CYF: 66-2303-223821 - Talu i Barcio

Dy sylw: Free parking for students would encourage better attendance. Or discounted now that charges are being introduced in May.

Ein hymateb:

Diolch am eich ebost.

Cafodd costau parcio eu hatal dros dro yn ystod y pandemig ond fe’u hailgyflwynwyd beth amser yn ôl. Yr unig gostau sy’n ailgychwyn ym mis Mai yw rhai i ymwelwyr sy’n defnyddio’r meysydd parcio talu ac arddangos ger Canolfan y Celfyddydau. Cafwyd oedi wrth newid y peiriannau i dderbyn cardiau yn hytrach nag arian parod, i gyd-fynd â pholisi’r Brifysgol ers peth amser o fod yn gampws nad yw’n derbyn arian parod.

Rydym yn ymfalchïo bod ffioedd y meysydd parcio’n rhesymol iawn ac yn falch fod Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddar wedi’i gosod ymhlith y deg lle rhataf i fyfyrwyr yn y DU. 

Mae incwm y meysydd parcio’n cyfrannu’n uniongyrchol at gynnal a chadw’r ffyrdd ar holl gampysau’r Brifysgol.