CYF:66-2205-273206 - Campws #MaiDiDor?

Dy sylw: Given that it is No Mow May and that a report has just come out about a 60% decline in insect numbers in the UK how much of the 'lawn' space will be set aside this year for wildflowers? Could we reconsider the extensive mowing policy currently employed at Aber Uni?

Ein hymateb:

Diolch am fynegi pryderon pwysig ynghylch bioamrywiaeth ar y campws. Mae gennym bolisi manwl ar gyfer rheoli'r dirwedd ar Gampws Penglais. Cafodd ei ddatblygu gan arbenigwyr, a'i fwriad yw hyrwyddo bioamrywiaeth a chadwraeth y dirwedd. Yn unol â chyngor yr arbenigwyr, ceir llawer o ardaloedd lle nad yw’r borfa’n cael ei thorri, a hynny er mwyn hyrwyddo'r bywyd gwyllt. Mae gennym sawl ardal ar ein campysau sy'n cael eu rheoli er mwyn cynorthwyo'r bywyd gwyllt naturiol, ac rydym wedi bod yn cydweithio â sawl corff er mwyn datblygu hyn. Cawsom yn ddiweddar Wobr Arian am fod yn gampws sy'n ystyriol o ddraenogod ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r adran yn y Brifysgol sy'n gyfrifol am yr amgylchedd i sicrhau ein statws 'ystyriol o wenyn', gan fod gennym sawl cwch gwenyn ar ein tiroedd.

Rydym yn croesawu adborth fel y gallwn drafod sut y gallwn ddatblygu rhagor ar ein polisi, gan gynnwys ychwanegu rhagor o ardaloedd lle nad yw'r borfa'n cael ei thorri. Byddem yn awyddus iawn i drefnu cyfarfod i drafod hyn ymhellach â chi; os hoffech inni drefnu cyfarfod, cysylltwch â ni ar chwaraeon@aber.ac.uk