenion llywodraethiant hefyd.
Amserlen enghreifftiol
- 28 diwrnod cyn yr hyfforddiant: Rydych wedi eich cofrestru. Bydd y staff lles yn eich cofrestru gyda Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru). Byddant hefyd yn cofrestru’r cyllid â’r Brifysgol.
- 14 diwrnod cyn yr hyfforddiant: Bydd Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn anfon dolen i’r modiwlau atoch. Bydd angen ichi gwblhau’r modiwlau hyn yn ystod y pythefnos cyn y diwrnod hyfforddi. Os na fyddwch yn eu cwblhau, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn y diwrnod hyfforddi. Bydd angen hyd at 3 awr arnoch i gwblhau’r modiwlau hyn.
- Diwrnod 1 yr hyfforddiant: Anfonir gwahoddiad Microsoft Teams atoch i ymuno â sesiwn 3 awr ei hyd gyda’n hymarferwyr.
- Ar ôl y sesiwn, anfonir modiwlau atoch i’w cwblhau cyn y sesiwn nesaf. Dylai gymryd hyd at 2 awr ichi gwblhau’r modiwlau hyn.
- Diwrnod 2 yr hyfforddiant: Anfonir gwahoddiad Microsoft Teams atoch i ymuno ag ail sesiwn 3 awr ei hyd. Bydd angen ichi basio’r ddau fodiwl, a bydd angen ichi fod wedi bod yn bresennol yn y ddau ddiwrnod hyfforddi er mwyn ichi fod yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl ardystiedig.
- Ar ôl Diwrnod 2, ac ar ôl ichi basio’r modiwlau, byddwch yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl ardystiedig.