CYF: 66-2305-5256911 - Diolch am No Mow May

Dy sylw: I just wanted to say how much I am enjoying seeing the effects of 'no mow May' around campus already. Every time I walk to lectures or the library I feel like I get to see new plants and flowers and it makes me smile to see so much nature! I hope that this project will be repeated again next year or even extended to cover more of the year!

Ein hymateb:

Diolch i chi am eich sylwadau cadarnhaol am effeithiau ‘No Mow May '. Fel tîm tiroedd, rydym yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y brifysgol i roi camau newydd y cynllun gweithredu bioamrywiaeth ar waith. Mae llawer o'r gwaith hwn yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Am y tair blynedd diwethaf, mae'r brifysgol wedi ennill statws Baner Werdd, Achrediad Arian fel Campws sy'n Croesawu Draenogod ac mae rhai academyddion ac ymchwilwyr yn IBERS wedi dangos tystiolaeth o dyfiant o amgylch cynefinoedd lleol.

Byddwn yn dal i dorri glaswellt yn y mannau lle mae ychydig iawn o fioamrywiaeth, ac mae hyn yn cynnwys y mannau gwyrdd i'r dde wrth i chi yrru i mewn i'r campws ac o amgylch rhai adeiladau. Bydd y mannau hyn yn dal i dyfu wrth i ni lwyddo i adeiladu ar y strategaeth fioamrywiaeth sydd eisoes ar waith. Nid ydym yn torri o amgylch y gwrychoedd, mae'r cloddiau o flaen Adeilad Hugh Owen (un enghraifft) yn dal i ffynnu yn ogystal â llawer o rannau eraill o'r campysau. Rydym hefyd yn gadael y lleiniau cysgodi heb eu cyffwrdd ac yn torri'r glaswellt sy'n effeithio ar welededd i ddefnyddwyr ffyrdd yn unig.