CYF:66-2104-5938715 - Hygyrchedd ar y campws

Dy sylw: the accessibility on campus is poor, the white and yellow lines on the edge of steps are faded and as a visually impaired student this is concerning,there is a lack of signage in places and steep areas of the campus need more railing

Ein hymateb:

Mae'r Brifysgol yn edrych yn barhaus ar sut i wella mynediad i'w hadeiladau a'i gwasanaethau, gan gydnabod y gall daearyddiaeth campws Penglais yn benodol arwain at anawsterau i unigolion sydd â gofynion hygyrchedd neu symudedd. Mae cynnal a chadw mesurau presennol sydd ar waith i gynorthwyo'r rheini â gofynion hygyrchedd a chynnal a chadw hefyd yn cynrychioli rhaglen barhaus o waith, er enghraifft efallai eich bod wedi sylwi bod yr ymylon ar y grisiau o amgylch Adeilad Hugh Owen wedi'u hail-baentio dros yr wythnosau diwethaf.

Fel y gwyddoch eisoes efallai, mae'r Brifysgol wedi datblygu a chyhoeddi Canllawiau Mynediad ar gyfer adeiladau a gofodau addysgu, trwy bartneriaeth ag AccessAble, sydd ar gael yn: https://www.accessable.co.uk/organisations/aberystwyth-university. Mae'r Canllawiau Mynediad yn ceisio darparu gwybodaeth berthnasol i unrhyw ddefnyddwyr sy'n ymwneud ag adeiladau penodol a/neu fannau addysgu, i gyfarwyddo unrhyw ymweliadau yn seiliedig ar ofynion yr unigolyn ei hun.

Mae gan y Brifysgol hefyd Grŵp Aber Hygyrch, sy'n cyfarfod yn rheolaidd i ystyried prosiectau sydd â'r nod o gynyddu hygyrchedd myfyrwyr ar y campws. Mae gosod Lifft Gadael mewn Argyfwng yn Adeilad Hugh Owen yn un prosiect o'r fath sydd wedi cael cefnogaeth gan Grŵp Hygyrch Aber.

Os oes unrhyw ardaloedd penodol ar y campws sydd angen sylw arbennig, byddem yn fwy na pharod i dderbyn y wybodaeth honno er mwyn gallu cynllunio gwaith yn y dyfodol, gan roi adborth i Grŵp Aber Hygyrch.