CYF: 66-2405-529221 - Mwy o Ofodau Di Dor
Dy sylw: Not mowing for the month of May has been fantastic, the campus is extremely beautiful with the grass and wildflowers growing out. There are also a lot of really good reasons not to mow - it's better for the bees, insects, fungus, and other wildlife, and native plants prevent erosion. I suggest more areas of campus never be mowed. The University of Nottingham is doing it. The lawns are fine, but they're nicer as meadows, they're too muddy to sit on most of the time either way. I love that the school is doing no mow may, it's a great start, but maintenance costs are lower for areas universities let go to meadow, and it's very, very beautiful.
Ein hymateb:
Diolch am yr e-bost cadarnhaol ynglŷn â menter Di Dor Mai.
Rwy'n cytuno bod y campws yn ffynnu pan fydd rhannau o'r campws yn cael eu gadael i dyfu.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar gynllun rheoli tirwedd 10 mlynedd sydd wedi'i ddatblygu trwy grŵp llywio ledled PA ac sy'n cynnwys cynyddu'r amcanion bioamrywiaeth flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rhai o'r amcanion presennol yw:
- Gwella gwerth bywyd gwyllt glaswelltiroedd amwynder drwy gyfyngu ar dorri’r gwair lle bo hynny'n briodol a lleihau ffrwythlondeb pridd drwy ddefnyddio peiriannau torri a chasglu lle bo hynny'n ymarferol.
- Rheoli ardaloedd sylweddol o bob campws fel dolydd blodau gwyllt sy'n cefnogi amrywiaeth ffyniannus o infertebratau.
- Adnabod a chynnal ardaloedd "aflêr" a heb eu trin ar y ddau gampws.
- Sicrhau bod rheoli tir y campws yn ystyried ac yn diogelu bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau (bwyd a lloches i fywyd gwyllt, bioamrywiaeth pridd gyda gwarchodaeth gyfreithiol benodol o adar sy'n nythu ac ystlumod sy’n clwydo).