CYF:66-2002-5632528 - Polisi cyflwyno'n hwyr

Dy sylw: The university policy of granting late submissions an instant fail is punitive and unfair. In instances where technology fails or other elements outside the student’s control go wrong, these are not valid reasons the student should be punished. Other universities have an escalating scale depending on how late the submission is, which I think Aberystwyth should adopt.

Ein hymateb:

Mae polisïau Prifysgol Aberystwyth ynghylch e-gyflwyno, estyniadau, ac amgylchiadau arbennig yn bodoli i sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael eu cosbi am amgylchiadau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth. Ond, mae dyddiadau cau gwaith ysgrifenedig yn cael eu cymryd yn gwbl o ddifrif ac mae angen i fyfyrwyr reoli eu hamser yn gyfrifol er mwyn cyflwyno’u gwaith mewn pryd. Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu graddfa symudol i waith a gyflwynir yn hwyr.

Dylid cyflwyno gwaith cwrs yn unol â gofynion adrannol a dyddiadau cau a gyhoeddwyd. Oni bai y caniatawyd estyniad i’r myfyriwr bydd gwaith a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn cael marc o sero (0). Mae’r amgylchiadau lle gellid caniatáu estyniad, a chyfarwyddyd yn egluro beth i’w wneud os nad yw estyniad yn bosibl neu os gwrthodir estyniad, yn cael eu disgrifio’n glir. Os oes unrhyw beth yn digwydd sydd y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr, a’i bod yn rhy hwyr i ddyfarnu estyniad, gall y myfyriwr gyflwyno ffurflen amgylchiadau arbennig. Wedi dweud hynny, nid yw trafferthion gyda chyfrifiaduron neu beiriannau argraffu yn cael eu hystyried yn rhesymau dilys gan na ddylai myfyrwyr ei gadael tan y funud olaf i gyflwyno gwaith a dylent roi digon o amser i ddatrys trafferthion technegol cyn y dyddiad cau. Serch hynny, lle cafwyd trafferthion cyfrifiadurol cyffredinol ar draws y system, fe fyddem yn cymryd camau o’n hochor ni i estyn dyddiadau cau, ac mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol.

Rhoddir cyfarwyddiadau clir ynglŷn â chyflwyno gwaith yn electronig a’r hyn i’w wneud os yw myfyrwyr yn cael trafferthion technegol: 

https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/informationservices/e-learning/Failed-Submission-Policy-Cymraeg.pdf 

a. Ceisiwch gyflwyno gwaith mewn da bryd cyn yr amser cau er mwyn gallu datrys unrhyw drafferthion cyn bod yn rhaid cyflwyno.

b. Manteisiwch ar unrhyw gyfle a gewch i ymarfer cyflwyno gwaith gan ddefnyddio’r cyfrifiadur y byddwch yn ei ddefnyddio i gyflwyno’r gwaith go iawn. Os nad yw myfyrwyr yn gallu defnyddio’u cyfrifiaduron personol i gyflwyno, dylent ddefnyddio cyfrifiaduron y brifysgol sydd i’w cael mewn nifer o leoliadau ledled y Brifysgol.

c. Yn syth ar ôl cyflwyno dylech wirio i wneud yn sicr bod eich gwaith wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus. Mae cyngor ynglŷn â gwirio cyflwyniadau i’w gael trwy Blackboard yn ogystal â Chwestiynau Cyffredin Gwasanaethau Gwybodaeth.

ch. Dylai myfyrwyr roi gwybod i’w hadran ac i’r Tîm E-ddysgu (eddysgu@aber.ac.uk) am unrhyw drafferthion cyn gynted â phosibl.

e. Cadwch gopïau o unrhyw negeseuon e-bost a anfonir gan y system yn cadarnhau cyflwyno, yn ogystal â chymryd sgrin-lun o negeseuon am wallau.

Mae’r wybodaeth hon ar gael i staff a myfyrwyr trwy Blackboard a Chwestiynau Cyffredin Gwasanaethau Gwybodaeth.