Cyfweld Ysgogiadol
2x ddigwyddiad hyfforddi undydd gyda'r darparwr allanol Sandy Francis MA (Seicoleg), BACP (achrededig) MINT. Gellir archebu drwy'r GDSYA https://stafftraining.aber.ac.uk/sd/list_courses.php
Rhan Un - Cyflwyniad rhagarweiniol i Gyfweld Ysgogiadol - cwrs byr o bell a gynlluniwyd i'w gwblhau gan gyfranogwyr pan fo'n gyfleus iddynt. Cyn mynychu rhan dau a rhan tri. Mae yna 6 o wersi ar-lein tua 30 munud o hyd i chi eu cwblhau yn eich amser eich hun.
Rhan Dau - Gweithdy ymarfer sgiliau 3 awr dros Zoom.
Rhan tri - Gweithdy dewisol ar ffurf gweminar i ddatblygu arferion cyfredol a chynnal sgiliau. Gyda mynediad cyfredol i'r deunyddiau cyflwyniadol am 6 mis.
Canlyniadau dysgu:
Rhan Un:
- Bydd modd i gyfranogwyr egluro sut y daeth yr arfer o Gyfweld Ysgogiadol i fod.
- Bydd cyfranogwyr yn gwybod beth yw amcanion Cyfweld Ysgogiadol.
- Bydd cyfranogwyr yn gwybod am yr amrywiaeth o sefyllfaoedd lle caiff Cyfweld Ysgogiadol ei ddefnyddio ar hyn o bryd.
- Bydd cyfranogwyr yn deall effeithiolrwydd Cyfweld Ysgogiadol fel y caiff ei bennu gan astudiaethau ymchwil.
Rhan Dau:
- Bydd cyfranogwyr yn deall model sylfaenol yr arfer o Gyfweld Ysgogiadol.
- Bydd modd i gyfranogwyr feirniadu eu harferion Cyfweld Ysgogiadol eu hunain
- Bydd cyfranogwyr yn gwybod sut i drefnu a datblygu arferion a chymorth gan gymheiriaid mewnol.
- Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i gael mynediad i gymorth hyfforddi a sail ymarfer/gwybodaeth ddatblygol Cyfweld Ysgogiadol.
Rhan Tri:
- Bydd modd i gyfranogwyr feirniadu eu harferion Cyfweld Ysgogiadol eu hunain
- Bydd cyfranogwyr yn gwybod sut i drefnu a datblygu arferion a chymorth gan gymheiriaid mewnol.
- Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i gael mynediad i gymorth hyfforddi a sail ymarfer/gwybodaeth ddatblygol Cyfweld Ysgogiadol