Ymchwilwyr Uwchraddedig
Weithdai datblygu gyrfa
Mae ystod o weithdai datblygu gyrfa ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer doethuriaeth yn rhedeg yn yr ail tymor. Ymhlith y rhain mae:
- Gyrfaoedd y tu allan i’r byd academaidd
- Cynllunio eich gyrfa academaidd
- CVs anacademaidd/academaidd
- Rhwydweithio ac amlygu eich proffil ar lein
- Cyfweliadau llwyddiannus
- Eich PhD y tu allan i’r byd academaidd – celfyddydau a dyniaethau
Archebwch le drwy ddolen gyswllt Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Ysgol y Graddedigion yma: https://training.aber.ac.uk
Datblygiad proffesiynol
Mae’r Brifysgol wedi tanysgrifio i’r Cynllunydd Datblygu Ymchwil Vitae. Mae ganddo gwrs ar-lein sy’n trafod holl gamau’r drefn cynllunio datblygiad proffesiynol (CDP).
Mae CDP yn elfen allweddol o gynnydd gyrfa a chynlluniwyd a datblygu’r cwrs hwn gan ddefnyddio adnoddau penodol ar gyfer ymchwilwyr sy’n dymuno gwneud y gorau o’u cyfleoedd, a chreu cyfleoedd newydd!
Gallwch gael mynediad at y cwrs CDP ar-lein i ymchwilwyr drwy Vitae.
Sesiynau ymgynghori gyrfaoedd un-i-un ar gyfer uwchraddedigion
Cynhelir sesiynau ymgynghori gyrfaoedd ar gyfer uwchraddedigion bob bore Mawrth (yn ystod y tymor a’r haf) yn y Ganolfan Uwchraddedig, Ysgol y Graddedigion.
Gallwch archebu lle yma: https://training.aber.ac.uk
Fel arall, gallech ddefnyddio ein gwasanaeth ‘galw heibio’ dyddiol a gynigir i bawb. Dewch i Llyfrgell Hugh Owen, Llun i Gwener yn ystod y tymor, 10-4yp.
Neu dewch i’r Swyddfa Gyrfaoedd, ar llawr waelod y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr. Cysylltwch a ni.
Gwybodaeth
- Mae’r eLyfr hwn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am gynllunio gyrfa i fyfyrwyr PhD.
- Mae Beyond the PhD yn cynnig golwg bersonol a phroffesiynol sy’n procio’r meddwl am fywyd ar ôl PhD i fyfyrwyr y celfyddydau a’r dyniaethau
- Mae’r adran adnoddau am ddim ar jobs.ac.uk yn cynnwys eLyfrau eraill, pecynnau cymorth a fideos gyrfaoedd i’ch helpu os ydych yn chwilio am swydd newydd ar hyn o bryd neu os oes angen cyngor arnoch wrth gynllunio a datblygu eich gyrfa.
- Researchers in Schools (RIS), rhaglen hyfforddi athrawon sy’n arbennig ar gyfer pobl sydd wedi cwblhau, neu wrthi’n cwblhau, doethuriaeth yn eu maes.
- Bydd adran gyrfaoedd gwefan Vitae yn eich helpu i ystyried eich dewisiadau o ran gyrfa, llywio drwy’r prosesau recriwtio a rheoli eich gyrfa yn y tymor hir.
- Mae Vitae yn cynnig ystod o adnoddau a gwybodaeth ar gyfer eich Datblygiad Proffesiynol.
- What do Researchers Do? Cyrchfannau cyntaf graddedigion doethurol yn ôl pwnc.
Cysylltiadau Defnyddiol
- Euraxess – menter Ewrop gyfan yn darparu mynediad at swyddi, cyllid a chyngor ynglŷn ag ymchwil.
- Find-a-Post-Doc - hysbysfwrdd swyddi ar gyfer cyfleoedd yn y DU ac yn fyd-eang.
- PhD Jobs – hysbysfwrdd swyddi gan jobs.ac.uk yn hysbysebu swyddi gwag i ymgeiswyr PhD.
- Academic Jobs Vacancies - erthyglau ar jobs.ac.uk. Mae'r tudalen hefyd yn cynnwys linciau i erthyglau defnyddiol sy'n ymwneud a gyrfaoedd, wedi' ysgrifennu gan academyddion.
- Research Gate - rhannwch eich ymchwil.
- ABERcareers– Porth Gwasanaeth Gyrfaoedd, chwiliwch am swyddi a digwyddiadau.