CYF: 66-2311-9020914 - Cael gwared ar dywelion papur

Dy sylw: The removal of paper towels from bathrooms is wholly inconsiderate of those with sensory processing issues (noise sensitivity) who cannot use the extremely loud hand dryers on campus.

Ein hymateb:

Diolch am eich sylw drwy Rho Wybod Nawr ynghylch tywelion papur.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o adolygiad cynaliadwyedd ehangach sy’n anelu at leihau effaith amgylcheddol y 4.5 miliwn o dywelion papur sy’n cael eu defnyddio yn y brifysgol bob blwyddyn. Nid yw defnyddio cymaint â hyn o bapur, yn ogystal â'r gwaith rheoli gwastraff canlyniadol, yn cyd-fynd â rhai targedau cynaliadwyedd allweddol ac felly roedd yn bwysig adolygu hyn.
O ganlyniad, mae’r Brifysgol wedi ailgyflwyno mesurau a ddefnyddiwyd yn y cyfnod cyn y pandemig, lle mae cyfleusterau’r ystafelloedd ymolchi yn cynnwys naill ai sychwyr dwylo neu dywelion papur.
Fodd bynnag, i gydnabod rhai o’r heriau a brofir wrth gyflwyno’r newid hwn, mae tywelion papur wedi’u cadw ym mhob cyfleuster ymolchi hygyrch.
Mae dosbarthwyr tywelion papur yn cael eu cadw os bydd angen i ni ailgyflwyno tywelion papur at ddibenion rheoli heintiau yn y dyfodol.