CYF:66-2205-8942009 - Chwistrellu chwyn
Dy sylw: I think we should stop the use of herbicides on campus.
Ein hymateb:
Diolch am gymryd amser i gwblhau ffurflen Rho Wybod Nawr ynghylch chwistrellu chwyn.
Rydym ni’n defnyddio cyn lleied â phosibl o Chwynladdwyr yma yn Aberystwyth i drin ein chwyn. Pan fyddwn ni’n chwistrellu, rydym ni’n ei wneud er mwyn rheoli twf ar hyd waliau adeiladau, ac o gwmpas arwyddon, i gynorthwyo i leihau’r angen i strimio a gwella golwg weledol twf y gwair ar ein campysau. Rydym ni’n ei roi ar arwynebau llwybrau a sianeli ar ochr ffyrdd, oherwydd os cânt eu gadael heb eu trin, gall llwybrau a phalmant fynd yn ddiolwg ac yn beryglus yn gyflym. Rydym ni wedi lleihau’r nifer o weithiau rydym ni’n chwistrellu ac yn ei ddefnyddio ar lwybrau a sianeli ochr ffyrdd ddwywaith y flwyddyn (mis Ebrill/Mai a mis Medi) yn unig. Mae ysgubo ffyrdd ac ymylon yn rheolaidd wedi cynorthwyo ymhellach gyda rheoli chwyn a lleihau’r defnydd o gemegau.
Mae’r chwynladdwr cemegol a ddefnyddir yn seiliedig ar sylwedd o’r enw glysoffad, sy’n rheoli pob math ar lystyfiant. Mae gan glysoffad wenwyndra isel iawn i anifeiliaid a risg finimal i bobl. Dangosir mai glysoffad yw’r dull mwyaf cost effeithiol o reoli chwyn, ac rydym ni’n parhau i adolygu cyngor y Llywodraeth a’r Gyfarwyddiaeth Iechyd a Diogelwch ar y defnydd o chwynladdwyr wrth i ymchwil barhau i ddatblygu yn y maes. Mae gennym ni hefyd wn fflamau ac rydym ni’n ei ddefnyddio i leihau defnydd o chwynladdwr ac fe’i defnyddir pan fydd angen rheoli chwyn y tu allan i’r cyfnod uchod ac ar fannau â phalmant ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau arbennig.
Fel y byddwch yn gweld pan fyddwch chi’n cerdded o gwmpas ein campysau a’n coetiroedd, mae gennym nifer o ardaloedd naturiol lle nad ydym ni’n defnyddio unrhyw chwynladdwyr ac wedi gadael i’r ardaloedd hyn ddatblygu’n naturiol gyda rheolaeth gyfyngedig i reoli a chynnal cyfleuster gweithio ac astudio diogel. Mae hyn yn rhan o’n Cynllun Rheoli Tirwedd a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gweithredol yn 2021 pan sefydlwyd gweithgor ar y cyd i ddatblygu cynllun cadwraeth tymor hir i Diroedd Campws Penglais. Roedd y grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr Cangen Ceredigion o Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, a swyddogion a staff Prifysgol Aberystwyth o IBERS, Iechyd a Diogelwch (Cadwraeth a’r Amgylchedd), y Ganolfan Chwaraeon, Ystadau. Rydym felly’n sicrhau ein bod yn parhau i gynnal ein statws hanesyddol rhestredig Gradd II* a Baner Werdd.
Gan fod y campws yn dirwedd fywiog sy’n cael ei ddefnyddio’n aml, gyda sawl defnydd gwahanol a dyheadau gwahanol randdeiliaid, rydym yn ceisio rheoli a bodloni disgwyliadau pawb gyda gofal.