CYF: 66-2303-6187824 - Rhoi yn hytrach na Thaflu

Dy sylw: Within the accommodation block there should be a place where students can deposit items they no longer need or want and others who are in need can pick-up. I think that this would be beneficial to all students who will be leaving Aber for whatever reason, so they don't have to think about throwing things away.

Ein hymateb:

Diolch am eich awgrym.

Rydym ni’n cynnal ymgyrch “bring it don’t bin it” bob blwyddyn, gan ddechrau ar ôl egwyl y Pasg, i fyfyrwyr roi unrhyw bethau sydd ganddyn nhw sydd bellach yn ddieisiau neu’n ddiangen. Yna rydyn ni’n rhoi’r eitemau hyn i undeb y myfyrwyr ac elusennau cymorth lleol. Cadwch olwg am ebost gan y byddwn yn anfon gwybodaeth dros yr wythnosau nesaf am ble y gallwch roi eich eitemau a beth sy’n cael ei wneud gyda’r eitemau rydych chi’n eu rhoi. Os ydych chi’n gadael cyn i ni anfon y wybodaeth, gadewch unrhyw eiddo rydych chi’n awyddus i’w roi yn eich ystafell gan labelu’r eitemau’n glir a gadael i ni wybod eich bod yn hapus i ni roi’r eitemau ar eich rhan.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni yn ddi-oed yn y swyddfa llety.