Amdanom ni

Yma i helpu

Mae Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn deall pwysigrwydd lles er mwyn i fyfyrwyr ffynnu yn ystod eu cyfnod yma ym Mhrifysgol Aberystwyth a thu hwnt. Rydym ni yma i helpu unrhyw fyfyrwyr sy'n pryderu ynglŷn â lles, boed hwnnw'n fater sy'n gysylltiedig â chyfeillgarwch, profedigaeth, pryder neu straen oherwydd llwyth gwaith, mân broblemau iechyd meddwl neu rai difrifol a pharhaol.

Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles Myfyrwyr 2020-2023

Opsiynau cymorth

Ein cyngor ni yw gofyn am help a chyngor ynglŷn â phroblemau lles cyn gynted â phosib. Bydd gweithredu'n gyflym yn rhoi mwy o reolaeth i chi o'r sefyllfa dan reolaeth cyn gynted ag y bo modd, gall eich helpu i wella'n dda a gall helpu i wella'r ffordd y byddwch yn mynd i'r afael â bywyd bob dydd.

Cymorth un i un

Rydym yn cynnig Apwyntiadau Adnoddau gyda’n harbenigwyr lechyd Meddwl neu’n Cwnselwyr, bydd yn para rhwng 30 a 45 munud. Mae hwn yn gyfle i chi siarad am eich anawsterau presennol a bydd yr ymarferydd yn asesu unrhyw angen penodol wrth i chi lunio cynllun gweithredu o atebion posibl gyda'ch gilydd. Bydd y cynllun gweithredu y cytunir arno yn cael ei anfon atoch chi mewn e-bost ar ôl yr apwyntiad.

Mae'n bosib mai mynychu ail apwyntiad gydag ymarferydd fydd un o'r camau y cytunwyd arnynt, er mwyn gweld sut y bydd pethau'n mynd ar ôl i chi gychwyn ar y camau hyn. Neu, mae'n bosib y bydd angen gwasanaeth cwnsela neu gymorth iechyd meddwl arnoch chi, a gallwn eich cyfeirio at y gwasanaeth priodol.

I gael apwyntiad gallwch chi lenwi ein ffurflen gofrestru os ydych chi eisiau rhoi gwybod i ni ynglŷn â'ch trafferthion eich hun. Bydd hyn yn helpu'r ymarferydd i ddysgu mwy am y sefyllfa, ac adnabod os dych chi angen gweld Arbenigwr lechyd Meddwl neu Cynghorwr. Byddwch chi’n gallu wedyn bwcio’r slot priodol. Gellir cynnal pob sesiwn yn bersonol neu ar-lein, yn dibynnu ar eich dewis.

Os gwelwch yn dda llenwch y Ffurflen gofrestru ddiogel ar-lein i drefnu apwyntiad.

Adnoddau ar-lein

Rydym ni’n trefnu ystod o Gyflwyniadau Lles y Myfyrwyr, wedi'u datblygu a'u cyflwyno gan ymarferwyr cymwys i'ch helpu chi i reoli eich sefyllfa. Mae mwy o wybodaeth amdanyn nhw yn ein thaflen Cyflwyniadau Lles y Myfyrwyr.

Mae cymorth a chyngor amrywiol ar gael ar-lein o deunyddiau, dolenni defnyddiol, apiau, a platfformau ar y we i sesiynau hyfforddi sy'n cyd-fynd ag ein gwasanaeth. Mae mwy o wybodaeth amdanyn nhw yn ein thaflen Adnoddau.

Cymorth i fyfyriwr sy’n cael diagnosis o Gyflwr Iechyd Meddwl

Gall unrhyw fyfyriwr sydd â Chyflwr Iechyd Meddwl hirdymor fanteisio ar gyngor gan y Gwasanaeth Hygyrchedd, sy'n rhan o'r gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd. Gallant roi cyngor ar yr amrywiaeth o opsiynau cymorth sydd ar gael er mwyn helpu i ateb anghenion unigol, fel y gallwch gyrraedd eich llawn botensial. I gael rhagor o wybodaeth am lety wedi'i addasu, mynediad i fannau dysgu, offer, meddalwedd a threfniadau arholiadau, gweler tudalennau'r Gwasanaethau Hygyrchedd.

Mae gan Wasanaeth Lles y Myfyrwyr Fentoriaid Iechyd Meddwl Arbenigol sy'n gweithio gyda myfyrwyr sydd â diagnosis o gyflwr iechyd meddwl hirdymor, neu gyflwr newydd, er mwyn eu helpu i gadw ar y trywydd iawn gyda'u hastudiaethau. Caiff y gwasanaeth Mentora Iechyd Meddwl ei ariannu drwy Lwfans Myfyrwyr Anabl. I weld a ydych yn gymwys, mynnwch air â'r tîm Hygyrchedd ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar eu tudalennau gwe:

Tudalennau Hygyrchedd

E-bost: anabledd@aber.ac.uk

Ffôn: 01970 621761 neu 622087

Pryderon ynghylch myfyriwr

Mae ein siartiau wedi eu cynllunio i'ch helpu i benderfynu ar y llwybr cymorth gorau i'w ddilyn. Gall chwilio am help a chyngor ynglŷn â phryderon helpu i sicrhau bod y cymorth iawn ar gael heb oedi.

Siart Llif Iechyd Meddwl

Iechyd Meddwl: Ymateb i Argyfwng

Ffurflen mynegi pryder ar-lein

Gallwch roi gwybod i ni os ydych chi'n pryderu ynglŷn â rhywun arall. Llenwch y ffurflen mynegi pryderon er mwyn rhoi manylion i ni ynglŷn â'r pryderon, a bydd aelod o'r staff yn cysylltu a chi i gynghori ar y ffordd orau o symud ymlaen.

 

Cymorth i Astudio

Weithiau gall cyflwr meddygol dros dro neu dymor hir effeithio ar allu myfyriwr i gymryd rhan lawn yn ei astudiaethau, ac mae'n bosib y gallai effaith hyn ar eraill beri pryder. Bydd canllawiau Cymorth i Astudio yn rhoi arweiniad i chi ar y camau cynnar y mae'n rhaid eu cymryd er mwyn cynorthwyo myfyriwr pan fo pryderon, a llwybrau cyfeirio os oes angen.

Croesawir unrhyw drafodaeth ynglŷn â phryderon ynghylch addasrwydd i fynychu'r brifysgol gan ein Hymarferwyr. Maent yma i'ch helpu chi a'r myfyriwr gyda'r broses hon. Rydym yn annog pobl i ymateb yn brydlon i bryderon cynnar, er mwyn helpu i ddatrys problemau a threfnu'r cymorth mwyaf priodol lle bo hynny'n bosib.

Cysylltu â ni

E-bost: studentwellbeing@aber.ac.uk

Rhif ffôn: 01970 6211761 / 622087

Oriau agor: Mae ein gwasanaethu ar gael yn rhithiol a dros y ffôn rhwng 9 y.b. a 5 y.h. Dydd Llun – Dydd Iau a rhwng 9 y.b. a 4 y.h. ar Ddydd Gwener.

Dilynwch ni ar:

  • Facebook
  • Instagram: @aberstudentservices
  • Twitter: @StuServicesAber