Myfyrwyr Rhyngwladol

Fel myfyriwr rhyngwladol sy’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gennych hawl i ddefnyddio holl gyfleusterau’r Gwasanaeth Gyrfaoedd.  Gallwn gynnig cymorth a chyngor i fyfyrwyr o bob pwnc a chenedl ynglŷn ag astudiaeth uwchraddedig, dewis gyrfa neu ddod o hyd i waith a phrofiad gwaith.

Er hyn, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Mae’r wybodaeth sydd ar gael wedi ei seilio ar farchnad lafur graddedigion y Deyrnas Unedig (DU), a’i systemau recriwtio ac ymgeisio. Mae’n bosib y bydd y rhain yn wahanol i’r rheini yn eich gwlad gynefin.
  • Bydd angen Cerdyn Yswiriant Cenedlaethol arnoch i weithio yn y DU. Gweler ein taflen i gael mwy o wybodaeth.
  • Gallwn roi gwybodaeth i chi ynglŷn â ble i edrych am waith, ond ni all y Gwasanaeth Gyrfaoedd wneud cais ar eich rhan. Yn y DU disgwylir i chi gynnig am swyddi eich hunan.
  • Rydym yn hapus i gynnig cyngor ar strwythur a chynnwys eich ffurflenni cais a’ch CV, ond ni allwn eu hysgrifennu ar eich rhan. Ni allwn ychwaith olygu yn drwyadl na chywiro pob camgymeriad sillafu a gramadeg.  Er hyn, mi wnawn dynnu sylw at unrhyw faes sydd angen gwelliant.
  • Rhaid i’ch cais fod yn eich geiriau eich hunan, a bydd cyflogwyr yn disgwyl bod gan raddedigion o brifysgolion ym Mhrydain feddu ar feistrolaeth dda o’r iaith Saesneg.
  • Ni allwn gynnig cyngor ynglŷn â’ch hawl i weithio yn y DU – er mwyn cael gwybodaeth am hyn gweler UKCISA a hefyd dudalennau’r Brifysgol sy’n rhoi cymorth a chyngor ar fisa.

 

Paratoi ymlaen llaw

Mae chwilio am waith fel arfer yn cymryd mwy o amser nag y tybir felly ewch ati cyn gynted â phosib.  Mae lleoliadau a chynlluniau i raddedigion yn cael eu hysbysebu hyd at ddeuddeg mis ymlaen llaw.  Felly, os ydych am ddod o hyd i swydd neu leoliad fydd yn cychwyn ar ddiwedd eich blwyddyn academaidd, dylech ddechrau chwilio cyn i’r flwyddyn honno gychwyn.

Hyd yn oed os bydd hi’n rhy gynnar i gynnig am gyfleoedd sydd wedi eu hysbysebu, gallwch fynd ati i ymchwilio a dod o hyd i gwmnïau yn y sector sydd o ddiddordeb i chi.  Gallwch hefyd wella eich CV.

 

Byddwch yn Rhagweithiol

Os ydych yn ymweld â’ch cartref cyn diwedd eich cwrs, efallai gallwch drefnu cyfweliadau tra byddwch yno.  Mae’n well gan y rhan fwyaf o gyflogwyr gyfarfod â darpar ymgeiswyr wyneb yn wyneb, os yn bosib.

Casglwch wybodaeth am sefydliadau a allai fod â gwaith yn y sector perthnasol i chi a danfonwch geisiadau ar hap yn yr wythnosau a’r misoedd sy’n arwain at eich ymweliad.  Mae ein taflen ar geisiadau ar hap yn cynnig awgrymiadau a chyngor.

 Er mwyn dechrau casglu gwybodaeth sy’n benodol am wlad ewch at wefannau fel TARGETjobs a ProspectsMae’r rhain hefyd yn hysbysebu lleoliadau a swyddi i raddedigion.  Mae gwefannau defnyddiol ychwanegol ar gael ar ein tudalen adnoddau.

Rhwydweithio

Os oes gennych deulu neu ffrindiau yn eich gwlad gynefin, rhowch wybod iddynt am y math o waith yr ydych yn chwilio amdano, ac yn lle.

Efallai bydd gan rhai o’ch cysylltiadau wybodaeth am eich sector targed ac felly mewn sefyllfa i gynnig cyngor da.  Mae’n bosib bydd eraill yn digwydd clywed am gyfleoedd neu sefydliadau y gallech wneud cais iddynt.

Mae gan y Cyngor Prydeinig gymdeithasau gwaith mewn llawer gwlad ar gyfer pobl sy’n dychwelyd adref ar ôl astudio yn y DU.