CYF: 66-2402-2260523 - Rheoliadau parcio ceir

Dy sylw: Make student parking permits available for students who live in town, or reduce the parking fare in the visitor car park

Ein hymateb:

Diolch yn fawr am eich ebost.
Ni allwn newid telerau ac amodau ein rheoliadau parcio. Mae'r rhain wedi'u cymeradwyo drwy broses lywodraethu arferol y brifysgol gan ystyried llawer o ffactorau. O'i gymharu â meysydd parcio yn Aberystwyth a Cheredigion yn gyffredinol, rydym yn hyderus bod ein prisiau yn deg a rhesymol iawn. Mae'r holl incwm yn cael ei ailfuddsoddi i gynnal yr ystâd
Hefyd, mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gyrraedd carbon sero net erbyn 2030. Mae sicrhau teithio cynaliadwy yn rhan o'r ymrwymiad hwn ac felly rydym yn annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fo’n bosibl.