Uwchraddedigion
Croeso! Mae yna nifer o resymau dros ddechrau ar gwrs astudio pellach. Mae gan rai myfyrwyr uwchraddedig syniad da ynghylch beth maen nhw am ei wneud ar ôl gorffen eu cwrs - yn wir, yn aml mae'r cwrs a ddewiswyd ganddynt yn gam tuag at eu gyrfa yn y dyfodol. Mae eraill, serch hynny, yn dal yn ansicr ynghylch beth i'w wneud.
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn brofiadol iawn wrth helpu uwchraddedigion i adnabod yr opsiynau mwyaf addawol sydd iddynt ac i weithredu arnynt. Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth pwrpasol o safon i chi fel myfyriwr uwchraddedig, boed eich gofynion yn rhai penodol neu'n ansicr ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, cawn fod y rhan helaeth o uwchraddedigion yn elwa o gael trafodaeth un-i-un ag ymgynghorydd gyrfaoedd ynghylch eu sefyllfa bresennol a'u cynlluniau yn y dyfodol.