CYF: 66-2410-3529917 - Mwy o leoedd astudio yn y dref
Dy sylw: I believe there should be more study spaces available in town. A majority of students live in town and the workstation is simply too small. Due to the closure of old college a lot of spaces were lost. Repurposing buildings owned by the uni for this would be a cost effective way of making study spaces more accessible for people who can't always get up to campus
Ein hymateb:
Mae arnaf ofn nad ydym yn berchen ar lawer o adeiladau yn y dref bellach, ac mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau sy’n eiddo i ni wedi cael eu llyncu gan Brosiect yr Hen Goleg. 10 Maes Lowri yw'r unig adeilad sy'n eiddo i'r Brifysgol yn y dref nad yw wedi'i gynnwys yn y prosiect hwnnw, ac ar hyn o bryd nid yw ar gael i'w ddefnyddio at y diben hwn oherwydd ei fod yn ofod addysgu ac ymchwil pwrpasol ar gyfer yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Bydd gan yr Hen Goleg, maes o law, ofod 24-7 ychwanegol i fyfyrwyr yn rhan o’i darpariaeth, a'r cynllun presennol yw sicrhau bod y Weithfan ar gael i fyfyrwyr nes bod yr Hen Goleg yn agor, o leiaf. Trafodwyd ymholiadau archwiliol i ehangu maint y Weithfan, ond mae'n annhebygol y bydd hyn yn digwydd ar hyn o bryd.
Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn helpu, ond os oes angen unrhyw beth arall arnoch, cysylltwch â ni.