Blwyddyn mewn Gwaith Gam wrth Gam
Cam 1
Darllenwch Ffeithlen BMG (.pdf) i wneud yn sicr eich bod yn gymwys i gymryd rhan yn y cynllun ac i sicrhau eich bod yn deall oblygiadau cymryd rhan ynddo, yn enwedig y ffaith na fydd gennych statws myfyriwr ac effaith hynny ar gyllid, a'r ffaith na fyddwch yn gallu byw yn llety'r Brifysgol.
Cam 2
Cysylltwch â Gwasanaeth Gyrfaoedd i gael rhagor o fanylion ac i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych, er mwyn ichi allu penderfynu ar sail wybodus a yw hwn yn ddewis da ichi.
Hefyd, os nad ydych chi'n sicr am y math o waith yr hoffech ei wneud neu'r sector yr hoffech weithio ynddo, edrychwch ar feysydd gyrfa sy'n gysylltiedig â'r pwnc rydych yn ei astudio ac ystyriwch wneud apwyntiad i weld un o'n Hymgynghorwyr Gyrfa i drafod eich syniadau a chael cymorth i benderfynu.
Cam 3
Os penderfynwch, ar ôl trafod â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd, yr hoffech fynd amdani, llenwch y ffurflen ar-lein (dim rhwymedigaeth) cyn gynted â phosbl i gadarnhau eich diddordeb yng nghynllun BMG.
Ar ôl derbyn eich ffurflen yn Cadarnhau Diddordeb, bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn gofyn am gymeradwyaeth 'mewn egwyddor' gan eich Pennaeth Adran ichi gymryd rhan yn y Cynllun BMG.
Cam 4
Chwilio am leoliad. Dechreuwch chwilio cyn gynted ag y gallwch. Hysbysebir nifer o agoriadau o fis Medi ymlaen ac mae'r hysbysebu'n para tan y mis Awst canlynol, ychydig cyn i'r lleoliad ddechrau! Ond cyfnodau hysbysebu byr sydd i rai lleoliadau, e.e. dyddiadau cau cyn mis Rhagfyr bob blwyddyn, felly'r cynharaf y dechreuwch chwilio, y mwyaf byd o gyfleoedd fydd yno ichi.
Sylwch os gwelwch yn dda: ein dyddiad cau bob blwyddyn ar gyfer cadarnhau lleoliadau BMG yw 15 Medi. Os nad ydych wedi sicrhau lleoliad erbyn hynny, bydd disgwyl ichi ddychwelyd i'r Brifysgol yn ddiweddarach y mis hwnnw i barhau â'ch astudiaethau a chwblhau'ch blwyddyn olaf heb gymryd blwyddyn mewn gwaith.
Mae gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd gyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar eich cyfer. Man cychwyn da yw ein porth ar-lein gyrfaoeddABER sy'n hysbysebu llu o wahanol agoriadau. Mae ein gweddalennau, Dod o Hyd i Brofiad Gwaith Hefyd wedi eu cynllunio i roi cymorth ac adnoddau defnyddiol wrth ichi chwilio am agoriadau.
Hefyd, pan gawn fanylion gan gyflogwyr unigol ynglŷn â chyfleoedd perthnasol, rydyn ni'n eu hanfon ymlaen at fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r broses Cadarnhau Diddordeb yng nghynllun BMG ar-lein gyda ni fel y nodir yn Cam 3.
Gall staff ein Gwasanaeth Gyrfaoedd gynnig pob math o gymorth ac arweiniad ichi, er enghraifft:
- Efallai yr hoffech wneud cais ar hap i sefydliad sydd o ddiddordeb mawr ichi.
- Neu, efallai y gofynnwyd ichi lenwi ffurflen gais neu anfon CV a llythyr atodol, a'ch bod angen ychydig o gymorth gyda hyn, neu yr hoffech i rywun edrych drostynt.
- Efallai bod cyflogwr wedi gofyn ichi ddod i gyfweliad neu ymweld â chanolfan asesu a bod angen ichi baratoi am hyn.
Byddem yn barod iawn i'ch cynorthwyo gyda'r holl bethau hyn! Felly, defnyddiwch y Gwasanaeth Gyrfaoedd bryd bynnag y dymunwch a cyslltwch â ni unrhyw bryd. Mae sesiynau galw-heibio gyda’r Ymgynghorwyr Gyrfa ar gael hefyd yn eich adran.
Mae hefyd yn syniad da mynychu gweithdai a gyflwynir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd (neu wylio’r recordiadau ar ôl y digwyddiad) ar lawer o bynciau sy'n ymwneud â dod o hyd i brofiad gwaith. Mae yna restr o weithdai sydd ar ddod yn adran Digwyddiadau ar gyrfaoeddABER; rydym hefyd yn anfon hysbysiadau e-bost pan fydd y rhain wedi'u hamserlennu. Yn ogystal â gweithdai, mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd hefyd yn darparu ystod o Daflenni Cymorth a fydd hefyd yn ddefnyddiol.
Cam 5
Cadwch y momentwm! Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi hefyd, i roi gwybod ichi a yw eich cais am gymeradwyaeth 'mewn egwyddor' gan Bennaeth yr Adran wedi'i dderbyn, ond hefyd i holi sut mae pethau'n mynd ac i awgrymu cyfleoedd am leoliadau y gallech eu hystyried. Ond cofiwch, eich cyfrifoldeb cyffredinol chi yw trefnu'r lleoliad.
Cam 6
Llwyddo i gael lleoliad. Llongyfarchiadau! Cofiwch roi gwybod inni cyn gynted ag y gallwch trwy e-bostio gyrfaoedd@aber.ac.uk neu alw heibio swyddfa'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn y Llyfrgell Hugh Owen. Byddwn angen ichi lenwi'r ffurflen Hysbysiad Lleoliad BMG a'i hanfon yn ôl atom cyn gynted ag y bo modd.
Byddwn yn gwirio manylion y lleoliad ac yn gofyn am gadarnhad terfynol gan Bennaeth eich adran academaidd y cewch chi gymryd rhan yn y cynllun BMG. Ar ôl i ni dderbyn hyn, fe gysylltwn â Chofrestrfa Academaidd y Brifysgol i roi gwybod eich bod yn cymryd rhan yn y cynllun ac fe fyddan nhw'n diweddaru eich cofnod myfyriwr a rhoi gwybod i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Byddwn yn cadw cyswllt â chi a gwneud yn sicr eich bod yn gwybod pryd y bydd popeth yn ei le ac yn barod ichi symud ymlaen i gymryd rhan yn BMG.
Pe byddech ar unrhyw adeg yn penderfynu nad oes gennych ddiddordeb bellach i gymryd rhan yn y cynllun a weinyddir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd, rhowch wybod i ni ar unwaith trwy e-bostio gyrfaoedd@aber.ac.uk.