CYF:66-2002-2873624 - Bathodynnau Rhagenwau

Dy sylw: Train staff to look for and respect pronoun pins. The Su provides them but there is no point in wearing them if you still constantly get misgendered

Ein hymateb:

Gofynnwn i'r holl staff wneud y modiwlau hyfforddiant ar-lein ar Gydraddoldeb ac Amrywioldeb, a Rhagfarn Ddiarwybod. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 sy'n cynnwys 5 thema. Un o'r rhain yw 'Sicrhau bod ein staff yn cael hyfforddiant effeithiol mewn materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant' - a fydd yn golygu llawer o hyfforddiant wyneb-yn-wyneb dros y pedair blynedd nesaf, a fydd yn cwmpasu'r holl nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys hunaniaeth ryweddol. Hyd yn hyn rydym wedi darparu hyfforddiant ar urddas a pharch yn yr amgylchedd dysgu, hyfforddiant ar ymyrryd mewn sefyllfaoedd mewn modd priodol, a hyfforddiant ar iaith cydraddoldeb.