CYF:66-2110-684206 - Ebyst yn Gymraeg

Dy sylw: Struggling to see/engage with emails as I don't understand Welsh. Can there be an option to receive in English or Welsh? I appreciate the opposite would be said for anyone who can't understand English.

Ein hymateb:

Diolch am gysylltu. Caiff gohebiaeth at grwpiau o fyfyrwyr ei hanfon yn Gymraeg a Saesneg yn unol â safonau’r Gymraeg a pholisïau dwyieithog y Brifysgol.
Rydym ni’n falch i fod yn sefydliad cynhwysol a dwyieithog ac am i’r holl fyfyrwyr gael profiad cadarnhaol o’r Gymraeg a’i diwylliant yn ystod eu cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Prifysgolion yng Nghymru a llawer o sefydliadau eraill hefyd yn ddarostyngedig i Reoliadau Safonau’r Gymraeg. Mae’r safonau statudol hyn yn esbonio pa wasanaethau sydd angen eu darparu yn Gymraeg, gyda’r brif egwyddor na ddylid ymdrin â’r Gymraeg yn llai ffafriol.
Dan Safonau’r Gymraeg (safon 4) rhaid i ohebiaeth i sawl derbynnydd fod yn ddwyieithog a rhaid peidio â thrin y fersiwn Cymraeg ‘yn llai ffafriol’. I gydymffurfio â’r gofyniad hwn, caiff gohebiaeth Prifysgol Aberystwyth ei gosod fel arfer gyda’r testun Cymraeg ar y chwith a’r testun Saesneg ar y dde gyda llinell pwnc ddwyieithog. Os oes gennych chi enghraifft o ebost lle nad yw’r testun Saesneg yn cael ei ddangos yn gywir neu’n anodd ei ddarllen, a fyddech gystal ag ebostio copi i canolfangymraeg@aber.ac.uk gan gadarnhau’r math o ddyfais rydych chi’n ei defnyddio i edrych ar yr ebost.