Adnoddau Lles

Adnoddau'r Prifysgol

Ochry yn ochr yr opsiynau mynediad prif y Gwasanaeth Lles, mae’r Prifysgol yn darparu mynediad ychwanegol ar-lein.

Gwasanaeth Cymorth UM Aber

Mae’r gwasanaeth cymorth UM Aber yn offro cymorth â materion iechyd a lles yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â sut i greu cysylltiadau drwy weithgaredd ystyrlon â phobl o'r un anian.

https://www.umaber.co.uk/cyngor/iechydallesiant/

Adrodd a Chymorth

Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni fel unigolion i sicrhau bod urddas a pharch tuag at bawb yn cael ei gynnal - Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi neu eraill yn cael eich trin gydag urddas a pharch, efallai yr hoffech chi roi gwybod inni am y mater ar-lein.

https://adroddachymorth.aber.ac.uk//

Adnoddau Trefn Ddyddiol

Gall cynllunio ein trefn ddyddiol fod yn hynod o ddefnyddiol am sawl rheswm. Gall ein cynorthwyo i gyflawni’r hyn y mae arnom eisiau ei wneud a’r hyn y mae’n rhaid inni ei wneud! Yn aml, pan fydd pethau’n newid, gall fod yn anodd dychwelyd at ein trefn ddyddiol. Er enghraifft, yn achos dysgu cyfunol pan fo angen strwythurau dysgu o bell, neu os bydd rhywbeth brys yn codi ac yn effeithio ar ein trefn ddyddiol.

Mae’r dolenni isod yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn y dylech ei ystyried wrth ddechrau cynllunio eich dyddiau, a’r gwahanol fathau o weithgareddau sy’n ein cefnogi ni fel pobl, megis gweithgareddau sy’n dod ag ymdeimlad o Gyflawni, Cyswllt ag eraill ac/neu Fwynhad.

Gall llawer o weithgareddau gynnig y 3 pheth hyn ynghyd, tra bydd eraill yn cynnig dim ond un ohonynt. Rydym hefyd wedi cynnwys cynllunydd er mwyn eich cynorthwyo â’ch cynlluniau.  

Os ydych yn teimlo yr hoffech siarad ag aelod o’n tîm ynghylch eich trefn ddyddiol, cysylltwch â’n gwasanaeth.  

Cyflawni, Cysylltu, Mwynhau (Saesneg unig): Achieve, Connect, Enjoy (PDF)

Dyddiadur Gweithgareddau (Saesneg unig): Activity Diary (PDF)

Ein Phartneriaid Lles

Mae’r Prifysgol wedi partneru ag amryw gwasanaethau ar-lein i arlwyo cwnsela tymor byr, mynediad cyfoedion, ac adnoddau lles ansawdd uchel ar-lein i bob fyfyriwr.

Myf.cymru

Beth yw myf.cymru?

Nod myf.cymru yw gwella mynediad i adnoddau a chefnogaeth iechyd meddwl a lles i fyfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Beth sydd ar gael?

Mae modd cael mynediad at wybodaeth am hunan ofal, cyflyrau iechyd meddwl, clywed am brofiadau myfyrwyr eraill a lawer mwy mewn nifer o ffyrdd: 

Gwefan - myf.cymru - ar y wefan, ceir cynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hefyd adnoddau am iechyd meddwl sydd wedi'u hadolygu gan therapyddion Cymraeg eu hiaith. Mae’r adran Iechyd Meddwl A-Y yn darparu gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl; ac o fewn adran Hwb Myf mae cynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr ar ystod eang o faterion sy’n effeithio eu hiechyd meddwl a lles. 

Ap - mae myf.cymru wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r rhaglen Symud Ymlaen / Moving On In My Recovery© i gyfieithu eu ap i'r Gymraeg. Yn llawn adnoddau defnyddiol ac ymarferol i'ch cefnogi ar eich taith adferiad, a bydd o gymorth i unrhyw un lywio heriau bywyd o ddydd i ddydd. Ar gael ar Google Play:  https://bit.ly/3GRMxVt a Apple App Store: https://apple.co/3wl6dvT

Podlediad Sgwrs? - mae nifer o fyfyrwyr yn trin a thrafod y materion o bwys sy’n ymwneud a’u hiechyd meddwl a lles yng nghwmni’r cyflwynydd radio a theledu Trystan Ellis-Morris ar cwnselydd Endaf Evans. Mae’r penodau i gyd ar gael ar YouTube:  https://bit.ly/3wjHTKQ ac a’r prif blatfformau ffrydio.

Cyfryngau Cymdeithasol - am y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook, Instagram a TikTok @myf.cymru

 

Oes modd i mi gyfrannu neu gymryd rhan?

Awydd cyfrannu at y drafodaeth?  Rydym o hyd yn chwilio am gynnwys newydd sbon gan fyfyrwyr boed ar gyfer ein sianelau cyfryngau cymdeithasol, y wefan, cymryd rhan mewn fideos a phodlediadau.  Mi allwch hefyd ysgrifennu erthyglau a blogiau, creu barddoniaeth neu gelf wreiddiol.  I wybod mwy, e-bostiwch myf.cymru@bangor.ac.uk.

Togetherall

Mae Big White Wall wedi newid eu henw yn ddiweddar i Togetherall ond maent yn cynnig yr un gwasanaeth i Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Os ydych chi wedi agor cyfrif gyda Big White Wall, mae'n dal yn bosib ichi fewngofnodi â'r un manylion.

P'un a ydych chi'n ei chael hi'n anodd cysgu, yn poeni am gyfeillgarwch, gorbryder, hwyliau isel ac iselder, gall Togetherall helpu.

Mae Togetherall yn wasanaeth cyfrinachol sydd ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae'n wasanaeth a reolir yn glinigol ac fe'i cefnogir gan gymuned o gyfoedion sy'n cynnig help a chyngor amrywiol.

  • Cewch sgwrsio â chyfoedion yn ddienw
  • Cewch gwblhau asesiadau ar gyfer amrywiaeth o broblemau megis gorbryder neu iselder
  • Cewch wybodaeth a sgiliau drwy'r amrywiaeth o gyrsiau hunangymorth sydd ar gael:
    • Cysgu'n Well
    • Rhoi'r gorau i smygu
    • Hyfforddiant pendantrwydd
    • Rhoi'r Gorau i Oedi
    • Cadw cydbwysedd yn feddyliol
    • Rheoli Dicter
    • Rheoli straen a phryder
    • Rheoli iselder a hwyliau isel.

Adnoddau Eraill

Isod mae casgliad o adnoddau eraill ar-lein sy’n efallai defnyddiol.

Cwrs Bywyd ACTif

Ydych chi eisiau dysgu am eich meddwl, a’r sgiliau i’ch helpu i reoli meddyliau a theimladau anodd?  Gallai’r cwrs am ddim ar-lein gan yr athro seicoleg Neil Frude, ‘Bywyd Actif’, sydd ar gael trwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, eich helpu.

Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng 4 fideo tua 40 munud o hyd.  

  • Act 1: Nid chi yw eich meddwl
  • Act 2: Wynebu eich bywyd
  • Act 3: Bod yn ystyriol
  • Act 4: Byw’n ddoeth, byw’n dda

Eirolaeth Gorllewin Cymru

Mae Eirolaeth Gorllewin Cymru’n offro Eiriolaeth Iechyd Meddwl yng Ngheredigion. Gall eiriolwr:

  • Eich parchu a gwrando arnoch chi
  • Eich helpu I ddeall eich hawliau
  • Eich helpu I feddwl am eich dewisiadau
  • Eich cynorthwyo I ddod o hyd I wybodaeth
  • Eich helpu I fynegu eich barn mewn penderfyniad a wneir amdanoch chi
  • Eich cynorthwyo mewn cyfarfodydd trwy eich helpu I fynegi eich safbwyntiau
  • Eich helpu I wneud cwynion

Eirolaeth Gorllewin Cymru

Meddyg Ar-lein Boots

Mae'r gwasanaeth Meddyg Ar-lein newydd i fyfyrwyr yn ffordd gyflym a hawdd i fyfyrwyr gael cyngor, meddyginiaethau presgripsiwn yn unig a phecynnau profi cartref heb orfod teithio adref i weld meddyg teulu.

Gwybodaeth ar sut i gyflymu'ch ymholiad

Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned

Mae’r  Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned yn cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol a cefnogaeth os dych chi eisiau siarad am sut rydych chi’n teimlo.  

Gwefan: www.callhelpline.org.uk

Ffoniwch: 0800 132 737

Tecstiwch: help i 81066 (cymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i bobl yng Nghymru)

CRUSE Gwasanaeth Cwnsela Arbenigol Lleol

CRUSE yw sefydliad lleol sy'n arbenigo mewn rhoi cymorth ar ôl profedigaeth.

Ar-lein: https://www.cruse.org.uk/get-support/contact-local-branch/

Llinell Gymorth Gorllewin Cymru: 0800 288 4700

E-bost: westwales@cruse.org.uk

Fideo Russ Harris ar YouTube

Mae Dr Russ Harris yn cynnig amrywiaeth o fideos buddiol sy'n ymwneud â deall y natur ddynol a beth sy'n gweithio'n dda:

The Struggle Switch https://www.youtube.com/watch?v=FE8VLAgWt20

The Happiness Trap – Evolution of the human mind https://www.youtube.com/watch?v=YBaOBJ8zOLE

GCAD

Mae’r Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol yn lleol i Aberystwyth, ac mae e’n rhoi cyngor a chymorth i'r rhai sydd â phroblem gyda sylweddau yn ogystal â chymorth i'r rhai sy'n poeni am ddefnydd rhywun arall o sylweddau.

https://barod.cymru/cy/ble-i-gael-help/gwasanaethau-gorllewin/ddas-dyfed-drug-and-alcohol-service/

25 Rhodfa'r Gogledd
Aberystwyth
SY23 2JN
Ffoniwch: 03303 639997

Mynediad i'r Anabl: Oes

E-bost: confidential@d-das.co.uk

Get Self Help ar-lein

Mae Get Self Help yn cynnig amrywiaeth o daflenni gwaith defnyddiol i'ch helpu i reoli gwahanol gyflyrau. 

https://www.getselfhelp.co.uk/

Cwrs Rheoli Straen ar-lein gan Jim White

Mae Stress Control yn gwrs pedair sesiwn. I bobl sydd eisiau dysgu gwell ffyrdd o ymdopi â'u problemau, megis iselder, gorbryder, panig, diffyg cwsg a hunanhyder isel. Mae'r cyrsiau rheoli straen ar gael nawr ar-lein ac maent yn darparu amrywiaeth o adnoddau megis technegau ymlacio ac ymwybyddiaeth fyfyriol er mwyn helpu i reoli straen, yn ogystal â modiwlau'r cwrs.

Marie Curie

Mae Marie Curie’n cynnig gwybodaeth ymarferol a cymorth emosiynol mewn profedigaeth gan salwch terfynol.

https://www.mariecurie.org.uk/

Mind Aberystwyth

Mae Mind Aberystwyth yn elusen iechyd meddwl, sy'n gweithio ar draws Ceredigion. Maent yn rhoi cefnogaeth ac yn hyrwyddo lles drwy amrywiaeth o grwpiau gweithgaredd, gwasanaethau galw heibio a chymorth un i un â thenantiaeth.

Mae Mind yn darparu gwybodaeth a chymorth ac maent yn datblygu gwasanaethau lleol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan drallod meddyliol, gan gynnwys eu gofalwyr, eu teuluoedd a'u cefnogwyr. Drwy'r ystod eang o wasanaethau gwych y maent yn eu darparu, maent yn ceisio ei gwneud yn bosib i bobl sydd wedi'u heffeithio gan drallod meddyliol gymryd rhan lawn mewn cymdeithas a byw bywydau llawn.

Mae Mind yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau lles drwy'r wythnos a chewch eich atgyfeirio eich hunan fel y gallwch gymryd rhan.

Mae Mind hefyd yn cynnig nifer o wasanaethau ychwanegol:

Gwasanaeth Monitro Gweithredol 

Prosiect Myfyrwyr

Mae ganddynt dîm sydd ar gael i siarad â chi rhwng 9.30am a 4.30pm yn ystod yr wythnos drwy. Ffoniwch:

01970 626225

 

Mae hefyd taflen ymroddgar i'r mynediad myfyrwyr:

Grŵp Facebook

Mind - Therapi Ymddygiad Gwybyddol

Mae Mind yn cynnig Therapi Ymddygiad Gwybyddol am ddim ar-lein yn ogystal â gwybodaeth am y therapi a'r amrywiol ffyrdd y gellir manteisio arno. 

https://www.mind.org.uk/information-support/drugs-and-treatments/cognitive-behavioural-therapy-cbt/cbt-sessions/

Mind over Mood

Gwybodaeth ar-lein ynglŷn â rheoli eich tymer gan yr arbenigwr byd-eang mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol, Christine Padesky.

https://www.mindovermood.com/

Y Symariaid

Llinell gymorth ar gael bob awr o'r wythnos, ddydd a nos.

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost. 

Ar-lein: https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

Llinell Gymraeg: 0300 123 3011

E-bost: jo@samaritans.org

Sefydliad Iechyd y Byd - cyfres o fideos byr ‘I had a black dog, his name was depression’

Cyfres o fideos byr sy'n ddefnyddiol er mwyn deall a rheoli iselder. 

https://www.youtube.com/watch?v=XiCrniLQGYc

Therapi Ar-lein SilverCloud Cymru

Mae SilverCloud Cymru yn wasanaeth Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) Ar-lein sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich iechyd meddwl a'ch lles. Mae CBT yn gweithio drwy eich annog i herio'r ffordd rydych chi'n meddwl ac yn ymddwyn fel eich bod mewn sefyllfa well i ddelio â phroblemau bywyd.

Gwefan SilverCloud GIG Cymru

Student Minds

Mae Student Minds yn rhoi'r grym i fyfyrwyr ac aelodau o gampws y Brifysgol edrych ar ôl eu hiechyd meddwl eu hunain, i gefnogi eraill ac i newid pethau. Eu nod yw trawsnewid iechyd meddwl myfyrwyr er mwyn i bawb sydd mewn addysg uwch gael ffynnu.

https://www.studentminds.org.uk/

Man Myfyrwyr

Yn cynnig gwasanaeth am ddim dros y ffôn a thrwy negeseuon testun, 4y.b. – 11y.h. bob dydd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan Student Space website.

Maen nhw’n offro hefyd grŵp cefnogi ar-lein ar gyfer myfyrwyr ag anawsterau ac anhwylderau bwyta.

Cefnogaeth i fyfyrwyr gydag anawsterau bwyta | Student Space

Sgwrsiwch â Frank ar-lein

Mae Sgwrsiwch â Frank yn cynnig gwybodaeth onest ynglŷn â chyffuriau.

https://www.talktofrank.com/

Ymwybyddiaeth Gwylwyr Cymorth i Fenywod Cymru ar-lein

Gall Cymorth i Fenywod gynnig gwybodaeth ynglŷn â cham-drin domestig sy'n digwydd i ddynion a merched a'r ffordd orau o ymdopi:  https://welshwomensaid.org.uk/cy/

Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni fel unigolion i sicrhau bod urddas a pharch tuag at bawb yn cael ei gynnal.  Mae Menter Ymyrraeth Gwylwyr wedi’i datblygu gan UWE Bryste, yn grymuso cymunedau i ymyrrryd yn rhagweithiol i roi diwedd ar drais a cham-drin. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar Theori Normau Cymdeithasol a’i bwriad yw helpu myfywryr i adnabod sefyllfaoedd problematig, cymryd cyfrifoldeb ac ymyrryd yn ddiogel.

https://training.welshwomensaid.org.uk/cy/courses/the-bystander-intervention/

IAWN Cymru - Gwasanaethau Iechyd Meddwl Sylfaenol GIG lleol

Mae IAWN Cymru’n cynnig gwasanaeth defnyddiol am iechyd meddwl, sut i gael at gwasanaethau o GIG Cymru, a hunan gymorth ar-lein.

https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/iawn/

Cyfeiriadur Iechyd Meddwl Ceredigion gan WWAMH

Mae Gorllewin Cymru Gweithredu dros Iechyd Meddwl wedi casglu cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau lleol ac apiau Iechyd Meddwl defnyddiol.

https://wwamh.org.uk/online-directory-search/#